Cyflogi prentis

Mae Prentisiaethau’n darparu’r gweithwyr crefftus sydd eu hangen ar gyflogwyr ar gyfer y dyfodol. Mae prentisiaid yn gweithio wrth ochr gweithwyr profiadol i feithrin sgiliau, ond yn cael manteisio hefyd ar hyfforddiant allanol gan goleg cymeradwy neu ddarparwr hyfforddiant. Chi fydd yn talu’u cyflogau ond bydd Llywodraeth Cymru’n gallu helpu gyda rhai o’r costau hyfforddi.

Os byddwch chi’n penderfynu gwneud y dewis doeth o recriwtio prentis, gallwch hysbysebu’r cyfle, gyda chymorth darparwr hyfforddiant, ar y Gwasanaeth Prentisiaethau Gwag. I gael rhagor o wybodaeth ewch i  https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy/form/business-profile-apprenticeships.

Bydd prentisiaid yn ennill wrth ddysgu ac yn gweithio at ennill cymwysterau cenedlaethol ar 1 o 4 lefel: Prentisiaeth Sylfaen (Lefel 2), Prentisiaeth (Lefel 3), Prentisiaeth Uwch (Lefel 4/5) a Phrentisiaeth Gradd ar Lefel 6.

Mae prentisiaethau ar Lefel 4 ac uwch yn golygu datblygu sgiliau cryfach a dynfach i'n gweithlu a rhoi'r staff crefftus sydd eu hangen ar gyflogwyr i gynyddu cynhyrchiant ac arloesedd a gwella perfformiad y busnes.

Cyflogadwyedd a Sgiliau: Cymorth recriwtio

Mae Llywodraeth Cymru wedi addo cefnogi pawb i ddod o hyd i waith, addysg neu hyfforddiant, gan lansio cronfa sgiliau a swyddi £40m. Bydd y £40m hwn yn hollbwysig hefyd o ran lleihau effaith pandemig Covid-19, a bydd yn allweddol o ran llywio adferiad economaidd Cymru i ailgodi’n gryfach.

Bydd Cymorth Cyflogadwyedd a Sgiliau yn galluogi cyflogwyr i recriwtio prentisiaid newydd yn ogystal â datblygu sgiliau eu gweithlu cyfredol er mwyn diwallu eu hanghenion busnes.

Bydd cymorth a chymhellion recriwtio yn ysgogiad i gyflogi prentisiaid ifanc, 16-24 oed, ac i ailgyflogi prentisiaid a ddiswyddwyd, gan roi hwb i’r diwydiant recriwtio.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

“Bydd y pecyn £40m hwn yn gymhelliad i gyflogwyr gymryd gweithwyr newydd a’u hyfforddi, gan gynnwys prentisiaid a phobl ifanc. Bydd hefyd yn helpu cyflogwyr i gadw ac ailhyfforddi’r gweithlu sydd ganddynt eisoes a chefnogi unigolion sy’n chwilio am waith drwy roi swydd sefydlog iddynt.”

Mynd ati i gyflogi prentis

Ai peth newydd i chi yw prentisiaeth? A ydych chi’n ansicr ynghylch sut i gefnogi prentisiaid ifanc? Dyma rai pwyntiau allweddol i’w hystyried cyn gwneud y dewis doeth i hurio prentis 16-19 oed.

  • Rhaid i brentisiaid fod yn hŷn nag 16 oed i ddechrau prentisiaeth, ac yn 18 oed i ddechrau Gradd-brentisiaeth. 
  • Rhaid i gyflogwyr ddarparu contract cyflogaeth sy’n 16+ awr yr wythnos. 
  • Rhaid talu isafswm cyflog i bob prentis, sy’n £4.15 yr awr ar hyn o bryd. Ond mae nifer o gyflogwyr yn dewis talu mwy na hynny. Rhaid talu prentisiaid am eu hamser yn y gweithle a’u hamser i astudio. I gael rhagor o wybodaeth am gyflog ac amodau, ewch i: https://www.gov.uk/apprenticeships-guide/pay-and-conditions (Saesneg).
  • Mae gan brentisiaid yr hawl i gael 20 diwrnod o wyliau am dâl y flwyddyn, a gwyliau banc. 
  • Rhaid i gyflogwyr wneud addasiadau rhesymol i sicrhau bod prentisiaid anabl yn cael eu cefnogi mewn modd sy’n bodloni eu hanghenion. Gall Mynediad i Waith  gynnig cymorth a chyngor, gan gynnwys helpu i dalu rhai costau. I gael gwybod sut gallwch fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd, ewch i: https://www.gov.uk/guidance/disability-confident-how-to-sign-up-to-the-employer-scheme (Saesneg).
  • Fel cyflogwr, rydych yn gyfrifol am iechyd a diogelwch yn eich busnes. Mae sicrhau eich bod yn gwneud y pethau iawn i leihau peryglon a gofalu rhagddynt yn y gweithle yn berthnasol i bob busnes, ni waeth pa mor fach yw’r busnes. Bydd pobl ifanc, yn enwedig y rheini sy’n newydd i’r gweithle, yn dod ar draws problemau anghyfarwydd, oherwydd diffyg profiad neu aeddfedrwydd, ac ni fydd yr hyder ganddynt i ofyn am help, neu i wybod sut y gallant gael help. Ewch i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i wneud yn siŵr fod eich gweithwyr yn ddiogel yn y gwaith. 

Cymorth ychwanegol