Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd

Am beth mae’r holl beth?

Crëwyd y Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd er mwyn helpu oedolion di-waith i wella eu sgiliau cyflogadwyedd a chael cyflogaeth gynaliadwy. Gallant fanteisio ar ystod o gymorth a hyfforddiant, gan gynnwys profiad gwaith o ansawdd, help a chyngor arbenigol ar baratoi ar gyfer cael gwaith, a hyfforddiant sy'n benodol i'r cyflogwr er mwyn datblygu eu sgiliau hanfodol.
I chi, gall fod yn ffordd effeithlon ac effeithiol o recriwtio, hyfforddi a chadw staff sydd â'r sgiliau cywir ar gyfer eich busnes. 

Sut mae'n gweithio?

Bydd eich Canolfan Waith leol yn eich rhoi mewn cysylltiad â darparwr hyfforddiant lleol a fydd yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i unigolyn addas. Byddwch yn gweithio gyda'ch gilydd i greu cynllun hyblyg wedi'i deilwra sy'n cynnig profiad gwaith ystyrlon neu hyfforddiant galwedigaethol i ddatblygu'r sgiliau cywir ar gyfer eich busnes. 
Ar ddiwedd y lleoliad, os yw'r unigolyn wedi creu argraff, gallech gynnig swydd iddo/i. Fel arall, byddai geirda'n ei helpu i gael gwaith gyda chyflogwr arall.

Pwy sy'n gymwys?

Busnesau o unrhyw faint, mewn unrhyw sector, cyhyd â'u bod wedi'u lleoli yng Nghymru. Bydd angen i chi hefyd allu darparu profiad gwaith sylweddol ac ystyrlon.


Sut mae hyn o fudd i chi?

  • Ennill gweithiwr posibl credadwy sydd wedi cael ei feithrin a'i hyfforddi i weddu i'ch sefydliad
  • Denu talent newydd ffres i'ch diwydiant
  • Cael eich gweld yn cyfrannu at yr economi leol trwy gefnogi datblygu sgiliau
  • Cael eich gweld yn weithgar o ran cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol
  • Cyn y gystadleuaeth, chwiliwch am dalent newydd
  • Llunio sgiliau a phrofiad eu darpar weithlu
  • Datblygu staff trwy hyfforddi a mentora pobl
  • Cynllunio hyfforddiant sy'n addas i'ch hanghenion busnes

Sut i gymryd rhan

Os ydych yn fusnes ac eisiau dysgu mwy am sut y gallwch gofrestru ar gyfer y Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd ffoniwch linell cymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Rhestr Wirio Rhaglen
Ardal Cyflenwi Cymru Gyfan
Statws  Yn fyw
A gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop? Nac Ydi
Arweinydd y Rhaglen

Llywodraeth Cymru