Sut mae'n gweithio
Ar ôl i chi gofrestru gyda ni, bydd eich asiant mentora lleol yn cysylltu â chi ac yn trafod eich anghenion cefnogi.
Mae’r asiant mentora’n cael gweld bas data o’r holl fentoriaid cofrestredig. Byddwn yn edrych ar eich anghenion a’ch gofynion cefnogi ac yn cymharu’r rhain â mentoriaid addas, i wneud yn siŵr ein bod yn cael y gyfatebiaeth orau posib i chi’ch dau.
Pan rydym yn fodlon ein bod wedi cyfateb yn dda, byddwn yn cysylltu â chi a’ch mentor arfaethedig i roi gwybod i chi am y person arall. Byddwn yn gwneud yn siŵr bod pawb yn hapus ac yn eich helpu i drefnu cyswllt.
Rydym yn gofyn i chi gysylltu â ni ar ôl eich cyfarfod cyntaf, i wneud yn siŵr eich bod yn hapus gyda’ch mentor ac i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.
Drwy gydol y broses, bydd eich Asiant Mentora wrth law i gefnogi pan fo hynny’n bosib.