1. Beth yw ffactoreiddio a disgowntio anfonebau?

Mae Ffactoreiddio - a elwir hefyd yn ‘ffactoreiddio dyled’ - yn golygu gwerthu’ch anfonebau i gwmni ffactoreiddio. Yn gyfnewid am hyn byddan nhw’n prosesu’r anfonebau ac yn caniatáu i chi godi arian yn erbyn yr arian sy’n ddyledus i’ch busnes. Byddant hefyd yn cymryd cyfrifoldeb dros eich cyfriflyfr gwerthu.

Gallwch ddefnyddio ffactoreiddio i wella llif arian ond gellir ei ddefnyddio hefyd i leihau costau cyffredinol gweinyddu.

Mae Disgowntio anfoneb yn debyg ond yma eich busnes sy’n cadw rheolaeth dros eich cyfriflyfr gwerthu.

Gall eich busnes fod yn addas ar gyfer ffactoreiddio neu ddisgowntio anfoneb os oes gennych

  • drosiant blynyddol o £50,000 o leiaf, er bydd rhai asiantwyr ffactoreiddio yn fodlon ystyried busnesau newydd a busnesau llai
  • ystod dda o gwsmeriaid - gall fod cyfyngiadau cyllid os yw un cwsmer yn cyfrif am dros draean o’r trosiant
  • dyled syml, heb fod yn gytundebol
  • lefelau isel o ddyled sydd dros 90 diwrnod yn hwyr

Mae’n bosibl na fydd eich busnes yn addas ar gyfer ffactoreiddio os ydych:

  • yn gwerthu i’r cyhoedd – dim ond ar gyfer gwerthu i gwsmeriaid masnachol y mae ffactoreiddio ar gael
  • â gormod o anfonebau bach
  • â gormod o anghydfodau ac ymholiadau
  • nid ydych yn fusnes cadarn, dibynadwy a chredadwy
  • â chwsmeriaid sy’n gwneud rhan daliadau neu daliadau mewn camau
  • â threfniadau cytundebol neu ddarpariaethau gwarant cymhleth

Mae ffactoreiddio’n fwy cymhleth na mathau eraill o gyllid. Gallai fod yn fuddiol cael cyngor proffesiynol cyn defnyddio ffactoreiddio am y tro cyntaf.

Factoring is more complex than some other forms of funding. You may want to take professional advice before using factoring for the first time.

2. Y broses

Ffactoreiddio

Mae ffactoreiddio'n cynnig taliad cyflym ymlaen llaw yn erbyn eich cyfriflyfr gwerthu. Mae’n eich galluogi, am gost, i wella llif arian drwy werthu’ch anfonebau nas talwyd i gwmni ffactoreiddio.

Pan fo anfoneb yn cael ei chodi

  • rydych yn codi anfoneb, sydd â chyfarwyddiadau i dalu’r asiant ffactoreiddio (y ffactor) yn uniongyrchol a’i anfon i’r cwsmer. Anfonwch gopi o’r anfoneb i’r ffactor
  • mae’r ffactor yn rhoi canran y cytunwyd arni o’r anfoneb i fod ar gael i chi
  • mae’r ffactor yn rhoi datganiadau i’r cwsmer ar eich rhan. Mae’n gweithredu trefniadau rheoli credyd yn cynnwys ffonio’r cwsmer os oes angen. Byddwch chi a’r ffactor yn cytuno ymlaen llaw sut mae cysylltu â’r cwsmer

Pan fo anfoneb yn cael ei thalu gan y cwsmer

  • dylai’r cwsmer dalu 100% o’r anfoneb yn uniongyrchol i’r ffactor
  • mae’r ffactor yn talu gweddill yr anfoneb i chi

Pan nad yw anfoneb yn cael ei thalu

Os nad yw anfoneb yn cael ei thalu, bydd y cyfrifoldeb dros dalu’r ddyled yn dibynnu ar y math o gytundeb - naill ai ffactoreiddio gydag atebolrwydd neu ffactoreiddio heb atebolrwydd. Mewn ffactoreiddio gydag atebolrwydd chi sy’n gyfrifol am y ddyled, ac mewn ffactoreiddio heb atebolrwydd mae’r ffactor yn cymryd unrhyw ddyledion drwg.

