1. Beth yw gorddrafft?

Gorddrafft yw swm o arian a roddir i chi fel credyd gan eich banc, y rhoddwyd terfyn a drefnwyd ymlaen llaw arno pan fo balans eich cyfrif yn mynd o dan sero.

Mae banciau fel arfer yn codi llog ar unrhyw swm o orddrafft a ddefnyddiwch, ond bydd telerau a phris gorddrafftiau yn amrywio rhwng darparwyr.

Gallwch ddefnyddio gorddrafft banc i reoli’ch llif arian, ond mae’n debyg nad yw’n addas os ydych yn chwilio am gyllid tymor hir.

2. Y broses ymgeisio

Mae cael gorddrafft yn debyg i wneud cais am fenthyciad gan eich banc. Mae’r rhan fwyaf o fenthycwyr yn mynnu eich bod yn:

  • rhannu’r risg ariannol drwy ddarparu cyfalaf hyd at yr un swm ag rydych eisiau ei fenthyg, dangos eich ymrwymiad a bod â chynllun wrth gefn i dalu’n ôl os yw pethau’n mynd o’u lle
  • darparu gwarant i geisiadau benthyca – ee asedau personol neu fusnes, megis eich cartref neu adeilad eich busnes
  • darparu gwarantau personol os ydych yn rhedeg cwmni cyfyngedig, ac na all y busnes gynnig gwarant ddigonol
  • rhoi gwybod iddynt sut mae pethau’n datblygu, yn enwedig os ydych yn rhagweld unrhyw newidiadau neu broblemau a fyddai’n effeithio ar eich cyfleuster gorddrafft
  • meddu ar gynllun busnes cynhwysfawr a rhagolwg llif arian ar gyfer ceisiadau benthyca mwy
  • meddu ar statws credyd da, yn cynnwys hanes da o dalu credydwyr eraill

Os ydych yn chwilio am orddrafft, bydd y banc yn arbennig o awyddus i weld eich bod yn gwneud defnydd cyfrifol ohono a ddim yn mynd dros y terfyn.

Mae’n bwysig dweud wrth y banc os yw’r cwmni’n cael trafferthion ariannol. Mae’n well ail-drafod telerau newydd nag i gyfrif dorri telerau cyfleuster gorddrafft.

3. Y manteision a’r anfanteision

Manteision

  • Mae gorddrafft yn hyblyg – dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch ar y pryd rydych yn ei fenthyg ac mae fel arfer yn cael ei drefnu’n gyflym
  • Dim ond pan ddefnyddiwch y cyfleuster gorddrafft y codir llog arnoch ac fel arfer nid yw banciau’n codi tâl arnoch am setlo’r gorddrafft yn gynt na’r disgwyl
  • Gellir adolygu cyfleusterau gorddrafft yn rheolaidd

Anfanteision

  • Os yw’n rhaid i chi ymestyn eich gorddrafft, mae’n rhaid i chi dalu ffi i drefnu hyn fel arfer
  • Gallai’r banc godi arnoch chi os ydych yn mynd dros derfyn eich gorddrafft heb ganiatâd a gallech gael eich cosbi’n ariannol am unrhyw sieciau sy’n cael eu gwrthod (“bownsio”)
  • Mae gan y banc yr hawl i ofyn i chi dalu swm o’ch gorddrafft yn ôl ar unrhyw adeg, er nid yw hyn yn debygol o ddigwydd oni bai eich bod yn mynd i drafferthion ariannol
  • Gall dal fod angen gwarant
  • Yn wahanol i fenthyciadau, dim ond  gan y banc lle mae eich cyfrif cyfredol y gallwch gael gorddrafft. Er mwyn cael gorddrafft yn rhywle arall, mae angen i chi drosglwyddo’ch cyfrif banc busnes
  • Mae’r gyfradd llog a roddir bron bob amser yn newidiol, sy’n ei gwneud yn anodd cyfrifo’ch costau benthyca yn gywir
  • Os nad ydych yn defnyddio’ch gorddrafft, gall gael ei ostwng gan y banciau ar fyr rybudd. Mae hyn yn annhebygol o ddigwydd oni bai eich bod yn mynd i drafferthion ariannol

4. Camgymeriadau cyffredin

Dim ond fel opsiwn cyllid tymor byr y dylid defnyddio gorddrafft gan y gall fod yn ddrutach na benthyciad tymor hirach ac mae’n rhaid ei dalu’n ôl ar alwad. Mae parhau i ddibynnu ar gyfleusterau gorddrafft yn awgrymu fod angen i’r busnes adolygu sut mae’n rheoli ei gyfalaf gweithio a rhoi gwell trefniadau rheoli arian yn eu lle a/neu sicrhau cyllid tymor hirach.

Gall eich banc eich gwrthod os na allwch:

  • egluro pam rydych eisiau’r gorddrafft a sut byddwch yn ei ddefnyddio
  • dangos eich bod yn deall y risgiau a’ch bod wedi cymryd camau i leihau eu heffaith
  • egluro pwy sy’n edrych ar ôl cyllid eich busnes a bod gennych systemau ariannol cadarn yn eu lle
  • darparu data ariannol, hy cyfrifon, cyllidebau a rhagolygon
  • cynnig gwarant yn erbyn y cyfleuster gorddrafft

5. Ffynonellau cyllid

Banciau yw prif ffynhonnell gorddrafftiau i fusnesau bach. 

Defnyddiwch ein canfyddwr cyllid i chwilio am gyfrifon banc busnes

Mae gwefan Cymdeithas Bancwyr Prydain yn cynnig gwasanaeth dod o hyd i gyllid busnes.