ACCA

 

Mae ACCA (Cymdeithas y Cyfrifiwyr Ardystiedig Siartredig) yn cynnig cymwysterau dewis cyntaf a busnes-berthnasol i unigolion ymroddgar, galluog ac uchelgeisiol o bedwar ban byd sydd eisiau gyrfa werth chweil ym maes cyfrifyddiaeth, cyllid a rheolaeth.

Mae ACCA yn cefnogi 162,000 o aelodau a 428,000 o fyfyrwyr trwy gydol eu gyrfaoedd, gan ddarparu gwasanaethau trwy rwydwaith o 89 o swyddfeydd a chanolfannau gweithredol. 

Cyhoeddir cylchgrawn misol gan ACCA o’r enw AB:UK (Accounting and Business UK). Er mai ei brif sbardun yw cyllid, fe’i cynlluniwyd hefyd i fod yn gylchgrawn mwy eang ac mae ynddo bynciau fydd o ddiddordeb i fusnesau bach a chanolig (BBaChau) megis rheoli doniau, rheoli newid, strategaethau busnes, a phrynu busnes i BBaChau etc.