Ffioedd

Bydd y ffactor yn cymryd ffi wrth dderbyn yr anfoneb. Byddant hefyd yn codi ‘ffi disgownt’ sy’n gweithio fel llog ac sy’n cael ei chyfrifo yn erbyn gweddill yr arian a godir yn fisol.

Disgowntio anfoneb

Disgowntio anfoneb yw ffordd arall o godi arian yn erbyn eich anfonebau sy’n eich caniatáu i gadw rheolaeth dros eich cyfriflyfr gwerthu.

Byddwch yn talu ffi i’r disgowntiwr anfoneb, fel arfer canran o werth yr anfonebau neu ffi benodedig y cytunwyd arni a gostyngiad (llog ar y swm net a roddwyd ymlaen llaw. Byddant yn cael gwybod am fanylion yr anfoneb yn electronig - drwy lawrlwytho llyfrau gwerthiannau diwrnod neu restrau anfonebau.

Wedi iddynt gael yr wybodaeth, bydd y disgowntiwr anfoneb yn rhoi arian ar gael i chi ar y gyfradd ganran y cytunwyd arni, y gallwch chi wedyn ei ddefnyddio. Wrth i chi dderbyn arian gan eich dyledwyr rydych yn ei dalu i’r disgowntiwr anfoneb, lleihau’r balans sy’n weddill a rhoi’r swm sydd ar ôl, ar gael.

3. Y manteision a’r anfanteision

Manteision

  • gall ffactoreiddio a disgowntio anfoneb roi hwb i’ch llif arian
  • mae prisiau’n gystadleuol oherwydd nifer y cwmnïau ffactoreiddio
  • mae rhoi’ch cyfriflyfr gwerthu allan ar gontract yn rhyddhau’ch amser i reoli’r busnes
  • gall asiantwyr ffactoreiddio (ffactoriaid) roi gwybodaeth ddefnyddiol i chi am statws credyd eich cwsmeriaid a gallant eich helpu i negydu gwell telerau â’ch cyflenwyr
  • gall ffactoriaid fod yn adnodd strategol ac ariannol ardderchog wrth gynllunio twf y busnes
  • cewch eich gwarchod rhag dyledion drwg os ydych yn dewis ffactoreiddio heb atebolrwydd
  • rhyddheir arian cyn gynted â bod yr archebion yn cael eu hanfonebu
  • bydd y ffactoriaid yn gwirio credyd eich cwsmeriaid a gallant helpu masnach eich busnes gyda chwsmeriaid o ansawdd gwell

Anfanteision

  • bydd ffactoriaid yn cyfyngu ar gyllid yn erbyn dyledwyr o ansawdd gwael, felly bydd angen i chi reoli’r newidiadau hyn mewn cyllid
  • er mwyn dod â chytundeb gyda ffactor i ben, bydd yn rhaid i chi dalu’n ôl unrhyw arian a roesant i chi ymlaen llaw ar anfonebau os nad yw’r cwsmer wedi’u talu nhw eto. Gall hyn olygu rhywfaint o gynllunio busnes
  • bydd sut mae’ch ffactor yn delio â’ch cwsmeriaid yn effeithio ar yr hyn mae’ch cwsmeriaid yn ei feddwl amdanoch chi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio cwmni dibynadwy na fydd yn rhoi enw drwg i chi

4. Camgymeriadau cyffredin

Wrth fynd i gytundeb â ffactor, mae’n bwysig eich bod yn deall pa gostau rydych yn debygol o’u hwynebu, beth yw’ch rhwymedigaethau cytundebol a beth yw’ch hawliau pe bai’ch amgylchiadau yn newid. Fel arall, gallai taliadau annisgwyl fod yn eich wynebu yn hwyrach.

Dylech gymharu cynigion gan sawl cwmni a chael cyngor proffesiynol cyn gwneud ymrwymiad i ddarparwr ffactoreiddio neu ddisgowntio anfoneb.

5. Ffynonellau cyllid

Gall asiantwyr ffactoreiddio fod yn annibynnol, neu’n is-gwmnïau i’r prif fanciau a’r sefydliadau ariannol. Mae gan y Gymdeithas Cyllid Seiliedig ar Asedau (ABFA) restr o ddarparwyr gyda manylion eu gofynion o ran trosiant a’r gwasanaethau y maent yn eu cynnig.

Defnyddiwch ein canfyddwr cyllid i chwilio am ffynonellau ffactoreiddio a disgowntio anfonebau.