1. Beth yw angylion busnes?

Mae angylion busnes yn buddsoddi mewn busnesau yn gyfnewid am gyfran o ecwiti’r busnes. Mae’r rhan fwyaf o angylion busnes yn buddsoddi rhwng £10,000 a £750,000.

Fel arfer mae buddsoddwyr angel busnes yn buddsoddi mewn busnesau sy’n cychwyn neu rai ifanc sydd angen ariannu gweithgareddau megis datblygu cynnyrch neu ehangu’r farchnad. Gallant wneud penderfyniadau buddsoddi yn gyflym ond bydd dal angen arnynt weld bod gennych gynllun busnes da cyn eu bod yn ymrwymo.

Mae’n bosibl y bydd yr angylion busnes yn cymryd rhan weithredol yn eich busnes a gallant fod yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth, mentora a chysylltiadau.

Gall angylion busnes fuddsoddi ar eu pennau eu hunain neu mewn syndicetiau.

Mae’r llywodraeth yn annog buddsoddiad angel busnes drwy gynlluniau anogaeth treth fel y Cynllun Buddsoddi Menter a Chynllun Buddsoddi Menter Seed (Seed Enterprise Investment Scheme). Mae’n werth canfod a yw’ch busnes yn gymwys gan y gall hyn helpu i ddenu angylion i fuddsoddi.

2. Y broses

Gall fod yn anodd dod o hyd i angylion busnes ar sail un i un, y ffordd fwyaf effeithiol o gael gafael ar angylion busnes yw drwy rwydweithiau angel busnes. Cyrff yw’r rhain sy’n cyflwyno cwmnïau i angylion busnes drwy fwletinau buddsoddi, gwasanaethau paru gwefan a digwyddiadau sesiwn sylw (pitching). Maent hefyd yn helpu i sicrhau fod cwmnïau’n barod ar gyfer buddsoddiad.

3. Gwerthu’ch syniad i angylion busnes

Mae angylion busnes yn fwy tebygol o ddangos diddordeb yn eich cynnig os ydynt:

  • yn deall y cynnyrch neu’r gwasanaeth
  • wedi gweithio yn yr un diwydiant
  • yn ffyddiog fod eich busnes yn cael ei reoli’n dda
  • yn teimlo y gallant ddod â gwerth ychwanegol i’ch busnes
  • ddim yn cael cais am fuddsoddiad enfawr, neu fuddsoddiadau parhaus

Wrth geisio denu angel busnes, dylai’ch cynllun busnes drafod:

  • y manteision iddyn nhw wrth fuddsoddi
  • manylion y buddsoddiad sydd ei angen
  • telerau’r hyn a gynigir - ee y cyfran, y sgiliau rydych yn eu cynnig ac amserlen y buddsoddiad
  • gallu’ch tîm rheoli i roi’r cynllun ar waith

4. Terfynu dêl buddsoddiad yr angel busnes

Gall gymryd sawl mis i derfynu’r ddêl gydag angel busnes ac i’r arian gael ei drosglwyddo.

Dylai elfennau cyfreithiol cynigion angel busnes gynnwys:

  • cytundeb y cyfranddalwyr – y berthynas rhwng y cyfranddalwyr
  • cytundeb tanysgrifio neu fuddsoddi - telerau’r tanysgrifiad cyfranddaliadau
  • cytundeb gwasanaeth – ee cytundebau cyflogaeth gyda rheolwyr neu gyfarwyddwyr
  • cytundebau eraill – gyda gweithwyr llai pwysig, cyflenwyr, neu gwsmeriaid
  • llythyr datgeliad – manylion unrhyw warantau neu yswiriant y cytunwyd arnynt rhwng y partïon
  • memorandwm – rhestr o bwerau’r cwmni – ee i fenthyca arian – a swm y cyfalaf cyfrannau
  • erthyglau cymdeithasu – rheoliadau mewnol y cwmni
  • opsiynau cyfranddaliadau - ee rhoi opsiynau cyfranddaliadau â mantais treth i weithwyr newydd neu rai sydd yno’n barod o dan gynllun Anogaeth Rheoli Menter (EMI) y llywodraeth

5. Y manteision a’r anfanteision

Manteision

  • mae angylion busnes yn rhydd i wneud penderfyniadau buddsoddi yn gyflym
  • dim angen gwarant gyfochrog – hy asedau personol
  • mynediad at wybodaeth eich buddsoddwr o’r sector a’u cysylltiadau
  • dim ad-daliadau neu log
  • mae angylion busnes yn buddsoddi yn llwyddiant eich cwmni a gallant eich helpu i archwilio syniadau newydd

Anfanteision

  • gall gymryd peth amser i ddod o hyd i fuddsoddwr angel busnes addas a sicrhau’r buddsoddiad
  • llai o gymorth strwythurol ar gael gan angylion busnes na chan gwmni buddsoddi

6. Camgymeriadau cyffredin

Gallech gael eich gwrthod am gyllid angel busnes oherwydd nad ydych wedi gwneud yn siŵr eich bod yn ‘barod am fuddsoddiad’ cyn i chi fynd at ddarpar fuddsoddwyr.

Dylech chi hefyd adnabod y risgiau posibl a sut y gallech eu goresgyn.

Budd buddsoddwyr eisiau gwybod a fydd cyfle i ymadael ac y gallant adennill eu buddsoddiad a gwneud elw. Dylech fod yn gallu dweud wrthynt am gynlluniau ac uchelgeisiau’ch busnes yn y tymor hir.

7. Ffynonellau cyllid

Defnyddiwch ein canfyddwr cyllid i chwilio am ffynonellau angylion busnes.