1. Crynodeb

Wrth wneud ymchwil marchnad, byddwch chi'n casglu gwybodaeth er mwyn i chi fod yn fwy gwybodus ac er mwyn ichi allu gwneud gwell penderfyniadau am eich busnes. Mae cynllunio'n rhan bwysig o'r broses, ac mae defnyddio'r wybodaeth y byddwch chi'n ei chasglu mewn gwirionedd yr un mor bwysig. Mae'r adran hwn yn rhestru'r prif gamau yn y broses ymchwil marchnad ac yn rhoi templed ichi i'ch helpu i gynllunio'ch ymchwil marchnad.

2. Cynllunio'ch ymchwil marchnad

Cyn ichi ddechrau gwneud unrhyw ymchwil marchnad, paratowch gynllun. Mae cael cynllun gweithredu sydd wedi'i ystyried yn fanwl cyn dechrau'n gwneud y gwaith ymchwil yn haws ac yn eich cadw ar y trywydd iawn.

Byddwch yn glir am yr hyn rydych chi am i'r ymchwil ei gyflawni a pha benderfyniadau rydych chi am i’r ymchwil eich helpu i’w gwneud.

Er mwyn sefydlu'ch amcanion, gofynnwch ichi'ch hun:

  • pam rwy'n gwneud yr ymchwil hwn?
  • pa wybodaeth sydd ei hangen arna'i?
  • sut y bydda i'n defnyddio'r wybodaeth?

Wedyn, gallwch chi greu eich cynllun gyda’r hyn rydych chi am ei gyflawni’n glir yn eich meddwl.

3. Dadansoddi'ch canlyniadau a gweithredu arnynt

Dim ond un rhan o wneud ymchwil marchnad yw casglu gwybodaeth. Mae yr un mor bwysig dadansoddi'r wybodaeth a chael yr atebion i'r cwestiynau y gwnaethoch chi ofyn ichi'ch hun ar y dechrau.

Byddwch yn ofalus nad ydych chi'n gwneud i'r ymchwil "gydweddu" â'r syniadau sydd gennych cyn dechrau. Cadwch feddwl agored a byddwch yn wrthrychol. Defnyddio'ch canfyddiadau er mwyn gwneud gwell penderfyniadau yw hanfod ymchwil marchnad. Weithiau, bydd hynny'n golygu dweud na neu benderfynu peidio â gwneud rhywbeth.

Nodwch ganlyniadau'ch ymchwil er mwyn mireinio a siapio'ch syniadau. Drwy addasu'ch meddyliau cychwynnol er mwyn iddynt gyfateb yn well â'r hyn y mae'r farchnad am ei gael, byddwch chi'n cryfhau eich cynnig busnes ac yn rhoi'r siawns orau ichi'ch hun lwyddo.

Noder: Cofiwch gynnwys canlyniadau'ch ymchwil marchnad yn eich cynllun busnes.

Dysgwch fwy am Gynlluniau Busnes gyda'r cwrs BOSS hwn.

(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol).

Defnyddiwch y templed cynlluniwr ymchwil marchnata (MS Word 15kb) i gynllunio eich ymchwil marchnad.