1. Beth yw cyllid tyrfa neu gyllid torfol?

Mae cyllid tyrfa - neu gyfalaf a ddaw gan dyrfa - yn fath arall o fuddsoddiad angel busnes. Fe’i gwneir ar-lein fel arfer, ac mae’n caniatáu i nifer o fuddsoddwyr fuddsoddi yn unigol symiau llai o arian mewn busnes. Yna caiff y buddsoddiadau unigol eu crynhoi gyda’i gilydd i helpu busnes i gyrraedd ei darged cyllid.

Gall cyllid tyrfa fod yn opsiwn da i fusnesau sy’n cael trafferth codi cyllid drwy fenthyciadau neu ddulliau ariannu traddodiadol eraill, ond dylech wneud yn siŵr fod eich syniad wedi’i warchod cyn ei roi ar wefan cyllid tyrfa.

2. Y broses

Gallwch gyflwyno syniad (pitch) i wefan cyllid tyrfa sy’n crynhoi’ch busnes a’r hyn yr ydych eisiau ei gyflawni gyda’r buddsoddiad. Dylech hefyd restru’r swm rydych eisiau ei godi a’r canran o’ch busnes rydych yn ei gynnig yn gyfnewid am gyrraedd eich targed cyllid – os ydych yn fodlon cymryd buddsoddwyr allanol.

Nid yw’r rhan fwyaf o wefannau cyllid tyrfa yn codi tâl arnoch am gyhoeddi syniad, ond gallant gymryd comisiwn pan fyddwch yn cyrraedd eich targed - felly mae angen i chi ystyried hyn yn eich cyfanswm buddsoddiad.

Gallech ddewis cynnig gwobr i fuddsoddwyr fel cymhelliant i fuddsoddi yn eich syniad. Er enghraifft, gallech gynnig gostyngiad ar eich gwasanaethau neu’ch nwyddau.

Bydd buddsoddwyr sy’n defnyddio cyllid tyrfa yn chwilio fel arfer am:

  • dystiolaeth o ddatblygiad neu ehangu cynnar
  • busnes sy’n dangos potensial i gael elw uchel ar eu buddsoddiad
  • busnes mewn sector y mae ganddyn nhw ddiddordeb personol ynddo

3. Y manteision a’r anfanteision

Manteision

  • gall cyllid tyrfa eich helpu i godi ymwybyddiaeth o’ch busnes newydd
  • gall fod yn ffordd gyflym o godi arian ac nid oes ffioedd i’w talu ymlaen llaw
  • gall buddsoddwyr ddilyn eich cynnydd a gallant eich helpu i hyrwyddo’ch brand drwy eu rhwydweithiau
  • mae’n ddewis arall i fusnesau sy’n cael trafferth cael benthyciadau banc neu gyllid traddodiadol

Anfanteision

  • os nad ydych wedi gwarchod eich syniad busnes gyda phatent neu hawlfraint, gall rhywun ei weld ar safle cyllid tyrfa a dwyn eich syniad
  • os nad ydych yn cyrraedd eich targed cyllid, bydd unrhyw gyllid a addawyd yn cael ei ddychwelyd i’r buddsoddwyr fel rheol

4. Camgymeriadau cyffredin

Mae’n bosibl na fydd cyllid tyrfa yn iawn i’ch busnes chi os oes gennych syniad busnes cymhleth y bydd pobl yn ei chael yn anodd ei ddeall. Mae angen i chi allu egluro’ch syniad busnes mewn ffordd sy’n eglur, yn gryno ac yn ennyn diddordeb os ydych am ddenu buddsoddwyr ar wefan cyllid tyrfa.

5. Ffynonellau cyllid

Gallwch roi sylw i’ch syniad busnes ar nifer o wefannau cyllid tyrfa, yn cynnwys:

Mae’r maes hwn yn datblygu. Chwiliwch ar-lein am lwyfannau ariannu torfol sy’n berthnasol i sector eich busnes neu ddiddordebau’ch busnes.