Cymunedau am Waith+

Beth yw e?

Mae Cymunedau am Waith+ yn helpu pobl sydd wedi'u tangynrychioli yn y farchnad lafur, gan gynnwys pobl ifanc, pobl hŷn, a phobl anabl; pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol; a phobl sydd â chyfrifoldebau gofal.

Gall cyflogwyr gael cymorth i gyflenwi eu gweithlu drwy dimau cyflenwi lleol sy'n gweithredu ar draws Cymru.

Mae cymorth arbenigol ar gael i'r cyflogwr a’r unigolyn gan dimau lleol sy’n gweithio’n ddiwyd gyda’u cyfranogwyr i’w helpu i oresgyn eu rhwystrau, boed hynny’n hyfforddiant, gofal plant, teithio neu unrhyw beth arall sy’n eu rhwystro rhag cael swydd.

Byddwch yn gweithio gyda swyddogion a fydd yn cefnogi eich anghenion recriwtio ac yn canfod cyfranogwyr sydd â’r sgiliau sy’n addas i anghenion eich busnes.

Os oes gennych nifer o swyddi gwag, gallent ddatblygu rhaglen bwrpasol i gyflenwi nifer o ymgeiswyr sydd wedi’u hyfforddi’n briodol i chi.

Mae Cymunedau am Waith+ yn rhan o’r Warant i Bobl Ifanc ar gyfer pobl ifanc 16-24 oed.

Pwy sy’n gymwys?

  • Busnesau o unrhyw faint mewn unrhyw sector yng Nghymru.

Beth yw’r manteision?

Mae busnesau sy’n recriwtio pobl drwy raglen Cymunedau am Waith+ yn helpu’r bobl hynny sydd bellaf i ffwrdd o’r farchnad lafur i gael gwaith. Byddwch yn cael unigolion llawn cymhelliant sy’n benderfynol o wneud y mwyaf o’r cyfle i ymuno â’r farchnad lafur, gyda chymorth gan Swyddog Cyswllt Cyflogwyr a mentoriaid a fydd yn dod o hyd i gyfranogwyr. Os byddwch yn recriwtio person ifanc 16-24 oed, byddwch hefyd yn cymryd rhan yn y Warant i Bobl Ifanc.