1. Crynodeb

Mae'n hawdd meddwl bod gennych chi syniad ardderchog am fusnes, ond, er mwyn i'ch busnes lwyddo, bydd angen ichi gael cadarnhad eich bod chi'n iawn. Ffordd gost-effeithiol o wneud hynny yw ymchwil marchnad. Mae'r adran hwn yn eich tywys chi drwy'r broses ymchwil marchnad i'ch helpu i wneud gwell penderfyniadau.

2. Beth yw ymchwil marchnad?

Ymchwil marchnad yw casglu a dadansoddi gwybodaeth am eich marchnad, eich cystadleuwyr a'ch cwsmeriaid. Mae'n eich galluogi i gael gwybod beth mae'ch cwsmeriaid am ei gael ac wedyn fe allwch chi ddarparu cynnyrch a gwasanaethau sy'n cyfateb i'r galw hwnnw. Mae hefyd yn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae'r bobl sy'n cystadlu â chi'n ei wneud a beth sy'n digwydd yn y farchnad.

Mae'r canllaw hwn yn help ichi restru'r cwestiynau y mae angen ichi gael atebion iddynt, yn esbonio ble mae'r wybodaeth ar gael a pha dechnegau i'w defnyddio ac yn dangos ichi sut mae defnyddio'r canfyddiadau i wneud gwell penderfyniadau a'ch gwneud yn fwy cystadleuol.

3. Beth mae angen ichi ei wybod?

Pan fyddwch chi'n dechrau busnes, gall ymchwil marchnad eich helpu i weld pa mor ymarferol yw'ch syniad busnes a'i siapio er mwyn ichi gael y siawns orau o lwyddo. Dyma'r 3 maes y mae angen ichi gael gwybodaeth arnyn nhw:

  • y farchnad
  • cystadleuwyr
  • cwsmeriaid

Y farchnad

Wrth edrych ar y farchnad, byddwch chi am ystyried pethau fel hyn:

  • pa mor fawr yw'r farchnad?
  • faint o fusnesau sydd 'na (yn yr un sector â fi)?
  • faint ddechreuodd yn y sector hwn y llynedd, a'r flwyddyn cyn hynny?
  • ydy'r farchnad yn tyfu, ynteu'n dirywio?
  • beth yw'r prif ffactorau sy'n dylanwadu ar y farchnad hon?
  • oes 'na le i fy syniad busnes i?

Dysgwch fwy am ymchwil i'r farchnad gyda'r cwrs BOSS hwn.

(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol).

Cystadleuwyr

Mae'r cwestiynau am y gystadleuaeth yn debygol o gynnwys y rhain:

  • pa gwmnïau sy'n cynnig rhywbeth tebyg i fi?
  • pa mor llwyddiannus ydyn nhw?
  • pa gynnyrch a gwasanaethau maen nhw'n eu cynnig?
  • beth yw pris eu cynnyrch a'u gwasanaethau?
  • pa strategaethau marchnata maen nhw'n eu defnyddio?

Cwsmeriaid

Un o'r prif feysydd y bydd angen ichi edrych arno yw eich cwsmeriaid a'r pethau sy'n dylanwadu ar eu penderfyniadau prynu. Bydd eich ymchwil marchnad yn help ichi ateb cwestiynau fel hyn:

  • pa fath o bobl fydd eisiau prynu fy nghynnyrch neu fy ngwasanaethau?
  • ydyn nhw'n perthyn i wahanol gategorïau?
  • ble maen nhw'n prynu'r math hwn o gynnyrch neu wasanaethau ar hyn o bryd?
  • faint maen nhw'n barod i'w dalu - o fewn pa ystod prisiau?
  • faint o'r cynnyrch neu'r gwasanaethau hyn maen nhw'n eu prynu a pha mor aml?

Profwch eich gwybodaeth am bwy yw eich cwsmeriaid gyda'r cwrs BOSS hwn.

(Cyrsiau digidol BOSS sydd wedi cael eu creu gan Busnes Cymru i’ch helpu sefydlu a rhedeg busnes. Mewngofnodi/Cofrestru yn ofynnol).

Llywio'ch busnes i'r cyfeiriad iawn

Er mwyn cael y budd mwyaf o'ch ymchwil, bydd angen ichi benderfynu pa wybodaeth benodol rydych chi am ei chael am bob un o'r meysydd hyn. Bydd rhywfaint o'r wybodaeth yn hawdd cael gafael arni ond bydd hi'n fwy anodd cael gafael ar fathau eraill o wybodaeth.

Does dim fformwla gudd sy'n pennu faint o ymchwil marchnad y dylech chi ei wneud - bydd hynny'n dibynnu ar natur eich busnes a faint o amser bydd ei angen arnoch chi i gael y wybodaeth sydd ei hangen i seilio'ch penderfyniadau arni.

Go brin y cewch chi fyth yr holl wybodaeth sydd ei heisiau arnoch chi. Yr allwedd yw sicrhau bod gennych chi ddigon o wybodaeth i asesu'r risgiau'n ddigonol a gwneud penderfyniadau er mwyn ichi lywio’ch busnes i'r cyfeiriad iawn.

 

Nesaf: Deall Eich Marchnad