Ydych chi’n fusnes bach sydd eisiau gwella ac ehangu? Os felly, gall Rhaglen Fentora Busnes Cymru eich helpu chi i gymryd y cam nesaf. Cofrestrwch gyda ni i gael eich cyfateb i fentor sydd â’r sgiliau i’ch helpu i ddatblygu eich busnes i’r lefel nesaf.

Os ydych chi’n berson busnes profiadol sy’n deall anghenion busnesau bach a chanolig yng Nghymru, ac os hoffech roi rhywbeth yn ôl drwy rannu eich gwybodaeth a’ch profiad busnes, hoffem eich gwahodd i ystyried mentora gwirfoddol drwy gyfrwng rhaglen.

Mae Mentora Busnes Cymru'n cynnig gwasanaeth mentora busnesau gwirfoddol.

Croeso i Fentora Busnes Cymru

Mae Rhaglen Fentora Busnes Cymru ar gyfer perchnogion busnesau sydd eisiau help i farchnata neu ehangu eu busnes, gweithredu newid yn eu busnes, neu angen ysbrydoliaeth i helpu i ddelio â her benodol.

Rydym yn darparu gwasanaeth cyfateb i Fusnesau Cymru sydd eisiau cyfle i gysylltu â mentoriaid busnes profiadol a fydd yn rhannu eu gwybodaeth, rhoi arweiniad, cynnig persbectif newydd a bod yn glust i wrando ar gyfer eich busnes.


Beth yw manteision Mentora Busnes?

Mae ein Mentoriaid Busnes yn bobl fusnes brofiadol a llwyddiannus sy’n deall sut beth yw bod mewn busnes.

 

Bydd mentor Busnes Cymru’n gallu cynnig y canlynol i chi:

  • Profiad
    Mae ein mentoriaid yn bobl fusnes lwyddiannus o amrywiaeth eang o ddiwydiannau.

  • Brwdfrydedd
    Mae ein mentoriaid yn angerddol am helpu perchnogion busnes Cymru.

  • Sgiliau
    Mae gan ein mentoriaid wybodaeth a dealltwriaeth o arferion busnes sy’n berthnasol i’ch anghenion.


Mentor gyda Busnes Cymru

Os oes gennych chi ddigon o brofiad busnes eisoes, gallech ystyried cynnig eich gwasanaethau fel mentor i fusnesau eraill. Mae mentora’n gallu rhoi llawer o foddhad wrth i chi rannu budd eich profiad.

Fel mentor, eich rôl chi yw cefnogi, datblygu, ysgogi a herio’r sawl rydych yn ei fentora, os yw’n sefydlu busnes newydd neu wedi sefydlu eisoes ac yn gofyn am arweiniad.

 

Rhagor o wybodaeth am fod yn fentor

Digwyddiadau

19 Ebr 2024
Cyflwyniad i Arweinyddiaeth a Rheolaeth
Swansea
Sesiwn hanner diwrnod yn rhoi cyflwyniad i Arweinyddiaeth,...
19 Ebr 2024
Social Media Marketing
75% of UK SME’s use Social Media...
19 Ebr 2024
Facebook Ads 101
This course will teach you everything you...
Fwy o Ddigwyddiadau
Skip to content