Amdanom ni

Beth ydy Mentora Busnesau?

Perthynas gyfrinachol rhwng dau berson ydy Mentora Busnesau, lle mae’r unigolyn yn defnyddio person mwy profiadol i bwrpas trafodaeth ac i gael arweiniad.  Mae hon yn berthynas warchodol ac anfeirniadol, sy’n hybu dysgu, arbrofi a datblygu ar raddfa eang.  Mae’n berthynas wedi’i sefydlu ar barch un person at y llall, ac ar ymddiriedaeth.Beth i’w ddisgwyl gan y gwasanaeth

Fel mentorai, gallwch ddisgwyl:

  • Clywed oddi wrthym o fewn 7 diwrnod wedi ichi fynegi diddordeb yn Mentora Busnesau yng Nghymru
  • Derbyn arolwg llawn o’ch busnes a’i anghenion
  • Cael eich cyplysu gyda mentor profiadol addas neu gael eich cyfeirio at ffynhonnell cyngor a chymorth arall.

Fel mentor, gallwch ddisgwyl:

  • Clywed oddi wrthym o fewn 7 diwrnod wedi ichi fynegi diddordeb yn Mentora Busnesau yng Nghymru
  • Cael cyfarfod cychwynnol gyda Swyddog Mentora arbenigol
  • Mynychu gweithdy cychwynnol fydd yn egluro sut mae Mentora Busnesau yng Nghymru’n gweithio
  • Derbyn cymorth a chefnogaeth drwy gydol eich perthynas gyda ni