1. Beth maen nhw'n ei wneud?

Mae Banc Datblygu Cymru yn ariannu busnesau maent yn meddwl fydd o fudd i Gymru a'i phobl. Drwy ddarparu cyllid cynaliadwy ac effeithiol pan fo’r opsiynau’n edrych yn gyfyngedig, maent yn dod ag uchelgeisiau’n fyw ac yn danwydd posibiliadau i bobl, busnesau a chymunedau yng Nghymru a thu hwnt.

Gall fuddsoddi o £1,000 i £5 miliwn ar y tro mewn busnesau ar hyd a lled Cymru o nifer o gronfeydd buddsoddi sy'n cefnogi busnesau yng Nghymru yn y ffyrdd a ganlyn:

  • micro fenthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 i helpu busnesau newydd i dyfu
  • benthyciadau rhwng £1,000 - £10 miliwn 
  • buddsoddiad ecwiti rhwng £50,000 i £10 miliwn
  • cyllid sbarduno ar gyfer busnesau technoleg newydd cyn-refeniw
  • buddsoddiad ecwiti ar gyfer busnesau cynnar ac aeddfed sy'n seiliedig ar dechnoleg
  • cyllid o hyd at £10 miliwn 
  • benthyciadau datblygu eiddo ar gyfer prosiectau preswyl a masnachol yng Nghymru
  • cyd-fuddsoddi ochr yn ochr ag amrywiaeth o gyllidwyr eraill, gan gynnwys banciau, cyllidwyr torfol, angylion busnes a buddsoddwyr neu fenthycwyr eraill  

Mae gan y Banc Datblygu hefyd gynllun benthyciadau busnes syml a chyflym i gynnig micro fenthyciadau rhwng £1,000 a £50,000 i fusnesau yng Nghymru sydd wedi bod yn masnachu ers dros 2 flynedd.

Fel arfer, mae'r telerau ad-dalu rhwng 1 a 10 mlynedd. Mae’r cyfraddau llog a godir yn seiliedig ar amgylchiadau unigol y busnes ac maent yn aros yn sefydlog dros gyfnod y benthyciad.

2. Gwneud cais am fuddsoddiad

Meini Prawf Cymhwyster

Dim ond helpu busnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru neu sy'n barod i adleoli y gall y Banc Datblygu. Gall gefnogi B2B a B2C gyda ffocws ar fusnesau micro i ganolig er fe all busnesau nad ydynt yn rai bach a chanolig ymgeisio hefyd.

Gallwch wirio cymhwyster eich busnes mewn dim ond ychydig funudau trwy ddefnyddio Gwirydd cymhwyster y Banc Datblygu.

Os yw eich busnes yn gymwys byddwch angen cynllun busnes sy’n dangos achos cryf o blaid i chi gael buddsoddiad. Bydd faint o fanylder fydd yn eich cynllun yn dibynnu ar faint y buddsoddiad yr ydych yn ceisio amdano:

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais trwy gyfrwng ffurflen gais ar-lein. Gall dogfennau ategol megis cynlluniau busnes neu ddatganiadau banc naill ai gael eu hatodi i'ch cais neu gael eu hanfon yn ddiweddarach.

3. Pam gwneud cais am arian cyllido?

Banc Datblygu Cymru

  • yn aml fe allwn ni helpu busnesau sydd wedi methu â sicrhau cyllid o leoedd eraill
  • benthyciadau ac ecwiti ar gael
  • rheolwyr cyfrifon lleol, ymroddedig
  • fe’n argymhellir gan 99% o gwsmeriaid newydd *
  • cyllid ar gyfer busnesau newydd sy’n dechrau a busnesau sefydledig
  • cefnogaeth ar draws sectorau, B2B a B2C
  • rhwydwaith cryf o gyd-fuddsoddwyr a chynghorwyr
  • rheolaeth perthynas a chefnogaeth barhaus

4. Camgymeriadau cyffredin wrth wneud cais

Gall ceisiadau am fuddsoddiad fod yn aflwyddiannus am y rhesymau a ganlyn:

  • cynlluniau busnes a gwybodaeth ariannol o safon wael
  • timau rheoli amhrofiadol neu anghyflawn
  • diffyg gwybodaeth am y farchnad neu ddiffyg gwybodaeth fasnachol a diffyg ymchwil

5. Manylion cyswllt

 

Bancdatblygu.cymru

Ffôn: +44 (0) 800 587 4140

gwyb@bancdatblygu.cymru

Swyddfeydd lleol 

Caerdydd 

1 Capital Quarter, Tyndall Street, Caerdydd CF10 4BZ 

 

Llanelli 

Uned 12, Y Goleudy: Canolfan Menter, Dafen, Llanelli, Sir Gaerfyrddin 

 

Y Drenewydd 

Ty Dewi Sant, Ffordd Newydd, Y Drenewydd, SY16 1RB 

 

Llanelwy

Technium OpTIC, Ffordd William Morgan, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, LL17 0JD 

 

Cyfryngau cymdeithasol 

Gallwch ddilyn Banc Datblygu Cymru ar y canlynol:

@bancdatcymru