Adnoddau

Cyllid Busnes

Mae pob busnes angen arian, ac nid yw’n hawdd penderfynu lle i fynd i gael gafael ar gyllid heb sôn am ddewis y math cywir. Dyna pam rydym wedi creu Cyllid Busnes – canolfan gynghori a luniwyd yn benodol ar gyfer busnesau Cymru – busnesau fel eich un chi.

Ewch i Cyllid Busnes


Fy Musnes Cymru

Addaswch eich profiad ar wefan Busnes Cymru a chofrestrwch ar gyfer cael proffeil yn 'Fy Musnes Cymru'. Creu rhybuddion a chadw eich chwiliadau cyllid gan ddefnyddio ein Canfyddwr Cyllid, derbyniwch newyddion lleol a dewch o hyd i fanylion am ddigwyddiadau cymorth busnes yn eich ardal.

Cofrestrwch ar gyfer ein hardal aelodau Busnes Cymru


Busnes Cyfrifol

Mae bod yn fusnes cyfrifol yn golygu bod o fudd i’r bobl a’r lleoedd o’ch cwmpas yn ogystal â chael effaith gadarnhaol ar eich busnes. Mae’n ymwneud â’r ffordd yr ydych yn edrych ar ôl eich staff yn eich gweithle, eich perthynas gyda’ch cyflenwyr yn y farchnad, eich rhan ym mywyd y gymuned a’ch effaith ar yr amgylchedd. Yma fe gewch wybodaeth ar sut i ychwanegu gwerth ym mhob un o’r meysydd allweddol hyn.

Ewch i Busnes Cyfrifol


Allforio

Beth bynnag rydych yn ei gynnig – gwasanaethau, trwyddedau neu gynnyrch – fe allai allforio weddnewid bron pob elfen o’ch busnes. Heblaw am y manteision amlwg fel mwy o werthiant a gwneud mwy o elw, mae allforwyr llwyddiannus yn darganfod bod masnachu’n rhyngwladol yn rhoi manteision eraill iddynt dros eu cystadleuwyr:

  • mae busnesau yn tueddu i ddod yn fwy hyblyg wrth ymateb i farchnadoedd heriol
  • mae addasu gwasanaethau neu gynnyrch er mwyn cyflenwi marchnadoedd newydd yn annog creadigrwydd ac arloesedd
  • gallwch wneud arbedion drwy gyfeintiau mwy a chostau is

Ewch i Allforio


Arloesi

Gall arloesi helpu’ch busnes i fod yn fwy cystadleuol, i gynyddu’i werthiant ac i gipio marchnadoedd newydd. Mae Arloesi yn rhoi gwybod ichi am y cymorth a’r arian sydd ar gael i’ch helpu i arloesi.

Ewch i Arloesi


Marchnata

Mae Marchnata Busnes Cymru (Saesneg yn unig) yn llawn gwybodaeth, cyngor a chynghorion ar dynnu sylw at eich busnes – a chynyddu eich elw – trwy farchnata effeithiol, cyffrous.

Ewch i Marchnata


Porth Sgiliau

Mae ymchwil wedi profi dro ar ôl tro mai safon eich cyflogeion yw'r gwahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant. Drwy wella eu sgiliau rydych yn buddsoddi yn nyfodol eich busnes. Gall  Porth Sgiliau wireddu hyn. Mae'n dangos i chi ble rydych nawr a sut mae angen i chi wella eich sgiliau er mwyn llwyddo. Mae'r cyfan yma mewn un lle. Y cyfan sydd ei angen arnoch er mwyn sicrhau bod eich gweithle yn fwy effeithiol, cynhyrchiol a phroffidiol.

Ewch i Porth Sgiliau


BOSS

Beth ydi BOSS?

Ystyr BOSS ydi Business Online Support Service (Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein) Busnes Cymru sy'n darparu'r gwasanaeth.

Mae'r gwasanaeth yn darparu cyrsiau dysgu ar-lein i helpu pobl sydd:

  • yn ystyried dechrau busnes, neu wedi dechrau busnes
  • eisoes yn rhedeg busnes
  • am dyfu eu busnes

I ymuno â BOSS, yr unig beth sydd ei angen arnoch yw mynediad at gyfrifiadur sydd â phorwr cyfredol a chysylltiad rhyngrwyd. Mae deunyddiau'r cwrs yn cynnwys canllawiau rhyngweithiol, fideos, deunyddiau i'w llwytho i lawr a chwisiau.

Ewch i BOSS


Adnoddau mentora Eraill

 

 

Cysylltwch â ni

Am fwy o wybodaeth am mentora busnes cysyllwch

03000 6 030000

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cysylltwch â ni
Tystebau Mentoriaid

Darllenwch tystebau gan ein mentorion

Tystebau