1. Crynodeb

Cyn i chi ddechrau busnes, rhaid i chi benderfynu sut fath o fusnes mae am fod. Mae’r adran hwn yn taro golwg ar rai o’r opsiynau sydd ar gael i chi ac yn eich helpu i esbonio eich syniad busnes yn gyflym ac yn gryno.

2. Pa fath o fusnes?

Yn aml iawn, syniad newydd ydy’r sail dros ddechrau busnes. I rai pobl, meddwl am y syniad ydy’r rhan hawdd. Maen nhw’n gwybod yn union beth maen nhw am ei wneud ac yn awyddus i fwrw ymlaen i'w lansio. Mae eraill yn gwybod eu bod nhw am ddechrau busnes, ond does dim syniad ganddynt i weithio arno eto.

Os ydych chi wedi penderfynu eich bod chi am ddechrau busnes, ond does gennych chi ddim syniad i weithio arno, y cwestiwn nesaf ddylech chi ei ofyn i’ch hun ydy “Pa fath o fusnes ydw i am ei ddechrau?” Mae cannoedd o opsiynau, felly gadewch i ni edrych ar rai o'r mannau cychwyn mwyaf cyffredin.

  • canfod bwlch yn y farchnad a datblygu cynnyrch neu wasanaeth i lenwi’r bwlch hwnnw
  • gwella cynnyrch neu wasanaeth sy’n bodoli’n barod drwy wneud pethau mewn ffordd newydd, wahanol neu well
  • cynhyrchu cynnyrch sy'n bodoli'n barod drwy brynu'r cynnyrch neu’r rhannau
  • dosbarthu cynnyrch rydych chi’n eu prynu gan gyfanwerthwr, manwerthwr neu wneuthurwr
  • adeiladu busnes o gwmpas y sgiliau, y wybodaeth a'r profiad sydd gennych yn barod yn dilyn rolau blaenorol neu’ch diddordebau
  • prynu masnachfraint – busnes sy’n seiliedig ar fodel sicr sydd wedi’i brofi gan eraill yn y farchnad
  • prynu busnes sy’n bodoli’n barod neu ei gymryd drosodd

Rhowch gynnig ar ein cwrs BOSS Datblgu eich Syniad Busnes.

(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol)

Defnyddiwch yr ymarfer hwn (MS Word 14kb) i wneud nodiadau am eich syniad busnes. 

3. Disgrifio’ch cynnyrch neu’ch gwasanaeth

  1. Nawr eich bod wedi meddwl am syniad ar gyfer busnes, rhaid i chi allu esbonio hynny i rywun arall, a hynny’n gyflym ac yn gryno. Wedi’r cyfan, efallai bydd yn rhaid i chi geisio cael arian gan y banc neu fuddsoddwr, neu efallai y byddwch chi’n gwneud cais am grant, ac, wrth gwrs, rhaid i chi ddisgrifio’r busnes i’ch cwsmeriaid a darpar gleientiaid. Mae'n bwysig na fyddwch chi'n baglu dros eich geiriau neu'n ymbalfalu am y geiriau cywir. 

Y cam cyntaf ydy deall nodweddion a manteision eich cynnyrch neu wasanaeth. Rhaid i chi hefyd wybod beth ydy’ch Pwynt Gwerthu Unigryw  neu USP, sef yr hyn sy'n eich gwneud chi a’ch busnes yn wahanol i’ch cystadleuwyr.

Cofiwch, os ydych chi’n bwriadu rhoi patent ar eich cynnyrch neu os ydych chi’n dymuno gwarchod eiddo deallusol eich syniad ar gyfer gwasanaeth, rhaid i chi ddisgrifio’ch syniad yn gyflym ac yn gryno, ond heb ei ddatgelu. Yn gyffredinol, y ffordd o wneud hyn ydy drwy ddatgelu beth mae’ch cynnyrch neu wasanaeth yn ei wneud, ond heb ddweud sut mae’n gwneud hynny.

Am ragor o wybodaeth, ewch i'n tudalen Eiddo Deallusol.

Defnyddiwch y templed hwn i'ch helpu i ddisgrifio'ch cynnyrch neu'ch gwasanaeth (MS Word 14kb).

Nesaf: Ymchwilio a datblygu eich syniad a chynhyrchion a gwasanaethau newydd