1. Beth yw grant?

Grant yw swm o arian a roddir i unigolyn neu fusnes ar gyfer prosiect neu ddiben arbennig.

Fel arfer dim ond rhan o gyfanswm y costau y mae’r grant yn talu amdano.

Gall grantiau fod yn gysylltiedig â gweithgaredd busnes, creu swyddi neu sector diwydiant arbennig. Mae rhai grantiau’n gysylltiedig ag ardaloedd daearyddol, ee y rheiny sydd angen adfywiad economaidd.

2. Y broses ymgeisio

Cyn gwneud cais am grant, dylech wneud yn siŵr eich bod:

  • yn bodloni amodau’r cynllun
  • yn barod i roi rhywfaint o’ch arian eich hun neu sicrhau arian cyfatebol o’r sector preifat
  • angen yr arian at ddiben arbennig
  • ddim yn dechrau’r prosiect cyn cael cytundeb gan y corff / darparwr cyllid

Pan fyddwch wedi dod o hyd i’r cynllun grant cywir i’ch anghenion chi, bydd angen i chi ddarparu:

  • disgrifiad manwl o’r prosiect
  • eglurhad am fanteision posibl y prosiect
  • cynllun gwaith manwl wedi’i gostio’n llawn
  • manylion eich profiad perthnasol a phrofiad rheolwyr allweddol eraill
  • ffurflenni cais wedi’u cwblhau

3. Y manteision a’r anfanteision

Manteision

  • nid oes rhaid ad-dalu’r rhan fwyaf o grantiau ac nid ydynt yn cael eu dangos fel dyled ar eich mantolen

Anfanteision

  • gall y broses ymgeisio gymryd llawer o amser
  • mae yna lawer o gystadleuaeth
  • gall fod raid i chi ddangos cynnydd y prosiect i’r corff grant
  • gall fod angen i chi gael arian cyfatebol, gan nad yw grantiau fel arfer yn talu am gostau llawn y prosiect

4. Camgymeriadau cyffredin

Gall eich cais gael ei wrthod os:

  • nad yw maes eich ymchwil / grant yn berthnasol i’r corff sy’n dyfarnu’r grant
  • nid ydych wedi egluro sut byddai’ch syniadau ymchwil yn cael eu rhoi ar waith
  • mae datganiadau ar eich cynnig neu’ch cais nad ydynt yn cael eu hategu gan ffeithiau cefnogol
  • nid oes ffocws i’ch cynllun ymchwil ac mae diffyg eglurder
  • nid ydych wedi llwyddo i gyfleu effaith y gwaith ar y gymuned ehangach a diwydiant
  • nid yw’r wybodaeth a roddwyd gennych yn y cais yn ddigon diweddar
  • nid ydych wedi egluro pwysigrwydd yr arian i lwyddiant neu fethiant y prosiect
  • ni allwch brofi eich bod wedi sicrhau arian cyfatebol
  • nid ydych wedi profi’ch angen am gymorth grant

Os gwrthodwyd rhoi grant i’ch busnes, gallwch ofyn am adborth ar pam y gwrthodwyd y cais, i’ch helpu gyda cheisiadau yn y dyfodol.

5. Ffynonellau cyllid

Dyma’r prif grwpiau sy’n dyfarnu grantiau:

  • Llywodraeth Cymru 
  • Llywodraeth y DU
  • yr Undeb Ewropeaidd
  • awdurdodau lleol
  • cyrff elusennol

Defnyddiwch ein canfyddwr cyllid i chwilio am ffynonellau grant.