1. Trosolwg

Treth Ar Werth (TAW) yw treth ar drafodion a godir am werthu nwyddau a gwasanaethau. Mae’r adran hwn yn esbonio pwy sydd i fod i dalu treth ar werth a sut mae ei chyfrifo.

2. Treth Ar Werth (TAW)

Pan fydd eich trosiant yn mynd y tu hwnt i lefel benodol a bennir gan y Llywodraeth, neu pan fyddwch yn disgwyl y bydd hynny’n digwydd, rhaid i chi gofrestru ar gyfer TAW. Mae’n ofyniad cyfreithiol.

Mae’n rhaid i chi gofrestru os yw’ch trosiant yn mynd y tu hwnt i’r trothwy yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis. Rhaid i chi gofrestru hefyd os ydych chi’n disgwyl cyrraedd y trothwy o fewn unrhyw gyfnod o 30 diwrnod.

Os yw’ch trosiant o dan y cyfyngiad TAW a osodir gan y Llywodraeth, gallwch wneud cais ar gyfer TAW yn wirfoddol, ar yr amod bod eich busnes yn gwneud cyflenwadau trethadwy.

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi sy’n gyfrifol am weinyddu, casglu a gorfodi TAW. Mae manylion am y trothwy TAW cyfredol ar gael ar wefan HMRC. Gallwch hefyd gofrestru ar gyfer TAW ar yr un wefan.

Mae’n rhaid talu TAW ar y rhan fwyaf o nwyddau a gwasanaethau, ond ni chodir TAW ar rai pethau, fel yswiriant, cyllid a rhai mathau o addysg a hyfforddiant.

Ceir 3 cyfradd TAW:

  • cyfradd safonol - sef 20% ar hyn o bryd. Mae’r gyfradd hon yn berthnasol i’r rhan fwyaf o drafodion busnes
  • cyfradd is - sef 5% ar hyn o bryd, codir y gyfradd hon ar bŵer a thanwydd domestig, ac ar eitemau eraill fel cynhyrchion arbed ynni a seddi car ar gyfer plant
  • cyfradd sero - mae’r gyfradd 0% yn berthnasol i fusnesau penodol, gan gynnwys dillad ac esgidiau plant, llyfrau a phapurau newydd, a rhai bwyd a diod

Gall y cyfraddau TAW newid, felly holwch eich cyfrifydd neu’ch swyddfa TAW leol i gadarnhau beth yw’r gyfradd gyfredol sy'n berthnasol i'ch busnes. (Mae’r cyfraddau a nodir uchod yn ffigurau mis Chwefror 2014)

Cofiwch, mae TAW yn effeithio ar eich llif arian, felly cofiwch am y dyddiadau talu.

 

Nesaf: Rheoli Arian yn Effeithiol