Tystebau Mentorion

Darllenwch tystebau gan ein mentorion -

“Rhoddodd y cynllun mentora  gymorth gwerthfawr i mi ar adeg tyngedfennol, pan roeddwn angen trafod fy syniadau ar gyfer tyfu fy musnes – rhywyn gyda  profiad eang mewn busnes a oedd yn gallu fy helpu i ofyn cwestiynau perthnasol i’n hun a chynnig syniadau newydd nad oeddwn wedi meddwl amdanynt yn flaenorol.”

Rosie Cribb 

Funding Assist

"Mae Gwasanaeth Mentora Busnes Cymru wedi bod yn werthfawr dros ben i mi. Rwyf eisiau’r gorau i fy nghwsmeriaid yn ogystal a fy ngweithwyr. Mae cael mentor i droi at sy'n gyfarwydd efo’r elfennau mwy cymhleth ac anghyfarwydd o redeg busnes yn sicrhau nad wyf yn gwneud camgymeriadau costus a allai effeithio fy musnes ".

Layla Bennett

Hawksdrift Falconry

“Rydym bob amser yn gwneud ein gwaith catref ond mae rhau syniadau, yn enwedig y rhai sydd gennym ni ar y gweill, yn mynd a ni I feysydd newydd ac nid oes gennym ni lawer o brofiad ynddynt. Dyna le y mae ein mentor busnes wir yn ein helpu ni gan weithredu fel seinfwrdd a herio’r llif o syniadau newydd sydd gennym ni.”

Liam and Barrie Ellis

The Marram Grass

“Roedd angen imi droi’r cwmni yn unmwy proffidiol on heb ladd fy hun trwy weithio bob awr o’r dydd. Fel unig fasnachwr mae angen I chi fod yn ddisgybledig ond weithiau mae pethau’n cael eu symud I’r cyrion. Rhoddodd Busnes Cymru yr eglurder I mi ar sut I wneud hyn. Rhoddodd Busnes Cymru y feiriadaeth adeiladol a’r cymorth gwerthfawr I’m helpu I flaenoriaethu yr hyn sy’n bwysig ar gyfer tyfu’r busnes.”

Nicky Nelson

Blue Leaf Event Hire

"Cafwyd Focus Health and Fitness ei eni yn 2004. Mae'r busnes yn cynnig hyfforddiant personol, gwersylloedd llesewch a nifer o sesiynau yn y gampfa dan arweiniad hyfforddwr. Ddechreuais gyda Mentora Busnes Cymru yn gynharach eleni gan fy mod yn teimlo fy mod angen arweiniad i helpu symud fy musnes. Pan cefais fy mharu gyda fy mentor mi roedd o yn hawdd iawn siarad â nhw a rhoddodd lawer o syniadau gwych i mi. Roedd yn angerddol iawn am ddatblygiad busnes ac rwy'n awyddus iawn i barhau â'r mentora. Mae Mentora Busnes Cymru yn darparu gwasanaeth gwych ac byddwn yn argymell y cefnogaeth sydd ar gael."

Gareth Tattum

Focus Health and Fitness