Cynllun cyllid nodwedd
Beth yw Banc Datblygu Cymru?
Mae Banc Datblygu Cymru yn fenthyciwr unigryw i fusnesau yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi economi Cymru trwy ei gwneud hi'n haws i fusnesau gael y cyllid sydd ei angen arnynt i ddechrau, cryfhau a thyfu.
Sut y gall helpu fy musnes i?
Gall Banc Datblygu Cymru gefnogi busnesau yng Nghymru yn y ffyrdd canlynol:
- benthyciadau o £1,000 - £5 miliwn ar gyfer dechrau, cryfhau neu dyfu eich busnes
- buddsoddiad ecwiti o £50,000 i £5 miliwn ar gyfer busnesau sefydledig
- cyllid sbarduno ar gyfer busnesau technoleg newydd cyn-refeniw
- buddsoddiad ecwiti ar gyfer busnesau cynnar ac aeddfed sy'n seiliedig ar dechnoleg
- cyllid o hyd at £5 miliwn i brynu busnes
- benthyciadau datblygu eiddo ar gyfer prosiectau yng Nghymru
- cyd-fuddsoddiad ochr yn ochr â banciau, arianwyr torfol, grantiau, buddsoddwyr a benthycwyr eraill
Beth yw'r meini prawf ar gyfer cefnogaeth?
Dim ond busnesau sydd wedi'u lleoli yng Nghymru neu'n barod i adleoli y gall y Banc Datblygu eu cefnogi. Fe all gefnogi B2B a B2C gyda ffocws ar fusnesau micro i ganolig er fe all rhai nad ydynt yn fusnesau bach a chanolig ymgeisio hefyd.
Gallwch wirio cymhwysedd eich busnes mewn ychydig funudau trwy ddefnyddio gwirydd cymhwyster y Banc Datblygu.
Sut alla’ i wneud cais?
Gallwch wneud cais trwy gyfrwng ffurflen gais ar-lein. Gall dogfennau ategol megis cynlluniau busnes neu ddatganiadau banc naill ai gael eu hatodi i'ch cais neu eu hanfon yn ddiweddarach.
Pe hoffech wybod rhagor eich i weld www.bancdatblygu.cymru heddiw i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Banc Datblygu Cymru yn rheoli ystod o gronfeydd buddsoddi gan gynnwys Cronfa Busnes Cymru, a ariennir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy gyfrwng Llywodraeth Cymru.