Cymorth digidol i fusnesau yng Nghymru
Os ydych chi’n bwriadu targedu cwsmeriaid newydd ar-lein a chael arian yn y banc, neu arbed amser a lleihau’r pwysau, gallwn ni helpu.
Mae ein cymorth digidol am ddim yn cynnwys gweminarau a chyngor busnes un-i-un wedi’i deilwra i ddangos i chi sut mae manteisio i’r eithaf ar dechnoleg ddigidol i redeg a thyfu eich busnes.
Gallwn roi cyngor am ddim i chi ar amrywiaeth eang o offer a phynciau digidol, gan gynnwys:
- Marchnata digidol a chyfryngau cymdeithasol
- Gweithio gartref a gweithio hyblyg / hybrid
- Defnyddio Microsoft 365, Google Workspace, a meddalwedd swyddfa arall
- Apiau ac offer cynhyrchiant fel Trello, Slack, ac eraill
- System gyfrifyddu, anfonebu, talu ac archebu ar-lein
- SEO i gynyddu eich presenoldeb ar-lein
- Gwefannau, Google Analytics, a hysbysebion talu fesul clic
- E-fasnach
- Systemau Rheoli Cysylltiadau Cwsmeriaid
- Seiberddiogelwch
- A llawer iawn mwy!
Dechreuwch arni nawr. Siaradwch â’n tîm cyfeillgar heddiw a chofrestrwch i gael cymorth busnes am ddim.
Cael y wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau.
Clywch gan y busnesau sy’n elwa’n barod o gefnogaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau.
Canllawiau ymarferol a chyngor arbenigol i’ch helpu i hyrwyddo eich busnes, i gystadlu ar-lein, ac i weithio’n ddoethach.