Dewis a gweithio efo cyfrifydd

Gall cyfrifwyr gynnig pob math o wasanaethau cyfrifyddu i'ch busnes, o gadw cyfrifon sylfaenol i gyngor arbenigol ar gyfer busnesau.

Dylech wneud yn siŵr bod eich cyfrifydd wedi ennill cymwysterau priodol drwy un o gyrff y diwydiant cyfrifyddu, ac fe ddylech chi hefyd ystyried ei brofiad o weithio gyda busnesau o'r un maint â'ch un chi, neu fusnesau sy'n gweithio yn yr un sector â chi.

Gall gwahanol gyfrifwyr helpu eich busnes mewn gwahanol ffyrdd, felly dylech ystyried y canlynol:

  • profiad – oes ganddyn nhw brofiad yn eich sector chi a phrofiad o weithio gyda busnesau o'r un maint â chi? Allan nhw ddelio ag anghenion penodol eich busnes chi?
  • costau a ffioedd

  • maint a gweithwyr – sawl partner sydd ganddyn nhw a phwy fyddai'n gofalu am eich busnes chi?
  • effeithlonrwydd – beth yw eu hamseroedd ymateb?
  • gwasanaethau ychwanegol – allan nhw gynnig cyngor busnes arbenigol neu gynnig cymorth y tu hwnt i wasanaethau cyfrifyddu sylfaenol?

Pan fyddwch chi wedi llunio rhestr fer o gyfrifwyr posib, trefnwch i gyfarfod â nhw i wneud yn siŵr mai nhw yw'r dewis gorau ar gyfer eich busnes chi. Dylech fynd â'ch cynllun busnes a gwybodaeth gefndir arall am eich busnes gyda chi i'r cyfarfod. Dylai cyfrifydd da fod yn awyddus i gael gwybod cymaint amdanoch chi ag yr ydych chi amdano ef. Dylai hefyd fod yn fodlon rhoi enwau cleientiaid i chi er mwyn i chi gael geirdaon.

I gael y gorau o'ch cyfrifydd, dylech drefnu i gael cyswllt rheolaidd ag ef. Dylech bob amser ganiatáu digon o amser i drafod goblygiadau treth cyn paratoi eich cyfrifon diwedd blwyddyn.

Gallwch ddewis yr adnodd ICAEW i ddod o hyd i gyfrifydd.  

Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am Gymdeithas y Cyfrifwyr Siartredig Ardystiedig (ACCA).

Cyfrifydd Siartredig ICAEW

Sesiwn cyngor busnes am ddim gan gyfrifwyr siartredig ICAEW

ACCA

Mae Cymdeithas y Cyfrifiwyr Ardystiedig Siartredig yn cynnig gwybodaeth busnes