Manteision dod yn Fentor Busnes
Os oes gennych chi ddigon o brofiad busnes eisoes, gallech ystyried cynnig eich gwasanaeth fel mentor i fusnesau eraill. Gall hyn roi llawer o foddhad wrth rannu budd eich profiad.
Fel mentor, eich rôl chi yw cefnogi, datblygu, ysgogi a herio’r sawl rydych yn ei fentora, os yw’n gymharol newydd ym myd busnes neu wedi sefydlu eisoes ac yn chwilio am arweiniad o’r newydd.
Mae posib mentora mewn sawl ffordd - gan gynnwys ar-lein, wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu fel rhan o grŵp trafod.
Manteision Rhaglen Fentora Busnes Cymru:
- cyfle i ddod yn rhan o sefydliad mentora credadwy a chydnabyddedig
- mentora strwythuredig gyda chefnogaeth
- hyblygrwydd i benderfynu pryd rydych ar gael i fentora, pwy rydych yn ei fentora a pha mor aml
- gallu penderfynu sut rydych yn rheoli eich perthnasoedd mentora i fod yn addas i’ch steil unigol chi ac i ddiwallu anghenion eich cleientiaid
- ymdeimlad o foddhad o allu helpu rhywun a rhoi rhywbeth yn ôl i’ch cymuned
I gefnogi ein Mentoriaid, mae Busnes Cymru yn cynnig y canlynol:
- cefnogaeth leol drwy asiant mentora penodol yn eich rhanbarth
- cyfleoedd dysgu drwy hyfforddi a datblygu
- cyfleoedd rhwydweithio gan gynnwys grŵp LinkedIn caeedig ar-lein
- llyfrgell o adnoddau ar-lein
- tâl am gostau teithio wrth fentora (dewisol)