1. Trosolwg

Os ydych yn meddwl am ddechrau eich busnes eich hun, dylech ystyried y posibilrwydd o weithio o gartref.

Mae rhedeg busnes yn y cartref yn ddewis poblogaidd yn achos llawer o fathau o fusnesau llai o faint. Yn gyffredinol, bydd y costau'n is, gallwch osgoi treuliau teithio a bydd gennych y rhyddid a'r hyblygrwydd i weithio pa oriau bynnag a ddewiswch mewn amgylchedd y byddwch yn ei greu eich hun.

Mae datblygiadau mewn technoleg yn golygu y gellir rhedeg llawer o fathau o fusnesau o gartref.

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i benderfynu a yw dechrau busnes o gartref yn addas i chi. Mae hefyd yn dweud wrthych beth y bydd angen i chi ei wneud os penderfynwch ddechrau busnes yn eich cartref.

2. A yw dechrau busnes yn eich cartref yn addas i chi?

Mae rhedeg busnes yn eich cartref yn opsiwn os nad oes gwir angen i chi redeg eich busnes o safle busnes rydych yn ei rentu neu'n berchen arno.

Mae'n ddewis cyffredin i bobl nad oes angen mwy na swyddfa fach arnynt, neu sy'n treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn gweithio ar safleoedd sy'n eiddo i'w cleientiaid.

Fodd bynnag, efallai na fydd gweithio o gartref yn opsiwn os bydd yn newid y ffordd rydych yn defnyddio eich cartref yn sylweddol, neu'n effeithio ar eich ardal leol, er enghraifft os byddwch yn cael llawer o ymwelwyr. Os ydych yn rhentu eich cartref, efallai bod eich trwydded neu brydles yn cynnwys cyfyngiadau ynghylch ei ddefnyddio at ddibenion busnes.

Manteision ac anfanteision rhedeg busnes yn y cartref

 Mae'r prif fanteision fel a ganlyn:

  • nid ydych yn gwario llawer o arian ar rentu neu brynu swyddfa
  • rydych yn arbed amser ac arian gan nad oes angen i chi deithio i'r gwaith
  • gallwch weithio oriau hyblyg

 Mae'r anfanteision yn cynnwys:

  • gall fod yn anodd cadw eich gwaith a'ch bywyd cartref ar wahân, ac efallai y bydd pethau yn tynnu eich sylw ac yn torri ar eich traws yn y cartref
  • diffyg cyswllt â phobl a busnesau eraill
  • efallai y byddwch yn gweld eich bod yn gweithio oriau hir
  • gall effeithio ar eich morgais, eich yswiriant cartref a'ch sefyllfa o ran treth - gweler ein canllaw defnyddio eich cartref fel gweithle

Mynd i'r afael â'r anfanteision

Mae'n bwysig cadw eich bywyd cartref a'ch bywyd gwaith ar wahân, yn enwedig os oes gennych deulu. Mae camau syml y gallwch eu cymryd i sicrhau eich bod yn eu cadw ar wahân.

Os ydych yn teimlo'n unig, gall gwasanaeth Gwybodaeth Busnes Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill roi manylion digwyddiadau rhwydweithio i chi. Gallwch hefyd fynd ati i rwydweithio ar-lein

3. Syniadau poblogaidd ar gyfer busnesau yn y cartref

Os nad oes gennych syniad eto am ba fusnes i'w ddechrau yn eich cartref, gofynnwch 3 chwestiwn i chi eich hun:

  • a oes bwlch yn y farchnad? A ydych wedi ceisio prynu rhywbeth ond wedi methu â dod o hyd iddo? Os felly, efallai y bydd eraill yn chwilio am y cynnyrch hwnnw hefyd
  • beth yw fy nghymhelliant/sgil/diddordeb? A allwch ddod o hyd i ffordd o wneud bywoliaeth ohono?
  • a allaf wneud rhywbeth yn well? A ydych wedi gweld rhywun yn cynnig cynnyrch neu wasanaeth y gallwch, yn eich barn chi, ei ddarparu mewn ffordd well eich hun?

Syniadau poblogaidd ar gyfer busnesau yn y cartref

Ystyriwch gyfleoedd yn eich ardal leol ar gyfer gwasanaethau fel gofal plant, tiwtora, cyfieithu, golygu, mynd â chŵn am dro ac addasu dillad.

