Twf Swyddi Cymru+
Gall Twf Swyddi Cymru+ ddaparu safbwyntiau newydd a ffynhonnell o dalent er mwyn helpu i ddiogelu eich busnes at y dyfodol.
Gall pobl ifanc fod yn ased gwych a thrwy gymryd rhan yn Twf Swyddi Cymru+ byddwch yn sicrhau bod gan eich busnes ei ddewis o'r doniau ifanc yn eich cymuned.
Mae'n rhaglen arloesol a hyblyg. Felly gallwch benderfynu ar y ffordd orau i’r rhaglen helpu eich busnes, ac ar yr un pryd creu cyfleoedd sy'n newid bywyd y person ifanc rydych yn ei gefnogi.
Beth mae'n ei olygu?
Mae gan bobl ifanc Cymru ddigon i'w gynnig i economi Cymru. Mae ganddynt y cymhelliant ac maent yn barod i ddysgu, ond maent yn aml yn cael eu hanwybyddu.
Mae Twf Swyddi Cymru+ yn rhan allweddol o Warant Pobl Ifanc Llywodraeth Cymru, gan ddarparu pecyn cymorth pwrpasol i helpu pobl ifanc 16-19 oed i ddatblygu eu sgiliau a chael profiad gwaith yn unol ag anghenion cyflogwyr fel y gallant gael eu swydd gyntaf.
I gyflogwyr, mae'r rhaglen yn cynnig cymorthdaliadau cyflog a chymorth wedi'i deilwra i helpu i ehangu eich gweithlu. Yn gyfnewid am hyn, rydym yn chwilio am eich help i greu cyfleoedd cyflogaeth, sesiynau blasu, neu leoliadau profiad gwaith i bobl ifanc.
Sut mae'n gweithio
Pan fyddwch yn cyflogi person ifanc drwy raglen Twf Swyddi Cymru+, byddwn yn talu hyd at 50% o gostau cyflogaeth pob person ifanc ar yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol am y chwe mis cyntaf
Byddwch hefyd yn cael cyngor recriwtio am ddim gan ein harbenigwyr, yn ogystal â chymorth hyfforddi parhaus gan gydgysylltydd dynodedig i sicrhau bod eich gweithiwr ifanc yn dysgu’n gyflym.
Ar gyfer cyfleoedd eraill, gallwch lunio lleoliad blasu neu brofiad gwaith sy'n iawn i chi a'r person ifanc. Bydd eich contractwr yn eich helpu bob cam o'r ffordd. Os bydd y person ifanc yn creu argraff arnoch erbyn y diwedd, gallech droi hyn yn gyfle am swydd drwy raglen Twf Swyddi Cymru+
Pwy sy'n gymwys?
Mae Twf Swyddi Cymru+ ar gael i fusnesau o unrhyw faint mewn unrhyw ddiwydiant yng Nghymru.
Rhaid i'r swydd rydych chi'n ei chynnig fod am 16-40 awr yr wythnos, ac am o leiaf chwe mis. Rhaid i unrhyw swyddi a grëir fod yn ychwanegol at eich anghenion gweithlu presennol, a dylech fod wedi ymrwymo i gadw eich cyflogai y tu hwnt i'r cyfnod o chwe mis.
Rhaid talu'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu'n uwch ac ni ddylai’r rôl gael ei chefnogi gan unrhyw gyllid cyhoeddus neu Ewropeaidd arall
Rhaid i'r person rydych am ei recriwtio fod:
- Rhwng 16-19 oed
- Ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant llawn amser (NEET)
- Yn byw yng Nghymru
- Wedi'i asesu gan Cymru'n Gweithio fel un sy'n bodloni’r meini prawf ar gyfer un o feysydd y rhaglen.
Sut mae hyn o fudd i chi?
- Cymorth hyfforddi parhaus gan gontractwr dynodedig
- Cymhorthdal ar gyfer hyd at hanner costau cyflogaeth pob person ifanc
- Cyngor recriwtio am ddim
- Creu ffynhonnell o dalent gyda'r sgiliau, y cymwysterau a'r hyfforddiant sydd eu hangen arnoch i symud eich busnes ymlaen
- Hybu cynhyrchiant
Sut i gymryd rhan
I gael rhagor o wybodaeth am Twf Swyddi Cymru+ gallwch gofrestru eich diddordeb drwy'r Ffurflen Mynegi Diddordeb a bydd Cynghorydd Ymgysylltu â Chyflogwyr yn cysylltu â chi.
Fel arall, gallwch ffonio Llinell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu gysylltu â ni