Dod yn Fentor

"I have been mentoring young businesses for many years now. I still get the same buzz out of seeing people turn great ideas into thriving enterprises. Spending time regularly looking at the issues facing other small businesses undoubtedly has a direct benefit to me and my own practice"

Kempton Rees - Darwin Gray LLP

Os ydych chi’n berson busnes profiadol sy’n deall anghenion busnesau bach a chanolig yng Nghymru, ac os hoffech roi rhywbeth yn ôl drwy rannu eich gwybodaeth a’ch profiad busnes, hoffem eich gwahodd i ystyried mentora gwirfoddol drwy gyfrwng rhaglen fentora Busnes Cymru.

Mae’n rhaid i’n mentoriaid gael y canlynol:

  • Profiad o amgylchedd busnes bach neu fawr. Gall hyn gynnwys profiad uwch reoli mewn amgylchedd corfforaethol neu weithredu eich busnes eich hun yn llwyddiannus.
  • Empathi tuag at weithredwyr busnesau bach ac entrepreneuriaid, gyda gwir ddyhead i helpu.
  • Profiad o’r problemau mae busnesau Cymru’n eu hwynebu.
  • Gallu cyfathrebu ag eraill ac ennyn ymddiriedaeth a hyder eraill.
  • Parod i ymgymryd â hyfforddiant cychwynnol a pharhaus.

Bydd arnoch angen dealltwriaeth dda ac eang o fusnes. Mae llawer o fusnesau’n chwilio am fentoriaid sydd ag arbenigedd mewn meysydd neu swyddogaethau penodol, fel y canlynol:

  • cyllid a chyfrifeg
  • gwerthiant a marchnata
  • strategaeth a chynllunio busnes
  • TG a chyfathrebu
  • allforio/mewnforio
  • cyflogaeth
  • problemau cyfreithiol/cydymffurfio