Ymhlith y gweithwyr eraill y mae'n gyffredin iddynt redeg busnes o'u cartref mae:

  • ymgynghorwyr
  • dylunwyr gwefannau
  • gwneuthurwyr celf a chrefft
  • cyhoeddwyr
  • arlwywyr
  • rhith-gynorthwywyr sy'n darparu cymorth proffesiynol i gleientiaid o swyddfa yn eu cartref

Gallech hefyd ystyried buddsoddi mewn masnachfraint. Manteision bod yn ddeiliad masnachfraint yw y gallwch fod yn fos arnoch chi eich hun ond hefyd gael budd o weithio gyda thîm canolog. Mae nifer gynyddol o gyfleoedd i brynu masnachfreintiau ar gyfer busnesau i'w rhedeg yn y cartref y gallwch ymchwilio iddynt.

Gweithio '5 tan 9'

Efallai y byddwch am ystyried dechrau busnes tra eich bod yn gweithio'n llawn amser neu'n rhan-amser, gan ddatblygu eich busnes gyda'r nos ac yn ystod penwythnosau. Fel hyn, byddwch yn ennill arian tra bod eich busnes yn ymsefydlu. Fodd bynnag, efallai y cewch anhawster rheoli'r oriau ychwanegol a'r gwaith ychwanegol.

Eich cynllun busnes

Unwaith y byddwch wedi llunio syniad ar gyfer busnes, byddwch angen creu cynllun busnes ysgrifenedig.

4. Syniadau poblogaidd ar gyfer busnesau yn y cartref

Os ydych yn chwilio am arian ychwanegol, mae dewisiadau amrywiol i'w hystyried.

Costau cychwynnol

Bydd angen i chi brynu, prydlesu neu rentu'r offer ar gyfer eich swyddfa gartref ac unrhyw ddeunyddiau sydd eu hangen arnoch ar gyfer y gwasanaeth rydych yn ei ddarparu.

Mae dod o hyd i gwsmeriaid a chadw mewn cysylltiad â hwy yn bwysig, felly bydd buddsoddi mewn cyfrifiadur da â'r feddalwedd berthnasol a chysylltiad band eang yn flaenoriaeth yn y rhan fwyaf o achosion.

Mae'r costau mwyaf cyffredin i'w hystyried wrth ddechrau busnes fel a ganlyn:

  • cyfrifiadur neu liniadur
  • cysylltiad band eang
  • ffôn symudol
  • desg neu gadair swyddfa
  • cardiau busnes
  • stoc - os ydych yn cyflenwi cynhyrchion

Pan fyddwch yn cynnwys pecynnau meddalwedd yn eich costau cychwynnol, ystyriwch y dewisiadau llawer rhatach neu hyd yn oed y dewisiadau sydd am ddim - meddalwedd ffynhonnell agored fel OpenOffice, Zoho, Google Docs a StarOffice.

5. Cadw cofnodion

Mae'n hollbwysig cadw cofnodion llawn a chywir o'ch incwm a'ch costau o'r dechrau. Mae cadw cofnodion yn ddoeth o safbwynt busnes ac mae'n ofynnol o dan y gyfraith hefyd. Felly mae'n bwysig rhoi system briodol ar waith o'r dechrau, a diweddaru'r wybodaeth yn rheolaidd.

Mae cadw cofnodion da yn eich helpu i wneud y canlynol:

  • llenwi eich ffurflenni treth yn haws ac yn gyflymach
  • talu'r swm cywir o dreth ar yr adeg gywir
  • osgoi talu llog a chosbau diangen

Dylech gadw anfonebau a derbynebau i ddangos beth rydych wedi'i brynu a'i werthu mewn perthynas â'ch busnes.

Os ydych yn cyflogi pobl eraill, rhaid i chi gadw cofnod o'u cyflogau ac unrhyw dreth ac Yswiriant Gwladol rydych wedi'u didynnu a'u talu i Gyllid a Thollau EM (CThEM).

Mae'n hollbwysig cadw cyfriflenni banc a llyfrau cymdeithasau adeiladu, yn enwedig os nad oes gennych gyfrif busnes ar wahân. Dylech allu dangos yn glir beth rydych wedi'i wario yn bersonol a beth rydych wedi'i wario ar y busnes. Os ydych yn defnyddio arian parod, bydd angen derbynebau til arnoch a chofnodlyfr i wneud nodyn o'r holl drafodion.

Os ydych yn defnyddio rhan o'ch cartref at ddibenion busnes, dylech gadw copïau o'r biliau cyfleustodau fel y gallwch gyfrifo faint o arian a wariwyd mewn perthynas â'ch busnes.

Os oes gennych gyfrifydd, efallai y byddwch am gael cyngor ganddo ar ba system sy'n addas i'ch busnes a sut i sicrhau bod eich cofnodion yn cael eu diweddaru.

