Os ydych chi, fel fi, yn rhedeg busnes bach, mae’n debyg nad oes gennych adran TG benodol na rhesi o gyfrifiaduron mewn canolfannau data amryfal ledled y byd. Hyd yn oed heb adnoddau enfawr, dynol neu gyfalaf, gallwch serch hynny wneud defnydd o systemau a gwasanaethau TG tebyg i’r rhai a ddefnyddir gan sefydliadau mawr, ac nid oes arnoch angen dim amgenach na chysylltiad da â’r rhyngrwyd a nifer o ddyfeisiau digon cyffredin i gysylltu â hwy, Mae hyn yn bosibl diolch i gyfrifiadura cwmwl, sy’n prysur ddatblygu yn ddull safonol 'de facto' o ddarparu a derbyn gwasanaethau TG. Ond beth yw cyfrifiadura cwmwl? Pam ddylech ystyried hynny? Beth yw’r problemau posibl? A sut allwch eu hos goi?

 

Beth yw cyfrifiadura cwmwl?

 

Ystyr cyfrifiadura cwmwl ar ei ffurf buraf yw TG talu wrth ddefnyddio, ar-lein ac ar gais. Mae'r galluoedd TG a ddarperir fel gwasanaeth i fusnesau yn cynnwys rhaglenni meddalwedd unigol neu gyfresi o feddalwedd; platfformau datblygu meddalwedd ar-lein; a strwythurau cyfrifiadura rhithwir, yn amrywio o storio data i ridiau cyfrifiadurol. Gellir caffael y gwasanaethau hyn yn rhwydd gan ddarparwyr cymylau cyhoeddus

 

Mae’r tri phrif gategori o wasanaethau cyfrifiadura cwmwl cyhoeddus fel a ganlyn:

  • Meddalwedd fel Gwasanaeth – ar gyfer rhaglenni parod ar-lein;
  • Platfform fel Gwasanaeth – i greu rhaglenni wedi’u teilwra’n arbennig i gyd-fynd â'ch prosesau; a
  • Seilwaith fel Gwasanaeth – rheolaeth gyflawn dros eich rhaglenni a’r systemau gweithredu sy’n sail iddynt.

 

Dengys arolygon mai’r gwasanaethau cwmwl cyhoeddus mwyaf cyffredin yn 2011 oedd datrysiadau storio data ac wrth gefn o bell megis DropBox, a rhaglenni e-bost a swyddfa megis Google Apps oedd y math mwyaf poblogaidd o gynnyrch SaaS. Mae’n debyg iawn fod hyn oherwydd y costau isel (neu ddim costau) sy’n gysylltiedig â’r gwasanaethau hyn, yn enwedig yn achos busnesau bychan, a’r ffaith eu bod yn rhwydd i’w defnyddio. Fodd bynnag, mae nifer y busnesau sy’n talu am y gwasanaethau ‘sylfaenol’ hyn a chynhyrchion SaaS mwy cymhleth sydd angen ychydig mwy o ystyriaeth, megis cyfrifyddu, cydweithio a chyflogresi, yn cynyddu.

 

Pam ddylech ystyried hyn?

 

Dyma ychydig o resymau pam ddylech ystyried cyfrifiadura cwmwl:

  • Treulio llai o amser (a gwario llai o arian!) yn gweinyddu systemau TG nad ydynt yn greiddiol yn fewnol;
  • Cyflymu datblygiad a defnydd rhaglenni sy’n gwahaniaethu ac yn canolbwyntio ar gwsmeriaid
  • Bydd adnoddau storio data a chyfrifiadura yn cydweddu’n ddi-dor â’ch busnes;
  • Mynediad cyflymach at farchnadoedd newydd gan ddefnyddio gwasanaethau cwmwl i ddarparu meddalwedd a dosbarthu cynnwys, a marchnadoedd rhaglenni ar-lein;
  • Llai o asedau caledwedd a thrwyddedau meddalwedd i’w holrhain
  • Mynediad ar unwaith at y fersiwn ddiweddaraf o feddalwedd cwmwl heb unrhyw gostau uwchraddio;
  • Gwasanaethau symudol, cydweithio ar-lein a mynediad o bell wedi’u cefnogi 'oddi allan i’r blwch’

 

Hefyd, os dymunwch i’ch busnes fod yn ecogyfeillgar, gall cyfrifiadura cwmwl hwyluso gweithio o gartref a lleihau'r angen am deithiau busnes, ac mae rhai gwasanaethau cwmwl yn honni eu bod yn defnyddio ynni yn effeithlon iawn neu eu bod yn garbon niwtral. Os gall eich gweithwyr wneud defnydd o’u gliniaduron a’u dyfeisiadau symudol i gyrchu eich systemau cwmwl, gallwch osgoi prynu cymaint o galedwedd ar gyfer eich staff, ac efallai gallwch wneud rhagor o ddefnydd o gontractwyr fel bydd arnoch angen llai o le swyddfa a gall eich gweithlu gynyddu neu leihau – yn union fel eich systemau cyfrifiadura cwmwl.

