1. Trosolwg

Mae Mantolen yn rhoi ciplun i chi o gyflwr ariannol eich busnes ar bwynt arbennig mewn amser. Mae’n cael ei defnyddio i asesu gwerth eich busnes ac i ganfod beth yw'r cymarebau sy'n cloriannu perfformiad busnes. Mae’r adran hwn yn rhoi golwg gyffredinol i chi o’r Fantolen ac yn esbonio’r cymarebau mwyaf defnyddiol i’ch busnes.

2. Ciplun o’ch busnes

Mae Mantolen yn rhoi ciplun i chi o gyflwr eich busnes ar bwynt arbennig mewn amser. Mae’n dangos beth sy’n eiddo i’ch busnes neu beth sy’n ddyledus iddo (asedau) a beth yw ei ddyledion ar ddyddiad penodol.

Mae'n cael ei defnyddio i asesu gwerth eich busnes a dyma un o'r pethau cyntaf y bydd darpar fuddsoddwr neu reolwr banc am ei weld.

Mae’n rhaid i gwmnïau cyfyngedig ddarparu Mantolen gyda’r cyfrifon blynyddol y byddan nhw’n eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau, i Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi ac i’ch cyfranddalwyr.

Does dim rhaid i unig fasnachwyr gyflwyno cyfrifon ffurfiol a Mantolen gyda’u ffurflen dreth. Fodd bynnag, gan fod rhaid cofnodi manylion ariannol ar y ffurflen dreth mewn fformat penodol, gall fod yn ddefnyddiol paratoi’r ffigurau mewn fformat Mantolen.

Fe all eich cyfrifydd eich helpu chi i baratoi Mantolen, ond mae'n bwysig eich bod chi yn deall beth mae'n ei olygu.

3. Cip ar y Fantolen

Dyma enghraifft o Fantolen.

ASEDAU DYLEDION
Asedau Cyfredol   Dyledion Cyfredol  
Arian 5000 Dyledwyr Tymor Byr 3000
Cyfrifon i’w Derbyn 4000 Cyfrifon i’w Talu 2000
Stoc 11000 Cyflogau 5000
Cyfanswm Asedau Cyfredol 20000 Cyfanswm Dyledion Cyfredol 10000
       
Asedau Sefydlog   Dyledion Tymor Hir  
Offer 2000 Benthyciad 5 mlynedd 11000
Llai Dibrisiad Cronedig (200) Cyfanswm Dyledion Tymor Hir 11000
Cyfanswm Asedau Sefydlog 1800    
    Ecwiti  
Cyfanswm Asedau 21800 Ecwiti’r Perchennog 800
       
    Cyfanswm Dyledion ac Ecwiti 21800

Hefyd, gall fod yn ddefnyddiol edrych ar y dudalen we hon er mwyn i chi ei dilyn yn ystod y fideo.

4. Defnyddio cymarebau i asesu perfformiad busnes

Mae cymarebau’n ffordd gyflym a syml o werthuso perfformiad busnes. Mae cymhareb yn cael ei chyfleu fel cyfran o rywbeth arall. Er enghraifft, rydyn ni’n sôn am berfformiad car o ran milltiroedd i’r galwyn. Petai car yn gwneud 40 milltir i’r galwyn (40:1) yn ei flwyddyn gyntaf, ond dim ond 25 i’r galwyn eleni (25:1), byddech chi’n siomedig a byddech chi’n ceisio darganfod pam.

Yn yr un modd, gall cyfrifo cymarebau roi golwg werthfawr i chi o berfformiad eich busnes. Defnyddir y ffigurau oddi ar eich Mantolen.

Mae 2 gymhareb allweddol bwysig, sef:

Cymhareb Hylifedd – sy’n dangos gallu’r busnes i ddefnyddio’i arian parod i dalu credydwyr tymor byr.  

Daw’r ffigurau hyn oddi ar y Fantolen. Ystyrir bod cymhareb rhwng 1.8 a 2.2 yn ddiogel.

Asedau Cyfredol         £20,000  = 2:1
Dyledion Cyfredol       £10,000

Cymarebau Proffidioldeb – sy’n dangos pa mor broffidiol yw’r busnes. Daw’r ffigurau hyn o’ch Cyfrif Elw a Cholled.
 

Mae Maint Elw Gros yn mesur elw gros fel canran o’r gwerthiannau.

Mewn rhai diwydiannau, gallwch gymharu maint eich elw gros â safon y diwydiant.

Mae Maint Elw Net yn mesur elw net fel canran o’r gwerthiannau.

Bydd hyn yn codi wrth i sefyllfa ariannol eich busnes wella. 

Elw Gros x 100      Elw Net x 100
Gwerthiannau        Gwerthiannau

 

Nesaf: Treth Ar Werth (TAW)