Gweminarau ar gyfer Cynhyrchwyr Bwyd a Diod

Gwneud Bwydydd a Diodydd yng Nghymru? Rhowch hwb i’ch marchnata digidol ac arbed amser gydag offer ar-lein.

Os ydych yn gynhyrchydd bwydydd a diodydd o Gymru, gadewch i ni eich helpu chi i fagu eich hyder digidol.

Ymunwch â ni ar gyfer dau weminar newydd wedi'i theilwra ar gyfer cynhyrchwyr bwydydd a diodydd o Gymru.

Byddwn yn dangos i chi sut i ddefnyddio marchnata digidol i gyrraedd cwsmeriaid a chael arian yn y banc, yn ogystal ag offer ar-lein i'ch helpu chi i reoli'ch busnes, eich stoc a'ch cwsmeriaid yn well - megis systemau CRM ac archebu, cyfrifyddu a rhagor.

Cofrestwch nawr

Gweminar 1: Marchnata digidol ar gyfer cynhyrchwyr bwydydd a diodydd
  • Ymgysylltu â'ch marchnad darged
  • Datblygu strategaeth i greu gwerthiannau
  • Mesur beth sy'n gweithio a beth sydd ddim
Gweminar 2: Offer ar-lein ar gyfer cynhyrchwyr bwydydd a diodydd
  • Systemau archebu a chlicio a chasglu
  • Meithrin perthnasoedd â chwsmeriaid
  • Rheoli eich cyfrifon a'ch taliadau ar-lein
  • Cadw'ch busnes yn ddiogel

Peidiwch ag anghofio trefnu eich sesiwn un-i-un gydag Ymgynghorydd Busnes Digidol pan fyddwch chi yn y gweithdy!


 

Dywedodd 97% o’r rhai fu ar ein cyrsiau eu bod yn fuddiol i’w busnes

  • “Mae cael rhagor o gyngor yn amhrisiadwy”
    Sunnybank Holiday Accommodation

     
  • “Roedd yn fuddiol iawn ac yn llawn gwybodaeth”
    Davies Warlow Chartered Accountants

     
  • “Roedd yn fanwl iawn, a byddai o gymorth mawr i unrhyw fusnes”
    Counselling Choices

Mae ein gwasanaeth llawn yn cynnwys

  • Gweithdai busnes am ddim: cyfle i ddysgu ffyrdd ymarferol o fanteisio i’r eithaf ar adnoddau ar-lein a thechnolegau ar gyfer llwyddiannau cyflym a gwelliannau mawr
  • Cymorth un i un wedi’i deilwra: cyfle am sesiwn un i un gyda Chynghorydd Busnes Digidol a chynllun gweithredu wedi’i deilwra
  • Adolygu gwefan: cyfle am adolygiad am ddim o’ch gwefan i ddod o hyd i feysydd i’w gwella er mwyn ennill cwsmeriaid newydd


Telerau ac Amodau

Gallwch ddod o hyd i sut mae Busnes Cymru yn delio â’ch gwybodaeth, yma. Os ydych yn archebu eich lle mewn digwyddiad gan Busnes Cymru neu Lywodraeth Cymru, efallai y byddwn ni’n defnyddio'r wybodaeth y byddwch chi’n ei rhoi er mwyn cynnig gwasanaeth personol neu wasanaeth lleol, er mwyn rhoi gwybod i chi am newidiadau i’n gwasanaeth, er mwyn gofyn eich barn ac i’n helpu ni i wella ein gwasanaethau.

Mae gan wefannau rydyn ni’n cysylltu â nhw Delerau ac Amodau sy’n debygol o fod yn wahanol i’n rhai ni. Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod ein Telerau ac Amodau yn berthnasol i wefannau eraill.

BC Digwyddiadau

There are currently no events available.

Fwy o Ddigwyddiadau

“Mae gwerthiant ar-lein yn gwneud yn dda”

Darllenwch sut mae The Tasteful Cake Company yn llwyddo gyda’r cyfryngau cymdeithasol
Ydych chi’n barod i ymuno â nhw? Cofrestrwch gyda Cyflymu Cymru i Fusnesau i gael cymorth digidol am ddim!