 

Problemau posibl a sut i’w hosgoi

 

Ond mae pob busnes yn wahanol, ac nid oes ymyl arian i bob cwmwl du. Dengys arolygon yn rheolaidd mai diogelwch a phreifatrwydd data mewn cymylau cyhoeddus yw prif bryderon busnesau.

 

O ran diogelu data, byddai’n ddoeth defnyddio gwasanaethau sy’n defnyddio systemau dilysu dau gam – gallwch, er enghraifft, ofyn i Google Apps anfon negeseuon â chodau cyfrin at ddefnyddwyr a bydd rhaid iddynt ddefnyddio’r cod diweddaraf ynghyd â’u cyfrinair i gael mynediad, os byddant yn defnyddio dyfeisiau anghyfarwydd i fewngofnodi. O ran preifatrwydd data, cofiwch mai chi'n sy'n gyfrifol am warchod unrhyw ddata sydd gennych ynghylch eich cwsmeriaid, nid y sawl sy'n gwerthu TG i chi.

 

Dyma bryderon cyffredin eraill ynghylch cyfrifiadura cwmwl:

  • Y ddibyniaeth gynhenid ar fynediad i’r rhyngrwyd;
  • Canfod darparwyr gwasanaethau cwmwl dibynadwy a dichonol;
  • Y posibilrwydd o'r gwerthwr yn cloi’r ddarpariaeth;
  • Newidiadau annisgwyl mewn costau gwasanaethau cwmwl a chostau mewnol;
  • Atebolrwydd cytundebol am wasanaethau os na chyflawnir cytundebau lefel gwasanaeth (SLAs).

 

Wrth gwrs, mae mynediad i’r rhyngrwyd yn hanfodol er mwyn defnyddio gwasanaethau cwmwl, ond os oes gennych lawer o ddefnyddwyr sy’n defnyddio gwasanaeth sy’n rhoi baich sylweddol ar led band o’r un lleoliad (eich swyddfa, er enghraifft), dylech sicrhau fod gennych gysylltiad da a dibynadwy i’r rhyngrwyd, a dylech ystyried buddsoddi mewn llwybrydd 3G/4G wrth gefn os nad yw eich dyfeisiau symudol eisoes yn cynnig y math hwn o afreidrwydd rhwydwaith ichi.

 

Dylech sicrhau fod unrhyw wasanaethau cwmwl rydych yn eu hystyried yn cynnig y canlynol:

  • Lefelau derbyniol o amser segur, perfformiad a diogelwch
  • Rheolaethau diogelwch, cytundebau lefel gwasanaeth a galluoedd monitro digonol
  • Costau gwasanaeth cyflawn misol fforddiadwy ar gyfer y defnydd mwyaf a ddisgwylir yn y tymor hir

 

Dylai gwasanaethau cwmwl hefyd:

  • Ddiwallu anghenion eich sefydliad o ran gwarchod data a chydymffurfio â safonau'r diwydiant
  • Integreiddio’n rhwydd â’ch hoff feddalwedd bwrdd gwaith, systemau mewnol a gwasanaethau cwmwl eraill
  • Cydweddu’n dda â’ch platfformau datblygu a’ch ieithoedd rhaglennu
  • Yn ddelfrydol, dylent fod yn ryngweithiadwy ac yn cynnig dull rhwydd o echdynnu a mudo data ar ffurf strwythuredig lle cedwir yr ystyr

 

Mae’r pwynt diwethaf yn bwysig iawn: sicrhewch fod gennych ddihangfa rhag ofn i’ch darparwr gwasanaeth cwmwl roi’r gorau i fodoli neu rhag ofn y bydd gwasanaeth gwell ar gael.

 

Mentro

 

Os nad ydych yn agored i risgiau, gallwch ddefnyddio cyfrifiadura cwmwl ar gyfer data nad yw’n gyfrinachol a defnydd busnes nad yw’n allweddol yn unig. Ond bydd llai o gyfyngiadau fel arfer ar fusnesau bach na sefydliadau mawr, a bydd hynny'n cynnig mantais i chi. Gallwch weithredu’n gyflym a gallwch bob amser fod ar flaen y gad o ran gwasanaethau TG. Felly mentrwch ddefnyddio cyfrifiadur cwmwl a daliwch ati i symud!

 

Cofnod blog gan Dr Mark Ian Williams, Prif Weithredwr Muon Consulting Ltd ac awdur ‘A Quick Start Guide to Cloud Computing’.

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen