I gael gwybodaeth gyffredinol ynghylch sut i gael gafael ar gyllid a dewis y math cywir, ewch i brif wefan Busnes Cymru

Ein prif gronfa fuddsoddi ar gyfer cyllido twristiaeth yw'r Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth, Cymru (CBTC) ac Y Pethau Pwysig.

Gallwch weld manylion cynlluniau ariannu hanesuddol a'r rhai o'r prosiectau sydd wedi derbyn buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru ar y dudalen prosiectau a gefnogir

Blwyddyn Croeso: Cronfa Addasu i’r Tywydd ar gyfer Atyniadau Twristiaeth 2025-2026

Mae Croeso Cymru yn rhedeg cronfa sy’n cynnig grantiau cyfalaf bach yn 2025-2026 er mwyn cefnogi atyniadau twristiaeth i fuddsoddi mewn mesurau i addasu i’r tywydd. 

Amcanion y gronfa

Mae atyniadau twristiaeth yn tynnu sylw at dywydd gwael fel ffactor o bwys sy'n cael effaith ar fasnachu. Mae Strategaeth Addasu i'r Hinsawdd Llywodraeth Cymru yn amlinellu ei dull o liniaru effeithiau hinsawdd ac mae’r Cynllun Gweithredu Addasu ar gyfer Busnesau yn pwysleisio’r angen i ddiogelu busnesau ac ystyried dulliau ariannu sy’n cefnogi gwytnwch. Nod ein Strategaeth Dwristiaeth yw rhoi hwb i wariant ymwelwyr a hyrwyddo twristiaeth drwy gydol y flwyddyn ond mae busnesau yn adrodd bod tywydd garw yn rhwystro'r nodau hyn.

Pwrpas y gronfa

Mae cyfnodau o dywydd gwael yn effeithio'n negyddol ar fusnesau atyniad twristiaeth mewn dwy brif ffordd: 

  1. trwy atal y busnes rhag gweithredu yn ôl ei arfer (er enghraifft, os mae cyfleuster o dan dŵr) 
  2. trwy effeithio'n negyddol ar brofiad ymwelwyr a/neu beri iddynt beidio ymweld. 

Bydd mesurau i addasu i’r tywydd a gefnogir gan y Gronfa hon yn anelu at:

  • lliniaru'r effeithiau hyn trwy helpu i gefnogi gwytnwch economaidd y busnes a’i allu i ymaddasu,
  • cryfhau gwytnwch hinsawdd y busnes, 
  • helpu i alluogi'r busnes i gynnig ei groeso gorau posibl i ymwelwyr yn ystod Blwyddyn Croeso 2025.

Beth fydd yn cael ei ariannu?

Mae'r Gronfa yn cynnig grantiau cyfalaf rhwng £5,000 a £20,000.  Rhaid eu defnyddio cyn 31 Mawrth 2026. Ni fydd unrhyw gostau refeniw yn cael eu hystyried. Gall y grant gefnogi hyd at 75% o gostau'r mesurau addasu (neu hyd at £20,000 os yw hyn yn llai na 75% o'r costau).

Rhaid i weddill y costau gael eu hariannu gan y busnes o'i gronfeydd ei hun neu o ffynonellau cyllid preifat. Ni all ymgeiswyr ddefnyddio unrhyw fath arall o grant neu gyllid gan unrhyw sefydliad sector cyhoeddus fel arian cyfatebol. 

Rhaid cwblhau’r prosiect a’r gwariant yn llawn a hawlio’r grant erbyn 31 Mawrth 2026.

Bydd mesurau cymwys i addasu i’r tywydd yn cynnwys:

  • mesurau sy'n lliniaru effaith tywydd gwael ar y busnes
  • mesurau sy'n lliniaru effaith tywydd gwael ar brofiad ymwelwyr

Darllenwch y Canllawiau i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n gymwys.

Pwy sy'n gymwys?

