1. Beth yw cyllid cyfalaf menter?
Cyllid cyfalaf menter yw math o fuddsoddiad ecwiti preifat lle mae busnes yn cael buddsoddiad tymor hir yn gyfnewid am gyfran o’i ecwiti.
Mae cyfalaf menter yn addas ar gyfer busnesau sy’n cychwyn neu fusnesau newydd sydd â photensial uchel i dyfu, busnesau sy’n bodoli’n barod sy’n ehangu’n gyflym neu i dalu am brynu allan neu brynu i mewn gan y rheolwyr, neu i ddatblygu cynhyrchion newydd a symud i mewn i farchnadoedd newydd.
Fel arfer mae cyfalafwyr menter yn buddsoddi mewn busnesau sydd â
- chynllun busnes uchelgeisiol ond realistig
- cynnyrch neu wasanaeth sy’n cynnig pwynt gwerthu unigryw neu fantais gystadleuol arall
- potensial ennill mawr ac elw uchel ar fuddsoddiad o fewn amserlen benodol, ee pum mlynedd
- tîm rheoli profiadol gyda hanes blaenorol yn y sector - er nad yw cyfalafwyr menter yn tueddu i gymryd rhan mewn rhedeg y busnes o ddydd i ddydd, maent yn aml yn helpu gyda strategaeth fusnes, gallant benodi cyfarwyddwyr anweithredol i’r cwmni a sylwedyddion bwrdd.
2. Y broses
Mae codi menter cyfalaf yn broses hirfaith a gall gymryd sawl mis i sicrhau’r buddsoddiad. Mae’n bwysig caniatáu ar gyfer yr amser hwn yn eich cynllun busnes a gwneud yn siŵr fod gennych ddigon o arian i dalu am y busnes tra’ch bod chi’n sicrhau buddsoddwr.
Cyn mynd at Gyfalafwyr Menter dylech ymchwilio i’r gronfa a’u meini prawf buddsoddi o safbwynt y swm maent yn ei fuddsoddi, y sectorau a’r ardaloedd daearyddol maent yn buddsoddi ynddynt ac ar ba gam o’r busnes maent yn rhoi cymorth.
Bydd rhai cwmnïau hefyd yn gweithio drwy Gynghorydd Cyllid Corfforaethol sy’n helpu i baratoi’r cynllun busnes, gwerthu’r syniad a gwneud cyflwyniadau i’r cronfeydd perthnasol. Gall hyn sicrhau eich bod yn cyflwyno cynnig o safon i’r darpar fuddsoddwyr ac yn targedu’r cyllid cywir ar gyfer eich busnes.
Dylech wneud yn siŵr fod eich cynllun busnes wedi’i ddiweddaru gyda rhagolygon ariannol manwl.
Gall y broses fuddsoddi amrywio rhwng un gronfa a’r llall ond byddai proses fuddsoddi nodweddiadol yn debyg i hyn:
- Anfon crynodebau gweithredol a chynlluniau busnes i’ch rhestr o fuddsoddwyr targed.
- Cyfarfod buddsoddwyr sydd â diddordeb wyneb yn wyneb a gwerthu’ch syniad (pitch).
- Bydd y buddsoddwr yn gwneud ei ddadansoddiad ei hun ac yn penderfynu a yw am gyhoeddi taflen delerau ffurfiol. Cytundeb yw hwn sy’n gosod allan telerau’r buddsoddiad, faint maent yn dymuno’i fuddsoddi, y gyfran o’ch busnes maen nhw eisiau, math y cyfranddaliad a’r hawliau sydd ynghlwm â’r cyfranddaliadau hynny. Fel arfer mae hwn yn grynodeb lefel uchel sy’n amlinellu prif delerau masnachol y buddsoddiad.
- Diwydrwydd dyladwy. Ymarfer casglu a gwrio gwybodaeth yw hwn ar yr hyn a hawliwyd gennych yn eich cynllun busnes. Byddai fel arfer yn ymdrin â phob agwedd o’r busnes yn cynnwys yr agweddau masnachol, rheoli, technegol ac Eiddo Deallusol ac ariannol. Y cwmni sy’n talu am hyn fel arfer ac fe’i tynnir o’r buddsoddiad.
