1. Y pethau sylfaenol

Mae perchnogion busnes yn aml yn mynd at y banciau i gael benthyciadau, ond nid banciau yw’r unig ddewis. Gall benthycwyr eraill fod yn fwy cystadleuol neu’n fwy addas ar gyfer eich busnes, megis:

Os yw’ch busnes wedi dioddef colledion diweddar, os oes ganddo statws credyd gwael neu os yw newydd gael ei wrthod am gyllid banc, gallai cyllid heblaw’r banc fod yn haws ei gael, yn fwy hyblyg ac o bosibl yn rhatach.

2. Y broses

Cyn mynd at fuddsoddwr heblaw’r banc, dylech wneud yn siŵr fod eich busnes yn ‘barod am fuddsoddiad’ drwy:

  • sicrhau eich bod yn wybodus am eich cyllid busnes
  • meddu ar gynllun busnes diweddar
  • bod yn glir am faint o arian sydd ei angen arnoch ac ar gyfer beth y bydd yn cael ei ddefnyddio
  • cynnal ymchwil y farchnad i ddangos fod yna farchnad i’r cynnyrch neu’r gwasanaethau y bwriadwch eu gwerthu
  • cynhyrchu rhagolygon llif arian ar y 12 mis nesaf i ddangos y byddwch yn gallu fforddio talu’n ôl, yn cynnwys llog a ffioedd
  • cynnal dadansoddiad SWOT (cryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau sy’n ymwneud â’ch busnes)
  • sicrhau fod eich statws credyd busnes a phersonol wedi’u diweddaru a heb gamgymeriadau

3. Gwarantau benthyciad

Bydd y rhan fwyaf o fenthycwyr heblaw’r banc (ac eithrio, efallai, teulu a ffrindiau) yn gofyn i chi am ryw fath o warant cyn rhoi benthyciad. Gallai hyn gynnwys asedau megis adeiladau sy’n eiddo i’r busnes. Gall fod angen i chi hefyd ofyn i berson arall neu i fusnes arall weithredu fel gwarantwr a gwarantu’r benthyciad. Mae’r warant yn golygu y bydd y sawl sy’n rhoi benthyg yn hawlio gan y gwarantwr os nad yw’ch busnes yn gallu ad-dalu’r benthyciad.

Bydd rhai benthycwyr yn gofyn am warantau personol hefyd - ee gan eich bwrdd cyfarwyddwyr neu’ch cefnogwyr busnes.

Mae nifer o ddarparwyr benthyciad yn mynnu’ch bod yn cymryd yswiriant ad-dalu benthyciad er mwyn gallu gwneud yr ad-daliadau os yw’ch busnes yn cael problemau llif arian.

4. Manteision ac anfanteision

Manteision

  • mae’n bosibl y cewch gyfradd llog a ffioedd is nag y byddech gyda benthyciad banc
  • gall benthycwyr heblaw’r banc roi benthyciadau dros gyfnod hirach na banc
  • mae’n llai caeth na’r banc pan mae’n fater o statws credyd gwael neu golledion diweddar

Anfanteision

  • nid yw benthycwyr heblaw’r banc yn cael eu rheoleiddio mor dynn â’r banciau, felly mae angen i chi fod yn ofalus wrth ddewis

5. Camgymeriadau cyffredin

Dylech ddarllen pob cytundeb yn ofalus cyn benthyca gan fenthyciwr heblaw’r banc a chanfod a fydd angen unrhyw asedau fel gwarant. Mae’r rhan fwyaf o fenthycwyr heblaw’r banc yn ddibynadwy, ond nid ydynt yn dod o dan gynifer o reoliadau â’r banciau.

Dylech osgoi benthycwyr heb awdurdod, neu fenthycwyr didrwydded (loan sharks). Gall benthyciwr heb awdurdod roi credyd i chi yn gyflym, o bosibl heb fod angen cynllun busnes neu warant, ond gall fod anfanteision yn cynnwys cyfraddau llog a thelerau anffafriol.

Mae’n bosibl eich bod yn delio â “siarc” os:

  • yw’r gwerthwr yn eich poeni neu’n bod yn arbennig o ymwthgar
  • mae’r gyfradd llog yn sylweddol uwch nag un benthycwyr eraill
  • mae’r cwmni’n gyndyn o ddangos telerau ac amodau’r llog i chi
  • gofynnir i chi eich clymu’ch hun i gytundeb tymor hirach na’r hyn sydd ei angen arnoch

6. Ffynonellau cyllid

Mae nifer o ffynonellau cyllid gwahanol heblaw’r banc, mae’r rhain yn cynnwys:

Darparwyr benthyciad masnachol

Mae darparwyr benthyciad masnachol yn darparu gwasanaethau ariannol megis benthyciadau a chyfleusterau credyd, ond nid oes ganddynt drwydded banciwr. Golyga hyn na allant gymryd blaendaliadau gan y cyhoedd na chynnig cyfleusterau bancio arferol fel gorddrafftiau. Fodd bynnag, mae’n bosibl fod eu meini prawf benthyca yn llai caeth a gallant fod yn ffynhonnell gyllid ddefnyddiol. Gallwch wirio’r Gofrestr Gwasanaethau Ariannol ar  wefan y Prudential Regulation Authority  i wneud yn siŵr fod darparwr y benthyciad wedi’i gofrestru.

