Recriwtio prentis

Beth yw’r broses?

Mae recriwtio prentis yn broses hawdd. Gan weithio gydag un o’n darparwyr hyfforddiant cymeradwy, byddwch yn gyfrifol am ddarparu a chynllunio amserlen hyfforddiant y prentis, yn Gymraeg neu Saesneg, a chaniatáu dull gweithredu wedi’i deilwra sy’n benodol i’r busnes.    

Eich darparwr hyfforddiant fydd yn rheoli prosesau’r cymhwyster, yr asesiad a’r rhaglen.

Ceir rhestr lawn o’r darparwyr hyfforddiant yma

Beth yw’r costau?

Mae dwy gost yn perthyn i brentisiaeth - cyflog y prentis a chost yr hyfforddiant. Bydd yn rhaid i chi dalu’r gost gyntaf. Does dim rhaid i chi dalu’r ail. Llywodraeth Cymru sy’n talu’r rhan fwyaf o’r costau hyfforddiant, ac mae’n gweithio gyda darparwyr hyfforddiant allanol i reoli, darparu ac asesu’r holl brentisiaethau. Mae cymorth ar gael i fusnesau yng Nghymru waeth beth yw eu maint neu sector.

Cliciwch yma i ddysgu mwy am y cymhellion ariannol sydd ar gael.

Llwybrau a lefelau prentisiaethau

Rydym yn darparu llwybrau prentisiaeth wedi’u hariannu’n llawn mewn 23 sector yng Nghymru ar bedair lefel: Prentisiaeth Sylfaen, Prentisiaeth, Prentisiaeth Uwch a Gradd-brentisiaeth.

Prentisiaeth Sylfaen – Lefel 2 NVQ Lefel 2 a chyfwerth â 5 TGAU da
Prentisiaeth – Lefel 3 NVQ Lefel 3, cyfwerth â phasio 2 Safon Uwch
Prentisiaeth Uwch – Lefel 4/5 Lefel HNC/ HND/ Gradd Sylfaen 
Gradd-brentisiaeth – Level 6

Gradd baglor lawn. Cynigir llwybrau ym meysydd TGCh/ Digidol a Pheirianneg / Gweithgynhyrchu Uwch ar hyn o bryd.

Mae’r Gradd-brentisiaethau sydd ar gael ar hyn o bryd wedi’u rhestru yma

Help  a chymorth

Os yw prentisiaethau’n beth newydd i chi, gallwch gael rhagor o help a chymorth gan Gynghorydd Ymgysylltu â Chyflogwyr drwy: