Manteision mentora busnes

Gall mentor busnes eich helpu chi i ddatblygu busnes cryfach a mwy cynaliadwy. Mae busnesau a sefydliadau sy’n cael eu mentora’n adrodd yn ôl am fanteision niferus, gan gynnwys cynnydd mewn trosiant, cynhyrchiant a nifer y cyflogeion o ganlyniad i weithio gyda mentor.

Mae Mentoriaid Busnes Cymru yn wirfoddolwyr sy’n rhoi eu hamser am ddim. Mae ganddynt gyfoeth o wybodaeth, sgiliau, profiad a chysylltiadau maent yn fodlon eu rhannu. Fel pobl fusnes lwyddiannus, maent yn deall yr heriau rydych chi fel perchennog busnes neu arweinydd sefydliad yn eu hwynebu. Drwy ddarparu safbwynt diduedd, mae mentoriaid yn eich annog chi i edrych ar eich busnes neu eich sefydliad o’r newydd, fel clust gyfrinachol i wrando. Weithiau, y cyfan sydd ei angen yw tynnu sylw at gyfleoedd am dwf.

Rôl y mentor yw cefnogi, datblygu, ysgogi a herio. Gall mentor profiadol eich helpu gyda’r canlynol:

  • ehangu eich gwybodaeth a’ch profiad busnes  
  • sicrhau’r perfformiad gorau i’ch busnes
  • gwella eich gallu i ddatrys problemau 
  • magu eich hyder
  • datblygu eich sgiliau arwain
  • ehangu eich rhwydwaith o gysylltiadau busnes

Os ydych chi’n bwriadu datblygu ac ehangu eich busnes, gallai hwn fod yn adnodd effeithiol iawn i’ch cefnogi i gyflawni eich amcanion.

Contact Us

For further information on business mentoring call

03000 6 03000

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg / We welcome calls in Welsh.

Contact Us
Mentee Testimonials

Read testimonials from our mentees

View Testimonials