Mae'n bwysig cadw cofnodion oherwydd cyflwynwyd cosbau ym mis Ebrill 2009 am beidio â chymryd gofal rhesymol gyda chofnodion a ffurflenni treth.

6. TG a busnesau a gaiff eu rhedeg yn y cartref

Mae'r rheini sy'n rhedeg busnes yn eu cartref yn dibynnu ar dechnoleg - a hynny er mwyn dod o hyd i gwsmeriaid a'u cadw a chadw mewn cysylltiad â chyflenwyr, partneriaid a chysylltiadau.

Mae cyfleusterau e-bost a'r rhyngrwyd yn cynnig ffyrdd syml ac effeithiol o ofalu am gwsmeriaid a'u rheoli, a gall TG eich helpu gyda bron pob agwedd ar eich busnes.

Manteision gwefan

Mae gwefannau wedi datblygu i fod yn adnodd marchnata hanfodol i'r rhan fwyaf o fusnesau. Mae gwefannau yn dda ar gyfer y canlynol:

  • denu gwerthiannau
  • brandio eich cynnyrch neu wasanaeth
  • cadw mewn cysylltiad â chwsmeriaid drwy anfon negeseuon e-bost atynt yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf

Efallai y byddwch am ddechrau arni drwy ddefnyddio templed parod ar gyfer gwefan. Gall y rhain gynnwys systemau talu integredig ar gyfer gwerthu ar-lein ac adnoddau i sicrhau bod eich gwefan yn cyrraedd safle uwch mewn rhestrau canlyniadau peiriannau chwilio ar-lein. Os ydych yn ystyried gwerthu cynhyrchion ar-lein, cofiwch y gallwch hefyd wneud hyn drwy ddefnyddio gwefannau arwerthu sy'n bodoli eisoes.

Rhwydweithio

Gallwch ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol fel Twitter a LinkedIn i gadw mewn cysylltiad â pherchenogion busnes eraill. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn ymwybodol o gyfleoedd i ddatblygu eich busnes ac yn helpu i oresgyn unrhyw deimladau o unigrwydd a brofwch fel perchennog sy'n rhedeg ei fusnes o gartref.

Gallwch hefyd ddefnyddio e-bost a'r rhyngrwyd i rwydweithio, postio sylwadau ac erthyglau mewn fforymau perthnasol ar wefannau fel horsesmouth ac Enterprise Nation. Gallwch hefyd flogio ar bynciau perthnasol ar eich gwefan eich hun neu ysgrifennu erthyglau a'u gwerthu i wefannau eraill y mae eich cwsmeriaid yn debygol o ymweld â hwy.

Gweithio oddi cartref

Mae TG yn gadael i chi wneud mwy na datblygu swyddfa broffesiynol yn eich cartref - mae'n eich galluogi i weithio wrth deithio hefyd. Mae technoleg ddiweddar fel WiFi, donglau USB, ffonau deallus a Skype yn golygu y gallwch weithio ble bynnag y mynnwch.

Mae cyfrifiadura cwmwl  yn rhoi ffordd i fusnesau reoli gofynion o ran data a meddalwedd ar y rhyngrwyd - 'mewn cwmwl'. Mae hyn yn golygu y gallwch weld gwybodaeth eich busnes ar unrhyw gyfrifiadur neu ddyfais symudol sydd â chysylltiad â'r rhyngrwyd a phorwr gwe. Gall cyfrifiadura cwmwl fod yn ateb cost effeithiol a hyblyg i'ch gofynion TG. 

7. Eich amgylchedd gwaith

Mae'n bwysig creu gofod gwaith penodedig - mae hyn yn caniatáu i chi weithio heb unrhyw ymyrraeth a chau'r drws ar y gwaith ar ddiwedd y dydd.

Blaenoriaethau ar gyfer y gofod gwaith

Yn ddelfrydol, dylid gallu gweld yn glir mai ardal waith yw'r ardal rydych yn ei defnyddio i weithio ynddi. Mae ystafell sbâr â drws y gellir ei gloi neu adeilad allanol yn ddewisiadau poblogaidd sy'n galluogi perchenogion sy'n rhedeg eu busnes o gartref i wneud y canlynol:

  • delio â chleientiaid mewn modd proffesiynol.
  • gwrthod unrhyw alwadau gan aelodau eraill o'r cartref
  • cadw offer gwaith ar wahân i offer y cartref a thrwy hynny, eu diogelu

Gall neilltuo rhan o'ch cartref i'w defnyddio fel man gwaith arwain at oblygiadau o ran treth ac yswiriant.

