1. Crynodeb

Hanfod marchnata yw dod o hyd i'r cwsmer iawn i'ch cynnyrch a'ch gwasanaethau a'u denu nhw atoch chi. Hanfod gwerthu yw derbyn yr archeb. Mae'r adran hwn yn eich tywys chi drwy'r camau gwerthu.

2. Gwerthu er mwyn Llwyddo

Nid yw pawb yn werthwr naturiol a bydd rhai pobl yn ceisio osgoi gwerthu. Serch hynny, fe all pawb ddatblygu techneg gwerthu hyderus sy'n argyhoeddi, hyd yn oed os nad ydyn nhw wedi cael unrhyw brofiad o werthu o'r blaen.

Nid yw pob gwerthiant yn digwydd ar unwaith. Oeddech chi'n gwybod bod gan 73% o gwsmeriaid 5 neu fwy o bethau sy'n eu poeni cyn iddyn nhw fynd ymlaen i brynu. Atebwch gwestiynau'ch cwsmer i gyd - hyd yn oed y cwestiynau hynny sydd "heb eu gofyn". Dyfal donc a dyrr y garreg.

Cyfres o gamau sydd wedi'u cynllunio'n ofalus.

Nid yw gwerthu'n digwydd 'drwy ddamwain'. Cyfres o gamau sydd wedi'u cynllunio'n ofalus yw gwerthu.

  1. Helo: Beth rydych chi eisiau?

Cyfarchwch eich cwsmer, gwnewch iddyn nhw deimlo'n gyfforddus a dechreuwch ofyn cwestiynau i gael gwybod beth maen nhw am ei gael a pham. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n defnyddio enw'r cwsmer, cadwch gyswllt llygaid a gwenwch.

  1. Dywedwch : dyma sut y galla'i helpu

Dywedwch wrth y cwsmer sut mae'r hyn sydd gennych i'w gynnig yn sicrhau’r canlyniadau maen nhw'n chwilio amdanynt iddyn nhw. Dangoswch iddyn nhw sut y bydd hyn yn gwneud pethau'n haws iddyn nhw.

  1. Gwerthwch : gofynnwch unwaith eto

Atebwch unrhyw gwestiynau sydd gan y cwsmer a chliriwch unrhyw gamddealltwriaeth. Cofiwch, bydd pob ateb yn mynd â chi gam yn nes at gwblhau'r gwerthiant.

Ewch gan bwyll, dim pwyso, dim gwthio. Gallech chi ddweud "Sgennych chi gwestiwn arall cyn inni fwrw 'mlaen?" neu "Fyddech chi'n hoffi rhoi cynnig arno?" neu tynnwch allan eich ffurflen archebu a gofyn "Ga'i lenwi'r archeb nawr?"

Cofiwch, dylai pob gwerthiant fod yn sefyllfa lle mae pawb ar ei ennill. Byddwch yn barod, gwrandewch ar eich cwsmer ac ymarfer eich geiriau nes eich bod chi'n gyfforddus â nhw.

 

Nesaf: Cael eich Cwsmer Cyntaf