1. Beth yw cardiau debyd a chredyd?

Mae prynu pethau gyda chardiau plastig yn ddewis cyfleus a hyblyg i nifer o fusnesau.

Caiff y rhan fwyaf o gardiau eu rhoi drwy fanc neu gymdeithas adeiladu. Mae’r gwahanol fathau o gerdyn sydd ar gael - o gardiau debyd, credyd a thalu i gardiau prynu arbenigol a theithio - yn golygu nad oes raid i chi gario symiau mawr o arian parod neu lyfr siec cwmni. Gellir rheoli pryniannau staff yn effeithiol hefyd drwy ddefnyddio cardiau talu cwmni.

Caiff cardiau eu derbyn yn helaeth ledled y byd a gallant eich hepu i gadw llygad manwl ar yr hyn rydych yn ei wario.

2. Mathau o gardiau

Mae yna amrywiaeth eang o gardiau talu plastig ar y farchnad, sy’n cynnig gwahanol delerau ac amodau a ffyrdd o dalu’ch balans.

Cardiau credyd

  • yn caniatáu pryniannau hyd at derfyn penodedig
  • yn cynnig cyfnod di-log
  • yn caniatáu isafswm ad-daliad bob mis, ond yn codi llog ar y gweddill
  • dim llog os yw’r bil yn cael ei dalu’n llawn erbyn y dyddiad penodedig
  • gellir eu rhoi i weithwyr gyda therfyn gwario a gymeradwywyd

Ceir nifer o ddarparwyr cerdyn credyd – Visa a MasterCard yw’r rhan fwyaf – sy’n cael eu rhoi drwy fanc neu gymdeithas adeiladu.

Cardiau talu

  • yn caniatáu cyfnod credyd - ond rhaid eu talu’n llawn bob mis
  • gellir eu rhoi  i weithwyr
  • yn eich galluogi i osod terfynau gwario
  • gall fod ffi flynyddol

Cardiau debyd

  • cânt eu rhoi ochr yn ochr â chyfrif cyfredol busnes
  • gallant fod yn rhatach na sieciau
  • gallant gynnig mwy o reolaeth – dim ond yr hyn sydd yn eich cyfrif y gallwch ei wario
  • yn llai hyblyg na chardiau eraill

Cardiau rhagdaledig

  • gallant eich helpu i reoli a monitro gwariant
  • gellir eu rhoi wedi’u llwytho’n barod i weithwyr i dalu treuliau
  • maent ar gael mewn arian gwahanol wledydd fel dewis arall i gardiau teithio
  • fel arfer mae ffioedd a thaliadau ynghlwm â nhw – megis costau dosbarthu, ffioedd rheoli, a ffioedd trafodion neu godi arian o beiriant ATM

Cardiau teithio

  • yn ffordd gyfleus o dalu treuliau teithio busnes wrth deithio
  • yn gweithio yn yr un ffordd â chardiau credyd neu gardiau talu busnes eraill
  • yn cynnig manteision ychwanegol, megis yswiriant teithio neu gyfleusterau newid arian

Cardiau pryniant

  • fel arfer wedi’u cyfyngu i fusnesau mawr neu gyrff y sector cyhoeddus
  • yn cael eu rhoi gan fanciau a chwmnïau fel Barclaycard ac American Express
  • yn torri i lawr ar waith papur a’r angen am archebion prynu

Gallech ddefnyddio cerdyn debyd neu gredyd personol yn lle cerdyn busnes ar gyfer treuliau busnes, ee wrth aros i’ch cyfrif banc busnes gael ei sefydlu. Fodd bynnag mae hyn yn golygu y byddwch yn cymysgu dyledion personol â dyledion busnes. Mae hefyd yn fwy anodd cadw llygad ar yr hyn a wariwch ar eich busnes.

3. Y manteision a’r anfanteision

Manteision

  • hwylustod - mae cardiau yn gynt a gallant fod yn rhatach i’w defnyddio na sieciau
  • maent yn ddefnyddiol ar gyfer treuliau cyffredin a gellir eu defnyddio dros y ffôn a’r rhyngrwyd
  • credyd – gall biliau cerdyn credyd neu gerdyn talu gynnig cyfnod di-log o hyd at 56 diwrnod, yn dibynnu ar ba roddwr cardiau a ddefnyddiwch
  • mae’r rhan fwyaf o gardiau’n cael eu cydnabod dros y byd - gall defnyddio cardiau ar gyfer prynu pethau tramor roi gwell cyfraddau cyfnewid i chi
  • y gallu i fonitro gwariant – gallwch bennu pa weithwyr sy’n derbyn cardiau a gosod gwahanol derfynau credyd ar bob cerdyn
  • mynediad cyflym at arian parod – gellir codi arian o beiriannau arian
  • llai o waith gweinyddu – gyda cherdyn credyd neu dalu cwmni, rydych yn talu un bil y mis, waeth faint o bethau a brynwch

Anfanteision

  • twyll cerdyn - os caiff manylion y cerdyn eu darganfod neu eu datgelu, gallwch weld nifer o bryniannau gwerth miloedd o bunnau’n ymddangos yn anghywir ar eich datganiad. Hyd yn oed os mai esgeulustod gweithiwr sy’n gyfrifol am hyn, gallai’ch busnes fod yn dal i orfod talu
  • dyled – gyda chyfleustra cerdyn plastig a’r cyfnod amser rhwng prynu a thalu, gall fod yn demtasiwn i or-ymestyn eich hun a chrynhoi dyledion i’r busnes

4. Camgymeriadau cyffredin

Er eich bod fel arfer yn gallu gosod uchafswm terfynau gwario ar gardiau gweithwyr, dylech fod yn ymwybodol eich bod yn rhoi cyfle i’ch gweithwyr wario arian y cwmni heb neb yn eu gwirio. Mae yna risg y gallent brynu eitemau anaddas neu ddiangen na ellir mo’u dychwelyd.

Dylech gyfuno defnyddio cerdyn â system adrodd yn ôl arferol i leihau’r perygl o drafodion diangen. Ond gall fod yn werth chwilio am gardiau sy’n caniatáu i chi roi cyfyngiadau ar brynu eitemau arbennig fel petrol, gan fod yn rhaid i’ch busnes anrhydeddu pob taliad a wneir wrth i’ch gweithwyr ddefnyddio’r cardiau, p’un ai’ch bod chi wedi’i awdurdodi ai peidio.

Os ydych yn prynu pethau gyda cherdyn credyd a ddim yn talu’r bil yn llawn, byddwch yn wynebu taliadau llog, a all gynyddu yn gyflym.

5. Ffynonellau cyllid

Mae yna nifer o ddarparwyr cerdyn credyd – y rhan fwyaf yw Visa neu MasterCards – a roddir drwy fanc neu gymdeithas adeiladu.

I ganfod pa gynigion sydd ar gael, ewch i gangen leol y banc neu ewch i wefannau banciau sydd â chyfrifon busnesau bach.

Defnyddiwch ein canfyddwr cyllid i chwilio am gyfrifon banc busnes.