Gallwch greu man gwaith i chi eich hun drwy wneud y canlynol:

  • defnyddio offer swyddfa mewn rhan gyffredinol o'r cartref a'u cadw pan nad ydych yn eu defnyddio
  • cadw eich gweithfan mewn cwpwrdd, wardrob neu dwll dan staer sydd â chaeadau neu ddrysau y gellir eu cloi

Offer gwaith a pharatoi'r weithfan

Wrth baratoi eich gweithfan:

  • dylai fod modd addasu eich cadair a'ch desg yn llawn a dylent fod yn addas i ddefnyddio cyfrifiadur
  • dylai eich desg fod yn ddigon mawr i'ch cyfrifiadur, eich bysellfwrdd a'ch monitor
  • defnyddiwch gyfleusterau storio i gadw eich swyddfa yn daclus
  • wrth eistedd wrth eich desg, cadwch eich traed yn wastad ar y llawr a'ch cefn yn syth - dylai top eich monitor fod ar yr un lefel â'ch llygaid

Rhaid i chi gynnal asesiad risg iechyd a diogelwch mewn perthynas â'ch gofod gwaith.

Busnesau a gaiff eu rhedeg yn y cartref a chaniatâd cynllunio

Os ydych yn gwneud newidiadau sylweddol i'ch cartref er mwyn gwneud lle i'ch busnes, dylech gysylltu â'ch awdurdod lleol i drafod caniatâd cynllunio.

8. Rheoli eich busnes yn eich cartref

Bydd rheoli eich busnes yn briodol yn gwella eich siawns o lwyddo ac yn eich paratoi i dyfu eich busnes.

Datblygu cydberthnasau

Po fwyaf y byddwch yn cyfathrebu â chwsmeriaid, cyflenwyr ac entrepreneuriaid eraill, mwyaf yn y byd o gyfleoedd busnes y byddwch yn dod ar eu traws.

Er enghraifft, gallai datblygu cydberthnasau â chyflenwyr a busnesau eraill eich galluogi i wneud cynigion am gontractau caffael cyhoeddus - rhywbeth y byddai'n amhosibl i chi ei wneud ar eich pen eich hun.

TG yw'r allwedd i sawl agwedd ar ddatblygu busnes.

Cadwch mewn cysylltiad â chwsmeriaid ac entrepreneuriaid eraill drwy rwydweithio, siarad mewn digwyddiadau, cysylltu â newyddiadurwyr lleol a cheisio mewn cystadlaethau ac am wobrau eraill.

Ystyriwch ddefnyddio cyswllt â chwsmeriaid, adborth a chynlluniau teyrngarwch i gadw cwsmeriaid a chynyddu gwerthiant.

Llif arian

Llif arian yw craidd pob busnes. Rhaid i chi wneud popeth yn eich gallu i sicrhau bod arian sy'n ddyledus yn cael ei dalu i'r busnes. Gallwch sicrhau eich bod yn cael taliadau prydlon drwy anfon anfonebau ar amser a rhoi system ar waith sy'n tynnu eich sylw at unrhyw daliadau hwyr. Gweler ein canllaw rhagamcan llif arian.

 

9. Eich opsiynau o ran tyfu

Pan y daw hi'n fater o dyfu eich busnes, un dewis poblogaidd yw canolbwyntio ar yr hyn a wnewch orau a rhoi'r gweddill ar gontract allanol.

Os ydych yn ystyried cyflogi pobl, bydd angen i chi benderfynu ar eu statws cyflogaeth, er enghraifft, p'un a fyddwch yn eu trin fel cyflogeion, contractwyr neu isgontractwyr, neu'n syml fel perthnasau a ffrindiau sy'n 'gwirfoddoli'.

Pan fyddwch yn cyflogi rhywun, bydd gennych gyfrifoldebau ychwanegol o ran iechyd a diogelwch.

Rhoi gwaith ar gontract allanol

Gallwch dyfu eich busnes heb gynyddu nifer y staff nac ymestyn eich safle drwy roi gwaith ar gontract allanol, er enghraifft:

  • cyfrifon
  • gwaith gweinyddol
  • gwaith telefarchnata - er mwyn dod o hyd i ddarpar gwsmeriaid newydd
  • cysylltiadau cyhoeddus
  • dylunio ac ysgrifennu copi

Mannau cyfarfod

Wrth i'ch busnes dyfu, efallai na fydd eich cartref yn addas mwyach i ddiwallu holl anghenion eich busnes. Cofiwch y gallwch rentu gofod gwaith a chyfleusterau cyfarfod a reolir i'w defnyddio yn achlysurol drwy ganolfannau busnes. Mae'r rhain mewn lleoliadau canolog mewn llawer o drefi ledled y DU.