- Os yw’r ymarfer diwydrwydd dyladwy yn llwyddiannus mae gan y rhan fwyaf o gronfeydd broses gymeradwyo fewnol a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol i fuddsoddi.
- Wedi i’r buddsoddiad gael ei gymeradwyo, bydd y ddwy ochr yn penodi cyfreithiwr i lunio’r cytundebau buddsoddi cyfreithiol gyda’i gilydd.
3. Y manteision a’r anfanteision
Manteision
- mae cyllid cyfalaf menter wedi’i ymrwymo ac yn dymor hir
- rydych yn cadw rheolaeth dros eich busnes – ni fydd y buddsoddwyr yn cymryd rhan mewn rhedeg eich busnes o ddydd i ddydd
- nid oes angen gwarant gyfochrog, hy asedau personol
- dim ad-daliadau neu log
- gall ecwiti roi cyfalaf i’ch galluogi i wneud newid sylweddol yn eich twf
Anfanteision
- gwerthu cyfranddaliadau yn eich busnes
- mae codi cyfalaf menter yn llafurus, yn ddrud ac yn cymryd amser
- ddim fel arfer yn addas ar gyfer buddsoddiadau bach
- gall gymryd amser i ddod o hyd i fuddsoddwr menter cyfalaf addas
4. Camgymeriadau cyffredin
Gallwch fethu â llwyddo i godi cyllid cyfalaf menter oherwydd nad ydych wedi gwneud yn siŵr eich bod yn ‘barod am fuddsoddiad’ cyn mynd at ddarpar fuddsoddwyr.
Bydd buddsoddwyr eisiau gwybod a fydd cyfle i ymadael ac y gallant adennill eu buddsoddiad a gwneud elw. Dylech fod yn gallu dweud wrthynt am gynlluniau ac uchelgeisiau tymor hir eich busnes hy eich strategaeth ymadael. Mae angen i hwn gyd-fynd hefyd â chynllun y buddsoddwr ar gyfer eich busnes felly mae dewis y buddsoddwr cywir yn hollbwysig.
Mae tîm rheoli profiadol sydd â hanes o lwyddiant blaenorol yn y sector yn hanfodol. Gallwch ddod â mwy o hygrededd i’r tîm rheoli drwy benodi cyfarwyddwyr anweithredol neu gael bwrdd cynghori sy’n cynnwys pobl broffesiynol sydd â phrofiad yn y diwydiant.
5. Ffynonellau cyllid
Defnyddiwch ein canfyddwr cyllid i chwilio am ffynonellau cyfalaf menter
- Gallwch ddefnyddio cyfeirlyfr aelodau’r Gymdeithas Brydeinig Ecwiti Preifat a Chyfalaf Menter (BVCA) i ddod o hyd i fuddsoddwyr menter cyfalaf. Fodd bynnag, bydd angen i chi danysgrifio i gael mynediad i hwn
- Cafodd Banc Datblygu Cymru ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2017 gan olynu Cyllid Cymru. Mae’n darparu cyllid masnachol, gan gynnwys ecwiti, i fusnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru er mwyn iddynt allu gwireddu eu potensial ar gyfer arloesi a thyfu
- Mae’r Gronfa Twf Busnesau yn gynllun ariannu i gwmnïau canolig eu maint a lansiwyd gan y llywodraeth a Chymdeithas Brydeinig y Bancwyr. Mae’r gronfa’n buddsoddi rhwng £2m a £10m mewn cwmnïau, yn gyfnewid am gyfran o’r busnes sy’n amrywio o 10% i 50%
- Mae’r Cronfeydd Cyfalaf Menter (ECFs) yn darparu ecwiti hyd at £2 miliwn i gwmnïau sydd â throsiant o hyd at €50 miliwn, os oes ganddynt fodelau busnes hyfyw, yn gweithredu mewn sector cymwys a photensial twf sydd angen buddsoddiad tymor hir