1. Gwybodaeth am y Start Up Loans Company

Mae’r Start Up Loans Company yn gweithredu ar draws y DU â chefnogaeth y llywodraeth.  Mae’r cynllun yn cynnig benthyciadau ad-daladwy i unigolion dros 18 oed sydd â syniad busnes hyfyw ond heb fynediad at gyllid . Mae'r cynllun yn cefnogi busnesau ym mhob sector.  Yn ogystal â chefnogaeth ariannol mae pob un sy’n derbyn benthyciad yn cael mynediad at fentor, y cyfle i fynychu digwyddiadau hyfforddi yn rhad ac am ddim a chynigion busnes unigryw.

Gall unigolion sydd am ddechrau busnes gael mynediad i fenthyciad yn ystod y 2 flynedd gyntaf o fasnachu ar gyfradd llog o 6.2%. Gall benthyciadau amrywio rhwng £500 i £25,000 gydag hyd at 5 mlynedd i’w ad-dalu. Gall ymgeiswyr ymgeisio am fenthyciad dechrau busnes yn rhad ac ddim a NI chodir tâl am wneud y cais nac ychwaith am flaendal.

2. Pwy all ymgeisio?

Mae gwneud cais yn hawdd iawn, ac yn cymryd ychydig o funudau. Cyn belled â bod gennych:

  • syniad busnes, neu wedi dechrau busnes yn ddiweddar
  • a’r hawl i fyw a gweithio yn y DU
  • prawf o’ch hunaniaeth
  • prawf nad ydych yn fethdalwr heb ei ryddhau, neu’n mynd drwy Trefniadau Gwirfoddol Unigol (IVA’s)

Bydd y cleient yn cael ei gefnogi drwy'r broses gan gynghorydd dechrau busnes a fydd yn ei gynorthwyo i gwblhau y cynllun busnes a rhagolygon llif arian i gefnogi’r cais am fenthyciad.

3. Sut mae gwneud cais?

Am ragor o wybodaeth neu i gyflwyno eich cais ewch i Startuploans.co.uk.

4. Mentora

Mae angen help ar bawb i dyfu eu busnes, felly ar ôl i chi dderbyn eich benthyciad, byddwn yn eich paru â mentor addas a fydd yn eich llywio chi  drwy’r heriau neu’r rhwystrau wrth i chi fynd ati i sefydlu a rhedeg eich busnes. Mae mentora yn rhan amhrisiadwy o raglen y Start Up Loans Company. Mae'n rhad ac am ddim i'r rhai sy'n derbyn benthyciad dechrau busnes ac yn cynnig hyd at 15 awr o gymorth.