Cyfrifydd Siartredig ICAEW

 

Sefydliad aelodaeth broffesiynol yw ICAEW sy’n cefnogi dros 156,000 o gyfrifwyr siartredig o amgylch y byd. Mae'n cynnig gwybodaeth ariannol a chanllawiau sy’n seiliedig ar safonau proffesiynol, technegol a moesegol.

Mae Gwasanaeth Cynghori Busnes yr ICAEW (BAS) yn darparu ymgynghoriad cychwynnol rhad ac am ddim i unrhyw fusnesau bach a chanolig gydag un o blith 3,000 a mwy o gwmnïau cyfrifyddiaeth siartredig cofrestredig ar hyd a lled y DU. 

Mae’r ymgynghoriad yn para am awr fel arfer ac nid oes unrhyw rwymedigaeth.  

Gall busnesau ddefnyddio’r ymgynghoriad hwn i ofyn am wybodaeth am amrywiaeth eang o bynciau yn cynnwys:

  • cyllid busnes 
  • rheoli llif arian
  • strategaeth twf 
  • ailstrwythuro/ansolfedd 

Yn yr amgylchiadau eithafol sydd ohoni yn sgil pandemig y Coronafeirws, rydyn ni’n ystyried y gwasanaeth hwn fel un sy’n achubiaeth i lawer o fusnesau sy’n chwilio am gymorth cymwysedig a gwybodaeth eglur am y ffordd orau o weld y busnes yn goroesi ac yn parhau i dyfu yn y dyfodol.