Cwestiynau Cyffredin

Sut mae penderfynu a yw mentora’n addas i mi ac i’m busnes?    

Gall mentor fod yn ffynhonnell o gefnogaeth ac arweiniad ar unrhyw gam yn natblygiad eich busnes. Fodd bynnag, dim ond chi all benderfynu a yw’n opsiwn priodol i chi. Gallai cael mentor busnes eich helpu yn ystod cyfnod o dwf pan mae gennych gwestiynau am brofiadau newydd neu os ydych eisiau cryfhau eich busnes.

Beth fydd mentor busnes yn ei gynnig?

Dyma bwrpas eich mentor:

  • Eich arwain i edrych ar amrywiaeth eang o opsiynau ac ystyried dulliau gweithredu eraill er mwyn i chi allu datrys eich problemau, yn hytrach na rhoi atebion neu ddatrysiadau.
  • Eich helpu i ddysgu sgiliau, profiadau a gwybodaeth bersonol newydd.
  • Eich helpu i ddatblygu agwedd ac ymddygiad newydd, ac felly gwella eich perfformiad personol a busnes.
  • Rhyddhau a datblygu eich dyfeisgarwch: nid rhoi cyngor mae mentora – chi sydd i benderfynu a ydych am ddefnyddio’r wybodaeth rydych yn ei chael gan eich mentor ai peidio.

Pwy fydd fy mentor?

Bydd eich mentor yn berson busnes profiadol. Cewch eich cyfateb i’ch mentor busnes unigol gan asiant mentora yn eich ardal, yn seiliedig ar sgiliau a gofynion.

Pryd byddaf yn cyfarfod fy mentor?

Ar ôl i’r asiant mentora eich cyfateb â’r mentor, bydd yr asiant yn rhoi gwybod i chi ac yn trefnu i chi gyfarfod. Trefnir amseroedd a lleoliadau sy’n addas i chi ac i’ch mentor.

Pa mor aml fyddaf yn cael cyswllt â’m mentor?

Chi a’ch mentor unigol sydd i benderfynu ar hynny. Byddwch yn cytuno ar amledd a fformat er mwyn cael gweld eich mentor pan fo hynny’n addas.

Am faint fydd y berthynas fentora’n para?

Fel rheol bydd eich perthynas fentora’n para am ryw 12 mis - dyma’r amser sydd ei angen i chi weithio gyda’ch mentor a chyflawni eich amcanion yn ein barn ni. Gall fod yn fyrrach neu’n hirach. Mae hyd eich perthynas â mentor yn dibynnu ar yr amcanion a’r nodau rydych yn cytuno arnynt.

Oes raid talu am fentor?  

Na, mae holl Fentoriaid Busnes Cymru’n gwirfoddoli eu hamser i gefnogi Busnesau Cymru.
     

 

Cysylltwch â ni

Am fwy o wybodaeth am mentora busnes cysyllwch

03000 6 030000

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cysylltwch â ni
Tystebau Mentoriaid

Darllenwch tystebau gan ein mentorion

Tystebau