1. Beth yw benthyciad banc?

Benthyciad yw swm o arian a fenthyciwyd am gyfnod penodol o fewn amser y cytunwyd arno i’w dalu’n ôl. Bydd swm yr ad-daliad yn dibynnu ar faint a hyd y benthyciad a’r gyfradd llog.

Fel arfer mae banciau’n codi llog ar unrhyw fenthyciadau a gewch, ond bydd y telerau a’r pris yn amrywio rhwng darparwyr.

Mae’r gwahanol fathau o fenthyciad banc yn cynnwys:

  • benthyciadau cyfalaf gweithio – ar gyfer sefyllfaoedd byr rybudd neu argyfwng
  • benthyciadau ased sefydlog - ar gyfer prynu asedau pan fo’r ased ei hun yn cael ei ddefnyddio fel gwarant gyfochrog (collateral)
  • benthyciadau ffactoreiddio – benthyciadau sy’n seiliedig ar arian sy’n ddyledus i’ch busnes gan gwsmeriaid
  • benthyciadau hurbwrcas – ar gyfer prynu asedau tymor hir fel cerbydau neu beiriannau

2. Y broses ymgeisio

Mae’r rhan fwyaf o fenthycwyr yn mynnu’ch bod yn:

  • rhannu’r risg ariannol drwy ddarparu cyfalaf i ddangos eich ymrwymiad a chael cynllun wrth gefn i dalu’n ôl os yw pethau’n mynd o’u lle
  • darparu gwarant ar gyfer ceisiadau benthyca – ee asedau personol neu rai’r busnes, megis eich cartref neu’ch adeiladau busnes
  • darparu gwarantau personol os ydych yn rhedeg cwmni cyfyngedig, ac na all y busnes gynnig gwarant ddigonol
  • rhoi gwybod iddynt sut rydych yn dod ymlaen, yn enwedig os ydych yn rhagweld unrhyw newidiadau neu broblem
  • meddu ar gynllun busnes cynhwysfawr a rhagolwg llif arian ar gyfer ceisiadau benthyca mwy
  • meddu ar hanes credyd da - yn cynnwys record dda o dalu gyda chredydwyr eraill

3. Cael y cynnig benthyciad gorau

Er mwyn cael bargen dda, dylech:

  • siopa o gwmpas – cymharu cyfraddau llog a negydu i gael y fargen orau, a gofyn am unrhyw delerau arbennig mewn ysgrifen. Mae gwefan Cymdeithas Bancwyr Prydain yn cynnig gwasanaeth dod o hyd i gyfrif busnes
  • defnyddio brocer cyllid - gallan nhw arbed amser i chi a chynyddu’ch gobaith o gael llwyddiant drwy gyflwyno’ch cynnig yn effeithiol i fenthycwyr priodol. Gall gwefan Cymdeithas Genedlaethol y Broceriaid Cyllid Masnachol (NACFB) eich helpu i ddod o hyd i frocer addas 
  • darllen y ‘print mân’ - asesu’r meini prawf benthyca i gyd, megis y cyfraddau llog, telerau’r benthyciad a’r ffioedd sefydlu, ynghyd â chynigion arbennig i fusnesau sy’n dechrau. Ystyriwch gael arbenigwr, fel cyfreithiwr, i edrych ar ddogfennau’r benthyciad
  • cymharu benthyciadau rhwng gwahanol fanciau a bod yn barod i newid darparwyr
  • gall cyfraddau llog fod yn sefydlog neu’n newidiol a’r ffigwr allweddol y mae’n rhaid ei archwilio yw’r gyfradd ganrannol flynyddol (APR). Dyma’r gyfradd a godir arnoch unwaith bod y ffioedd i gyd wedi’u tynnu.
  • gellir gwirio cymwysterau benthycwyr gyda’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA)

4. Cytuno ar delerau’ch benthyciad

Mae angen i chi:

  • sefydlu’r dyddiad ad-dalu a’r gyfradd llog
  • sefydlu beth yw ffioedd y benthyciwr
  • gofyn a allwch chi wneud gordaliadau
  • gweld a oes tâl am dalu’n ôl yn gynnar
  • gweld a allwch gael ‘gwyliau talu’n ôl’
  • gwirio bod y taliadau am dalu’n hwyr yn rhesymol

Os yw’ch cais am fenthyciad yn cael ei wrthod mae gennych hawl i apelio. Holwch y banc beth yw eu proses apelio.