Busnesau atyniadau twristiaeth yng Nghymru sydd: 

  • wedi'u hachredu fel atyniadau ymwelwyr o dan gynllun VAQAS (neu'n gymwys ac yn barod i geisio achrediad VAQAS fel amod grant) 
  • yn fentrau micro, bach neu ganolig (yn cyflogi hyd at 249 o weithwyr) 
  • wedi bod yn masnachu am o leiaf flwyddyn fel cwmni cyfyngedig, partneriaeth neu unig fasnachwr neu fel menter gymdeithasol 
  • yn derbyn ymwelwyr mewn lleoliad lle gall tywydd gwael effeithio ar berfformiad y busnes a phrofiad yr ymwelwyr 

Camau Nesaf

Os oes gennych ddiddordeb, darllenwch y Canllawiau a chwblhewch y Ffurflen Gais, gan anfon y dogfennau sy’n ofynnol at CronfaAddasuIrTywydd@llyw.cymru erbyn 1pm ar 22 Mai 2025 fan bellaf.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at CronfaAddasuIrTywydd@llyw.cymru neu ffoniwch 03000 622418.

Y Pethau Pwysig

Mae Y Pethau Pwysig yn gronfa gyfalaf i gyflawni gwelliannau i seilwaith twristiaeth ar raddfa fach ledled Cymru. 

Pwy oedd yn medru gwneud cais?
Roedd y gronfa eleni yn agored i: 

  • Awdurdodau Lleol 
  • Awdurdodau Parciau Cenedlaethol 

Diben y gronfa oedd sicrhau gwelliannau mewn seilwaith sylfaenol ond hanfodol i ymwelwyr mewn cyrchfannau twristiaeth strategol ledled Cymru i sicrhau bod pob ymwelydd yn cael profiad cadarnhaol a chofiadwy ymhob agwedd ar eu harhosiad.

Ar gyfer y cylch ariannu hwn, rhaid i bob cais ganolbwyntio ar flaenoriaeth (1) isod ynghyd ag o leiaf un o’r 3 flaenoriaeth arall

  1. Cyrchfannau amgylcheddol gynaliadwy. Datblygu seilwaith newydd neu drawsnewid seilwaith sy'n bodoli eisoes i wneud y gyrchfan yn fwy cynaliadwy, gan helpu i leihau'r ôl troed carbon.
  2. Lleddfu mannau prysur mewn lleoliadau poblogaidd a chefnogi cyrchfannau ymwelwyr o safon uchel  
  3. Twristiaeth Hygyrch a Chynhwysol. Cefnogi prosiectau sy'n dileu rhwystrau ac yn gwella mynediad at gyfleusterau i bawb.
  4. Gwella y cynnig i ymwelwyr drwy gynnig profiadau sy’n rhoi ymdeimlad o le, er enghraifft trwy ddarparu seilwaith ar gyfer digwyddiadau, cynlluniau dehongli, llwybrau cerdded a phrosiectau sy’n rhoi llwyfan i fwyd, treftadaeth, diwylliant a’r Gymraeg. 

Cronfa gyfalaf oedd hon. Nid oedd costau refeniw yn cael eu hystyried. Cyfanswm y grant ar gael oedd £300,000 gydag uchafswm cyfradd ymyrraeth o 80%. Nid oedd isafswm grant

Ar gyfer y rownd hon, cafodd ymgeiswyr amser ychwanegol i gyflawni prosiectau (os oedd angen). Os oedd eich Datganiad o Ddiddordeb yn llwydiannus, (cam 1) fe'ch gwahoddwyd i gyflwyno cais (cam 2). Bydd ymgeiswyr yn cael gwybod os yw eu cais cam 2 yn llwyddiannus o’r 1af o Ebrill 2025. 

Ar gyfer prosiectau 1 blwyddyn, bydd yn rhaid gwario a hawlio’r arian erbyn 01 Mawrth 2026. 

Os oes cyfiawnhad am brosject 2 flynedd, gellir ariannu’r prosiect ar draws 2 flwyddyn ariannol ac felly roedd angen iddo ddangos proffil cost clir ar gyfer 2025-26 a 2026-27. Rhaid cwblhau’r prosiect erbyn 31 Ionawr 2027.

Y dyddiad cau ar gyfer y cylch hwn oedd 22 Tachwedd 2024.

