Cyllid ecwiti

Cyllid ecwiti yw ffordd o godi cyllid gan fuddsoddwyr allanol yn gyfnewid am werthu cyfran o’r busnes. Prif ddarparwyr cyllid ecwiti yw ffrindiau a theulu, angylion busnes a chyfalafwyr mentro.

Yn wahanol i ddarparwyr dyled, nid oes gan gyfalafwyr mentro hawl i log ac nid ydynt yn gorfod cael eu cyfalaf yn ôl erbyn dyddiad arbennig. Buddsoddwyr tymor hir yw buddsoddwyr ecwiti sy’n ennill elw ar eu buddsoddiad drwy ddifidendau a thwf cyfalaf. Byddent fel arfer yn disgwyl elw uwch na buddsoddwyr dyled oherwydd bod y risg sydd ynghlwm yn uwch. 

Gall eich busnes fod yn addas ar gyfer cyllid ecwiti os oes ganddo:

  • y potensial i dyfu’n gyflym a strategaeth dwf eglur
  • cynnyrch neu wasanaeth arloesol
  • tîm rheoli cryf
  • eiddo deallusol cryf
  • strategaeth ymadael glir a chyraeddadwy

Mae cyllid ecwiti ar gael o wahanol ffynonellau yn cynnwys: