Amdanom ni

Amdanom ni Rydym yn darparu cymorth busnes am ddim i helpu busnesau Cymru i fanteisio ar dechnoleg ar-lein.

Mae Cyflymu Cymru i Fusnesau yn wasanaeth cymorth busnes am ddim sy’n helpu busnesau bach a chanolig cymwys yng Nghymru i fanteisio ar dechnoleg ar-lein.

Gallai ein digwyddiadau rhad ac am ddim, cymorth un-i-un ac adolygiad o’ch gwefan helpu i arbed arian i’ch busnes, cynyddu gwerthiant ac elw a gwella cynhyrchiant.

Sut y mae busnesau Cymru eisoes yn elwa ar hyn?

Cyfle ichi glywed gan fusnesau o Gymru sy’n tyfu ac sydd eisoes wedi elwa ar wasanaethau Cyflymu Cymru i Fusnesau gan arwain at gynnydd o 30% mewn gwerthiant, hwb o 40% i ymweliadau â’u gwefan a chynnydd o 20% mewn archebion rhyngwladol.

Gweld rhagor o enghreifftiau go iawn.

Beth fyddwch chi'n ei dderbyn?
  • Cam 1: Galwad ffôn i gofrestru
  • Cam 2: Cyrsiau ar-lein am ddim
  • Cam 3: Cyngor un-i-un, wedi’i deilwra
  • Cam 4: Adroddiad cynnydd
Cofrestrwch nawr
Pa fuddion allwch chi eu disgwyl?

Rydym yn darparu’r sgiliau a'r wybodaeth i chi i:

  • Wella materion ariannol
  • Cyrraedd rhagor o gwsmeriaid
  • Tyfu’ch presenoldeb ar-lein
  • Rheoli’ch amser yn well
  • Symleiddio prosesau gwaith

Mae’r gefnogaeth rydych yn ei chael drwy wasanaeth Cyflymu Cymru i Fusnesau /Busnes Cymru yn cael ei hariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Nod y cynllun yw cefnogi busnesau i ddeall, mabwysiadu a defnyddio technolegau band eang cyflym iawn i wella’ch busnes. Mae Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yn helpu i greu swyddi, cefnogi busnesau a gwella sgiliau.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw cynnig cyfle cyfartal i bawb sydd angen cymorth. Ni ddylai’r un cleient gael ei drin yn llai ffafriol ar sail, hil, ethnigrwydd, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, oed, statws priodasol, anabledd, neu grefydd a chred. Bydd y data canlynol yn cael ei ddefnyddio i fonitro’r modd rydym yn darparu gwasanaethau.

Darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd Cyflymu Cymru i Fusnes yma.

Pwy allwn ni eu helpu?

Mae pob busnes yn gallu defnyddio ein gwybodaeth a’n teclynnau ar lein. Fodd bynnag, gan ein bod yn rhaglen sy’n cael ei hariannu gan yr Undeb Ewropeaidd, bydd yn rhaid i fusnesau sy’n derbyn ein pecyn cefnogaeth yn rhad ac am ddim fodloni ychydig o feini prawf cymhwysedd. Mae'r rhain yn cael eu hamlinellu isod:

  • Menter o Faint Bach i Ganolig - diffinnir y rhain fel busnesau gyda llai na 250 o weithwyr, gyda throsiant blynyddol o lai na €50 miliwn, a / neu fantolen flynyddol o ddim mwy na €43 miliwn. Nid yw busnesau sydd fwy na 25% ym mherchnogaeth cwmni nad yw’n Fusnes Bach a Chanolig yn gymwys i gael cefnogaeth.
  • Rhaid i’r busnes fod wedi’i leoli yng Nghymru. Dim ond cefnogaeth ar gyfer buddion economaidd a ddaw i’r busnes lleol sydd yng Nghymru sydd at gael i fusnesau gyda’u pencadlys y tu allan i Gymru.
  • Mae yna rai sectorau busnes na ellir eu cefnogi, naill ai oherwydd bod ffynhonnell arall o arian ar gael i'w helpu neu oherwydd y byddai hynny’n wrth gystadleuol; y meysydd yw amaethyddiaeth / pysgodfeydd a chynhyrchu bwydydd craidd, adeiladu llongau, dur, glo, trafnidiaeth, cynhyrchu ffibrau synthetig, tecstilau ac unrhyw wasanaeth sydd eisoes yn cael ei ddarparu gan y wladwriaeth megis addysg oedran ysgol a gofal iechyd.

Er mwyn sicrhau mai dim ond i gwmnïau sy’n cyfarfod â’r meini prawf y mae’r gefnogaeth ar gael, byddwn yn gofyn i chi ddarparu rhywfaint o wybodaeth i ddangos hynny. Diben yr arian yw cefnogi busnesau i dyfu ac felly bydd cefnogaeth yn golygu y bydd gofyn i chi weithio gyda ni a rhannu gwybodaeth.

Telerau ac Amodau

I ddarganfod sut mae Busnes Cymru’n trin eich gwybodaeth, gweler yma. Os byddwch yn cadw lle ar ddigwyddiad Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru, mae’n bosib y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu i gynnig gwasanaethau personol neu leol i chi, i’ch hysbysu o newidiadau i’n gwasanaeth, i ofyn eich barn ac i’n helpu i wella ein gwasanaethau. Mae gwefannau rydym yn cysylltu atynt yn debygol o gael Telerau ac Amodau sy’n wahanol i’n rhai ni. Peidiwch â rhagdybio y bydd ein Telerau ac Amodau ni yn berthnasol i wefannau eraill.

Rhagor o wybodaeth

Dysgwch sut mae busnesau eraill yng Nghymru wedi gweld twf gwirioneddol drwy’r gwasanaeth

Archwilio Astudiaethau Achos Cyflymu Cymru i Fusnesau

Archwilio ein digwyddiadau technegol digidol a gynhelir yn fuan 

Cyrsiau ar-lein am ddim

neu ffoniwch:

03000 6 03000

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cofrestrwch eich busnes ar y gwasanaeth di-dâl nawr!