Cyllid ar gael

Cymorth Recriwtio Prentisiaid ar gyfer person anabl

Bydd y cymelliadau prentisiaethau ar gyfer cyflogi person anabl yn para hyd at 31 Mawrth 2025 (yn amodol ar argaeledd cyllideb).  Bydd y cymhelliant yn helpu busnesau i recriwtio person anabl a chefnogi'r datblygiad o weithlu amrywiol.

Canllawiau ar Gymhwystra ar gyfer Cyflogi Prentis Anabl

  • Bydd cyflogwyr sy'n recriwtio prentis anabl yn gymwys i gael cymhelliad i gyflogwyr gwerth £2,000 y dysgwr.
  • Mae'n dderbyniol i ddysgwyr ddatgan eu hunain fod ganddynt anabledd (er enghraifft, gallai prentis ddatgan bod ganddo anabledd ar ffurflen gais), ond mae'n rhaid i’r anabledd gael ei gadarnhau pan gaiff y prentis ei recriwtio i'w gyflogi. Felly mae'n rhaid i'r cyflogwr fod yn ymwybodol o anabledd yr unigolyn dan sylw cyn penderfynu ei recriwtio.
  • Gellid hefyd ddefnyddio unrhyw ohebiaeth sy'n ymwneud ag addasiadau rhesymol ar gyfer cyfweliad, neu unrhyw ohebiaeth neu ddogfennaeth arall sy'n dangos bod y cyflogwr yn ymwybodol o anabledd y prentis cyn ei recriwtio fel tystiolaeth.
  • Os nodir bod anabledd gan ddysgwr ar ôl iddo gael ei recriwtio, ni fydd y cyflogwr yn gymwys i gael y cymelldaliad ychwanegol.

Cyfyngir y taliadau i ddeg dysgwr fesul busnes.  Mae'r cymelliadau yn berthnasol i brentisiaethau a gyflwynir ar Lefelau 2-5 yn unig, ac nid ydynt yn berthnasol i radd-brentisiaethau.  Rhaid i gyflogwyr sy'n ceisio recriwtio prentis gysylltu â Darparwr Hyfforddiant neu lenwi ffurflen Mynegi Diddordeb cyn recriwtio.

Eithriadau

  • Nid yw cyflogwyr sy’n recriwtio ar gontractau dim oriau yn gymwys i gael cymelldaliadau recriwtio prentisiaid.
  • Nid yw modelau Rhannu Prentisiaethau yn gymwys i gael y cymelldaliadau recriwtio prentisiaid.

I gael rhagor o wybodaeth, neu os bydd gennych unrhyw gwestiynau, mae croeso ichi gysylltu â’ch darparwr hyfforddiant – gweler rhestr ohonynt yma