Benthycwyr cymheiriaid (Cyllid tyrfa – Crowdfunding)

Mae benthycwyr cymheiriaid (peer-to-peer) yn gadael i chi fenthyg arian yn uniongyrchol gan gynilwyr - gan dorri’r banciau allan o’r hafaliad. Gall y telerau fod yn fwy ffafriol - ee dim ffioedd am dalu’n ôl yn gynnar - a gallech weld eich bod yn cael eich derbyn er bod banciau wedi’ch gwrthod. Hefyd, mae rhai gwasanaethau am ddim ac ni fydd ceisiadau aflwyddiannus am gyllid yn effeithio ar eich statws credyd.

Dyma rai benthycwyr cymheiriaid:

Banc Busnes Prydeinig

Benthycwyr cymdeithasol a chymunedol

Fel arfer cyrff di-elw yw benthycwyr cymdeithasol sy’n gallu cynnig benthyciadau a chredyd

  • CMae Sefydliadau Cyllid Datblygu Cymunedol (CDFIs) yn benthyca i fusnesau, mentrau cymdeithasol, elusennau ac unigolion sy’n bwriadu defnyddio’r arian i helpu a datblygu eu cymuned leol. Mae gan y Gymdeithas Cyllid Datblygu Cymunedol offeryn a all eich helpu i ddod o hyd i gyllid CDFI.
  • Mae Co-operative and Community Finance, enw masnachu’r teulu o fusnesau sy’n dwyn yr enw Industrial Common Ownership Finance, yn benthyg arian i sefydliadau sydd ym mherchnogaeth eu haelodau ac yn cael eu rheoli’n ddemocrataidd ganddynt, y rheini fel arfer yn weithwyr, yn gwsmeriaid neu’n aelodau o gymuned.  Maent yn benthyg arian i’r rheini sy’n arfer egwyddorion cydweithredu, perchnogaeth gymdeithasol a datblygu cynaliadwy. 
  • Undebau credyd – mae undebau credyd yn cynnig benthyciadau sy’n hygyrch ac yn fforddiadwy. Eu haelodau sy’n eu perchen a’u rheoli. Golyga hyn eu bod yn gwneud penderfyniadau sydd er budd yr aelodau. Dewch o hyd i undeb credyd yn eich ardal.
  • Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog yn rhoi cymorth ymarferol ac ariannol i helpu’ch busnes i gychwyn, drwy ddatblygu sgiliau allweddol i’r gweithle megis hyder a chymhelliant. Maent yn gweithio gyda phobl 13 i 30 oed sydd wedi ei chael yn anodd yn yr ysgol, wedi bod mewn gofal, yn ddi-waith am dymor hir neu sydd wedi bod mewn trafferth gyda’r gyfraith.
  • Mae UK Steel Enterprise yn is-gwmni sydd ym mherchnogaeth lwyr Tata Steel a’i orchwyl yw helpu adfywiad economaidd y cymunedau a effeithiwyd gan newidiadau yn y diwydiant dur. Maent yn cefnogi cwmnïau bach a chanolig gyda chyllid ac adeiladau. Maent yn darparu benthyciadau hyd at £750,000. Gallwch ganfod mwy am sut i wneud cais yma.
  • Mae’r Gronfa Tyfu Busnesau Cymdeithasol (y Gronfa) yn cefnogi busnesau cymdeithasol yng Nghymru yn ariannol er mwyn eu galluogi i dyfu a chreu cyfleoedd gwaith.  Rheolir y Gronfa gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).

Y Banc Busnes Prydeinig

Partneriaeth Cyllid Busnes drwy’r banc Busnes Prydeinig

Mae’r Banc Busnes Prydeinig yn cael ei sefydlu fel banc datblygu economaidd o dan adain Llywodraeth y DU. Lansiwyd y brand yn swyddogol ym mis Hydref 2013 gyda’r is-bennawd ‘Datgloi cyllid i fusnesau llai’.

Mae prif sylw’r Banc ar fynd i’r afael â diffygion yn y farchnad. Bydd y mathau o broblemau yr ymdrinnir â nhw yn cynnwys diffyg amrywiaeth a maint cyllid, ac ymwybyddiaeth isel am yr hyn sydd ar gael.

Un o atebion y Banc ar gyfer benthyca i Fusnesau Bach a Chanolig (gyda throsiant hyd at £75m) yw ariannu darparwyr cyllid eraill drwy’r Bartneriaeth Cyllid Busnes. Mae hyn yn cynnwys 7 o fenthycwyr heb fod yn rhai traddodiadol. Dylai busnesau gysylltu â’r benthycwyr yn uniongyrchol. Gweler y rhestr ar Business Finance Partnership | British Business Bank.

Cyhoeddir mwy o gynlluniau yn y dyfodol drwy dudalen gartref y Banc.