Gallwch anfon unrhyw gwestiynau am y gronfa i TwristiaethRhanbarthol@llyw.cymru.

Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth, Cymru (CBTC)

Mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â Banc Datblygu Cymru, wedi lansio cronfa newydd gwerth £50mn, Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth, Cymru, sy’n dod ag arian masnachol ac arian grant ynghyd mewn un pecyn cyfun o gymorth ariannol er mwyn darparu buddsoddiad cyfalaf i’r sector.

Amcanion y gronfa 
Er mwyn cynnal a datblygu safle Cymru mewn marchnad dwristiaeth fyd-eang eithriadol o gystadleuol, mae angen inni barhau i fuddsoddi yn ein cynnyrch twristiaeth. Amcan allweddol y Gronfa fydd helpu i ariannu buddsoddiad cyfalaf mewn prosiectau twristiaeth sydd â chyfle i greu argraff gadarnhaol ar y sector a datblygu economi Cymru.

Diben y gronfa

  • Sicrhau bod prosiectau twristiaeth yng Nghymru yn dal i allu manteisio ar gyllid
  • Helpu’r sector twristiaeth drwy’r cyfnod pontio o’r ddibyniaeth ar arian grant i gyfnod lle mae’n gweithredu ar sail benthyciadau masnachol.
  • Caniatáu defnyddio arian cyhoeddus mewn maes a allai gael effaith sylweddol ar yr economi.
  • Gallu cefnogi buddsoddiadau strategol, a allai fod yn rhai sylweddol, yn ôl yr angen. 

Beth fydd y gronfa'n ei ariannu?

  • Bydd y gronfa newydd yn darparu cyfalaf i fusnesau twristiaeth, rhwng £100,000 a £5,000,000 i brosiectau cymwys.
  • Mae’r cyfnod ad-dalu rhwng 10 a 15 mlynedd, a gall gynnwys ysbeidiau talu tymhorol.
  • Bydd yn golygu mwy o hyblygrwydd o ran ariannu.
  • Bydd yr arian ar gael o'r adeg y bydd prosiect yn dechrau ac fe’i telir fesul cyfran drwy’r cyfnod datblygu.
  • Bydd taliadau benthyciad masnachol a grant cymwys yn cael eu cyfuno er mwyn lleihau cost y cyllid drwyddi draw.

Pwy sy'n gymwys?

Mae Cronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth, Cymru yn gronfa fuddsoddi sy’n cynnwys cymysgedd o arian ad-daladwy ac arian nad yw’n ad-daladwy, fydd yn targedu prosiectau buddsoddi cyfalaf cymwys yn y sector twristiaeth yng Nghymru. Gellid ei defnyddio un ai i uwchraddio asedau presennol, neu i greu asedau newydd, o safon uchel, yn y sector twristiaeth.

I gael ei ystyried am gymorth drwy Gronfa Buddsoddi mewn Twristiaeth, Cymru, bydd angen i ymgeisydd:

  • Ymrwymo i gefnogi strategaeth Ffyniant i Bawb Llywodraeth Cymru a dangos ymrwymiad i bedwar gofyniad y Contract Economaidd
  • Bod wedi’i leoli yng Nghymru a dangos sut bydd y prosiect yn ysgogi twf mewn marchnadoedd newydd a marchnadoedd presennol, ac yn creu a/neu ddiogelu swyddi
  • Dangos hyfywedd ariannol a’r gallu i ad-dalu dros gyfnod y pecyn ariannu.

Y Camau Nesaf 

Mae’r gronfa yn cynnwys proses ymgeisio ddau gam. Mae’r cam cyntaf yn cynnwys ffurflen Mynegi Diddordeb ac, os bydd y busnes yn llwyddiannus ar y cam hwn, caiff ei wahodd wedyn i wneud cais llawn. Mae cwestiynau cyffredin ar gael hefyd.  

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael rhagor o wybodaeth am y gronfa, anfonwch ebost at CBTC@llyw.cymru neu alw 03000 622418.

Cynigion a wnaethbwyd 01 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2024

Straeon Perthnasol