1. Beth yw cyllid gan ffrindiau a theulu?

Gallech fod yn dymuno gofyn i berthnasau a ffrindiau am gymorth pan fo angen cyllid busnes ychwanegol arnoch.

Gall hyn weithio’n dda, ond yn aml mae trefniadau gyda theulu a ffrindiau yn anffurfiol ac yn seiliedig ar ymddiriedaeth a sicrhad ar lafar yn unig. Gallai unrhyw ddryswch am y cytundeb niweidio perthnasau personol, felly mae’n bwysig fod pob ochr yn glir am yr hyn y bydd unrhyw fuddsoddiad yn ei olygu. Ystyriwch a ydych angen benthyciad (i gael arian yn syth, yn y tymor byr) neu eisiau gwerthu cyfranddaliadau (i gael cyllid tymor hirach neu barhaol).

2. Y broses

Os ydych yn penderfynu derbyn benthyciad neu fuddsoddiad gan ffrindiau neu deulu, dylech fynd i’r afael â hyn yn fel pe bai’n gynnig ffurfiol o gyllid. Bydd hyn yn golygu:

  • cyflwyno’ch cynllun busnes
  • paratoi achos busnes
  • cymryd cyngor proffesiynol
  • creu cytundeb ffurfiol, ysgrifenedig

Cyn mynd at ffrind neu aelod o’r teulu, dylech greu neu ddiwygio’ch cynllun busnes fel y gallwch ddangos eich cynlluniau ar gyfer y busnes a’u buddsoddiad ynddo. Wrth wneud eich cynllun, ystyriwch yr un pethau ag y byddech yn eu cyflwyno i unrhyw fenthyciwr neu fuddsoddwr ffurfiol. Bydd angen i’r ffrind neu’r perthynas wybod sut bydd eu harian yn cael ei ddefnyddio a’r darlun mwy ar gyfer eich busnes. Gwnewch yn siŵr eu bod yn ymwybodol o bob risg a’r sefyllfaoedd gwaethaf a allai ddigwydd.

Mae angen i chi wneud achos busnes a fydd yn eu perswadio i ariannu’ch busnes.

3. Ffynonellau cymorth

Dylai’r ddwy ochr gael cyngor proffesiynol os yw’r symiau dan sylw yn sylweddol. Bydd hyn yn helpu’r ddwy ochr i ystyried ffactorau yn wrthrychol, heb deimlo o dan bwysau ac i wneud penderfyniad y teimlwch yn gyffyrddus ag ef. Bydd nifer o gyfrifwyr yn cynghori ar y problemau hefyd ac yn llunio cytundeb.

Os ydych chi a’ch darparwr/darparwyr cyllid yn penderfynu symud ymlaen, dylech ffurfioli’r trefniant gyda chytundeb ysgrifenedig. Bydd hyn yn atal unrhyw gamddealltwriaeth yn y dyfodol ac yn rhoi sail gadarn i’r berthynas fusnes.

Dylai cytundeb benthyca ymdrin â maint a thelerau’r benthyciad, y cynllun ad-dalu a’r cyfraddau llog. Mae trefniadau buddsoddi yn fwy cymhleth a dylent gynnwys y swm a fuddsoddwyd, y dyraniad elw a chyfranddaliadau, swyddogaethau a chyfrifoldebau’r ddau barti. Dylech gael cyngor proffesiynol i’ch helpu i ddrafftio unrhyw gytundebau ysgrifenedig.

4. Manteision ac anfanteision

Manteision

  • gallant fod yn fwy hyblyg na benthycwyr eraill
  • gallant gynnig benthyciadau heb warant neu dderbyn llai o warant na’r banciau
  • mae’n bosibl y gwnânt fenthyca arian yn ddi-log neu ar gyfradd isel
  • mae’n bosibl y cytunant i gyfnod ad-dalu hirach neu ofyn am lai o elw ar eu buddsoddiad na benthycwyr ffurfiol
  • maent yn adnabod eich cymeriad a’ch amgylchiadau
  • mae’n bosibl y gallwch ddarparu cynllun busnes llai manwl gan eu bod eisoes yn gwybod am y busnes.

Anfanteision

  • gall camddealltwriaeth niweidio’r berthynas
  • mae yna risg y gall eich buddsoddwyr gynnig mwy nag y gallant fforddio’i golli, neu y byddant yn gofyn am eu harian yn ôl pan fo hynny’n gyfleus iddyn nhw ac nid i’ch busnes
  • gallant fod eisiau cael mwy o ran yn y busnes, a gallai hyn fod yn amhriodol

5. Camgymeriadau cyffredin

Gallech gael eich temtio i gael cytundeb anffurfiol â’ch ffrindiau neu’ch teulu sy’n ariannu’ch busnes, ond gall hyn arwain at ddryswch. I osgoi unrhyw broblemau yn y dyfodol, dylech:

  • egluro’ch disgwyliadau eich hun – dweud am faint y byddwch angen yr arian
  • manylu ar lefel yr ad-daliadau y gallwch eu fforddio
  • egluro’n fanwl faint o gyfranddaliadau neu pa elw bydd y buddsoddwr yn eu derbyn - a phryd bydd unrhyw elw’n cael ei dalu
  • egluro a fydd gan fuddsoddwr unrhyw rwymedigaethau ariannol  ar eich gweithgareddau busnes
  • llunio cytundeb ysgrifenedig ffurfiol
  • meddwl ddwywaith am fynd at ffrind neu aelod o’r teulu os yw ffynonellau cyllid eraill wedi’ch gwrthod. Dadansoddwch y rhesymau am hyn ac adolygwch eich cynnig busnes. Cofiwch os yw’ch busnes yn methu, gall benthycwyr a buddsoddwyr golli eu harian
  • rhoi’r rhesymau a gawsoch gan eraill am eich gwrthod