Beth yw Mentora Busnes?
Mae mentora busnes yn berthynas rhyngoch chi ac entrepreneur a rhywun sydd â phrofiad busnes sy’n fodlon gweithredu fel arweinydd. Mae’r mentor busnes yn cynnig arweiniad a chefnogaeth i’ch helpu chi i redeg, gwella ac ehangu eich busnes.
Mae’n debygol y bydd eich mentor yn cysylltu â chi’n rheolaidd drwy gyfrwng cyfarfodydd, galwadau ffôn a negeseuon e-bost. Gall natur y berthynas amrywio o fod yn eithaf achlysurol - er enghraifft, galwad ffôn neu ymweliad anffurfiol bob mis - i fod yn fwy ffurfiol a strwythuredig - fel pennu agenda ar gyfer cyfarfodydd ac amcanion busnes.
Pam mae mentora busnes yn bwysig
Os oes gennych chi fwlch yn eich gwybodaeth neu eich profiad, gallai mentora weithio’n dda iawn i chi. Er enghraifft, efallai bod gennych chi syniad gwych ar gyfer busnes ond bod arnoch angen arweiniad i’w droi’n fenter lwyddiannus.
Mae mentor yn gallu cynnig nifer o fanteision, fel y canlynol:
- arweiniad ar ddatblygu a gwella eich busnes
- help gyda phenderfyniadau anodd
- syniadau ar gyfer cynhyrchion neu wasanaethau newydd, neu ffyrdd newydd o weithio
- awgrymiadau ar gyfer eich busnes yn seiliedig ar brofiad ymarferol
- mynediad i rwydwaith o gysylltiadau â phobl eraill
Hefyd gall mentor busnes eich helpu gyda’r canlynol:
- datblygu sgiliau busnes allweddol
- gwella eich gallu i ddatrys problemau
- magu hyder
- gweithio ar eich datblygiad personol
Fodd bynnag, ni fydd mentor busnes yn datrys eich problemau i gyd i chi, nac yn dweud wrthych chi beth i’w wneud na chynnig cyngor busnes. Nid ydynt yn gweithredu fel ymgynghorwyr nac yn cymryd lle unrhyw gynghorwyr proffesiynol sydd gennych chi eisoes.