5. Y manteision a’r anfanteision

Manteision

  • gellir teilwra’r telerau i fodloni gofynion y busnes
  • nid oes raid talu’r benthyciad ar alwad ac felly mae ar gael am dymor y benthyciad oni bai eich bod yn torri amodau’r benthyciad
  • gellir clymu benthyciadau ag oes yr offer neu asedau eraill rydych yn benthyca’r arian i dalu amdanynt
  • ar ddechrau tymor y benthyciad mae’n bosibl y gallwch negydu gwyliau ad-dalu, sy’n golygu eich bod yn talu llog yn unig am hyn a hyn o amser tra bo’r ad-daliadau ar y cyfalaf yn cael eu rhewi
  • nid oes raid i chi roi canran o’ch elw neu gyfran yn eich cwmni i’r benthyciwr
  • gall cyfraddau llog fod yn sefydlog am y tymor felly byddwch yn gwybod beth yw lefel yr ad-daliadau drwy gydol bywyd y benthyciad
  • gall fod ffi drefnu sy’n cael ei thalu ar ddechrau’r benthyciad ond nid drwy gydol ei oes. Os yw’n fenthyciad ar alwad, gall ffi adnewyddu flynyddol fod yn daladwy
  • ceir gostyngiad yn y dreth ar yr ad-daliadau llog

Anfanteision

  • gall fod yn anodd cael benthyciad os ydych yn fusnes newydd heb hanes blaenorol
  • bydd gan fenthyciadau mwy rai telerau ac amodau y mae’n rhaid i chi lynu wrthynt, megis rhoi gwybodaeth reoli chwarterol i’r banc
  • nid yw benthyciadau yn hyblyg iawn – gallech fod yn talu llog ar arian nad ydych yn ei ddefnyddio
  • gallech gael trafferth talu’n ôl yn fisol os nad yw’ch cwsmeriaid yn eich talu chi ar amser, gan achosi problemau llif arian neu os yw’ch busnes yn dymhorol
  • mewn rhai achosion, caiff benthyciadau eu gwarantu yn erbyn asedau’r busnes neu’ch eiddo personol, ee eich cartref. Gall cyfraddau llog benthyciadau diogel fod yn is na rhai benthyciadau ansicredig, ond gallai’ch asedau neu’ch cartref fod mewn perygl os na allwch ad-dalu
  • gall fod ffi os ydych eisiau ad-dalu’r benthyciad cyn diwedd tymor y benthyciad, yn enwedig os yw’r llog ar y benthyciad yn sefydlog

6. Camgymeriadau cyffredin

Nid yw’n syniad da cymryd benthyciad ar gyfer treuliau rheolaidd, gan y gall fod yn anodd dal i fyny â’r ad-daliadau. Yn hytrach mae’n well talu costau rheolaidd o’r arian a geir o’r gwerthiannau, o bosibl gyda gorddrafft wrth gefn.

Gall eich banc eich gwrthod os na allwch:

  • egluro pam rydych eisiau’r benthyciad a sut byddwch yn ei ddefnyddio
  • dangos eich bod yn deall y risgiau a’ch bod wedi cymryd camau i leihau eu heffaith
  • egluro pwy sy’n edrych ar ôl cyllid eich busnes a bod gennych systemau ariannol cadarn yn eu lle
  • darparu data ariannol, hy cyfrifon, cyllidebau a rhagolygon
  • dangos hanes blaenorol a gallu i ad-dalu’r benthyciad

7. Ffynonellau cyllid

Banciau yw prif ffynhonnell benthyciadau busnes bach, ond mae nifer o gyrff eraill yn cynnig benthyciadau ar gyfraddau cystadleuol. Mae cymdeithasau adeiladu’n cynnig morgeisi busnes a benthyciadau personol. 

Os ydych eisiau cymharu cyfrifon banc busnes, mae gwean Cymdeithas y Bancwyr Prydeinig yn cynnig gwasanaeth dod o hyd i gyfrif busnes

Defnyddiwch ein canfyddwr cyllid i chwilio am fenthyciadau banc.