Marchnata

Beth yw Marchnata?

Yn syml, marchnata yw gwneud yn siŵr bod y bobl iawn yn gwybod beth sy' gennych chi i'w gynnig, eu denu nhw atoch chi ac wedyn eu cael nhw i brynu. Mae'r adran hwn yn esbonio'n union beth yw marchnata (a beth nad yw marchnata) a sut mae rhoi hyn ar waith yn eich busnes.

Beth rydych chi'n ei werthu?

Er bod yr ateb i'r cwestiwn hwn yn amlwg efallai, fe all y ffordd yr ewch ati wneud gwahaniaeth rhwng llwyddo a methu. Mae'r adran hwn yn help ichi ddiffinio’ch cynnyrch neu'ch gwasanaeth mewn ffordd sy'n sicrhau'r llwyddiant mwyaf.

Adnabod eich cwsmer

Anghofiwch geisio gwerthu i bawb. Yn hytrach, rydych chi am werthu i bobl rydych chi'n gwybod y byddan nhw am brynu’ch cynnyrch neu'ch gwasanaeth. Mae'r adran hwn yn help ichi ganolbwyntio ar bwy yw'ch cwsmeriaid delfrydol tebygol.

Y Lle Iawn a'r Amser Iawn

Mae'n bwysig sicrhau bod eich cynnyrch neu'ch gwasanaeth ar gael yn y lle iawn ar yr adeg iawn a bod ei ansawdd yn iawn hefyd. Mae'r adran hwn yn tynnu sylw at y meysydd y mae angen ichi eu hystyried wrth ddarparu'ch cynnyrch neu'ch gwasanaeth i'ch cwsmer.

Hyrwyddo'ch busnes

Mae cyfleu'ch neges i ddarpar gwsmeriaid a'u perswadio nhw i brynu'n her. Mae'r adran hwn yn help ichi weld pa dechnegau i'w defnyddio er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau.

Cynllunio Ymarferol ar gyfer Marchnata

Cyn ichi neidio mewn i'w chanol hi a dechrau marchnata neu wario arian, mae'n hanfodol tynnu popeth at ei gilydd mewn Cynllun Gweithredu ar gyfer Marchnata. Mae'r adran hwn yn eich tywys gam wrth gam drwy broses paratoi'ch Cynllun Gweithredu Marchnata.

Gwerthu er mwyn Llwyddo

Hanfod marchnata yw dod o hyd i'r cwsmer iawn i'ch cynnyrch a'ch gwasanaethau a'u denu nhw atoch chi. Hanfod gwerthu yw derbyn yr archeb. Mae'r adran hwn yn eich tywys chi drwy'r camau gwerthu.

Cael eich cwsmer cyntaf

Y cwsmer cyntaf un yw'r un anoddaf ei ddenu bob tro. Mae'r adran hwn yn rhoi ychydig o gyngor call i'ch helpu i ymateb i'r her hon.

Parth Marchnata

Mae Parth Marchnata Busnes Cymru (Saesneg yn unig) yn llawn gwybodaeth, cyngor a chynghorion ar dynnu sylw at eich busnes – a chynyddu eich elw – trwy farchnata effeithiol, cyffrous.