1. Cydweithio
Beth am inni gadw mewn cysylltiad a chydweithio. Rydym yn cyhoeddi unrhyw gyfleoedd sydd ar gael i gymryd rhan yn ein hymgyrchoedd a’n digwyddiadau masnach a’n harddangosfeydd yn ein newyddlenni rheolaidd ac ar twitter.
-
Cewch wybod sut gallwn weithio gyda’n gilydd drwy edrych ar ein 5 awgrym ar gyfer gweithio gyda Croeso Cymru.
- Dilynwch ni ar twitter @CroesoCymruBus
- Tanysgrifiwch i gael ein newyddlen
- Rhannu cynnwys – e-bostiwch fanylion unrhyw newyddion, straeon, pecynnau neu ddigwyddiadau sydd gennych chi at productnews@llyw.cymru
- Defnyddiwch ein delweddau twristiaeth yn eich deunydd marchnata
- Cymrwch ran yn ein hymgyrchoedd marchnata drwy dagio eich delweddau a’ch cynnwys ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol sef #GwladGwlad
- Os ydych chi’n atyniad neu’n ddarparydd llety, ydych chi wedi ystyried ymuno â’n cynlluniau graddio?
Os oes gennych chi gwestiynau penodol ynghylch rhedeg busnes twristiaeth neu ddechrau eich busnes eich hun, cysylltwch â Busnes Cymru.
2. Tîm Rhanbarthol Croeso Cymru
Dyma fanylion eich cysylltiadau yn y rhanbarthau:
Y Gogledd
Andrew Forfar - AndrewWallace.Forfar@llyw.cymru
Canolbarth
Nathan Richards - Nathan.Richards001@llyw.cymru
Y De-orllewin
Ceri Jones – Ceri.Jones057@llyw.cymru
Jane Donald - Jane.Donald@llyw.cymru
Y De-ddwyrain
Rebecca Rees - Rebecca.Rees2@llyw.cymru
Ar gyfer e-byst cyffredinol at y Tîm Rhanbarthol yn gyffredinol cysylltwch â hwy drwy ddefnyddio: regionaltourism@llyw.cymru
3. Y Fforwm Twristiaeth Ranbarthol
Yn 2014, sefydlwyd Fforwm Ranbarthol i roi’r strategaeth twristiaeth ym mhob rhanbarth ar waith. Mae yna fforwm ym mhob ardal – y gogledd, y canolbarth, y de-ddwyrain a’r de-orllewin. Mae’r fforwm yn cwrdd tri/pedwar amsweroedd y flwyddyn i drafod ac adolygu datblygiadau ym maes twristiaeth ac i ddod â rhanddeiliaid pwysig y rhanbarth ynghyd.
Bydd y Fforwm yn:
- nodi pa fusnesau unigol neu gyrchfannau a allai gydweithio’n agosach yn y rhanbarth
- nodi cyfleoedd i ddatblygu twristiaeth yn y rhanbarth
- dull i fwydo i mewn i bob fforwm drwy bartneriaethau rheoli cyrchfannau
Fel aelod o grŵp rhanddeiliaid y Fforwm Rhanbarthol, bydd eich manylion yn cael eu rheoli yn unol â'n Hysbysiad Preifatrwydd.
Fforwm Y Gogledd
Munudai - 09 Mehefin 2023 Saesneg yn unig
Munudai - 01 Mawrth 2023 Saesneg yn unig
Munudai - 30 Tachwedd 2022 Saesneg yn unig
Fforwm Y Canolbarth
Munudai - 12 Mehefin 2023 Saesneg yn unig
Munudai - 02 Mawrth 2023 Saesneg yn unig
Munudai - 01 Rhagfyr 2022 Saesneg yn unig
Fforwm De-Orllewin
Munudai - 08 Mehefin 2023 Saesneg yn unig
Munudai - 15 Chwefror 2023 Saesneg yn unig
Munudai - 06 Rhagfyr 2022 Saesneg yn unig
Fforwm De-Ddwyrain
Munudai - 07 Mehefin 2023 (Rhith-gyfarfod (ar-lein)) Saesneg yn unig
Munudai - 28 Chwefror 2023 Saesneg yn unig
Munudai - 29 Tachwedd 2022 Saesneg yn unig
4. Twristiaeth Bwyd
Caiff twristiaeth bwyd ei ddiffinio gan Lywodraeth Cymru fel
‘unrhyw weithgarwch sy’n hyrwyddo profiad bwyd o safon uchel, unigryw, lleol a chynaliadwy sy'n gysylltiedig â lle arbennig'
Mae Cynllun Gweithredu Twristiaeth Bwyd Cymru 2015-2020 ar gael o hyd ac rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid a busnesau, gan eu hannog
- i dynnu sylw at fwyd a diod lleol/Cymreig i ymwelwyr
- i gynnig cynnyrch lleol/Cymreig ar fwydlenni ac mewn manwerthu.
Trwy gynnig profiad unigryw i ymwelwyr o fwyd a diod Cymru, bydd yn helpu i ddangos y gwahaniaeth rhwng eich busnes chi a’r busnesau sy’n cystadlu â chi.
Mae'r Pecyn Cymorth Twristiaeth Bwyd wedi ei ddiweddaru - darganfyddwch pam fod twristiaeth bwyd yn bwysig i Gymru ac i'ch busnes yn ogystal ac awgrymiadau bwydlen a ryseitiau a llawer mwy.
5. Hyrwyddo eich busnes
Mae gan ein gwefan defnyddwyr nodwedd chwilio i ddod o hyd:
- llety
- gweithgareddau
- atyniadau
- digwyddiadau
I ychwanegu neu ddiweddaru manylion eich busnes neu ddigwyddiad, cysylltwch â’ch cynrychiolydd lleol.
6. Digwyddiadau Cymru
Digwyddiadau Cymru yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer digwyddiadau mawr Cymru.
Rydym yn adeiladu ac yn cynnal portffolio o ddigwyddiadau o safon fydeang sy'n cefnogi twf economaidd ac yn codi proffil ac enw da Cymru yn rhyngwladol.
Mae brandiau byd-eang megis Cwpan Ryder, WOMEX, Cwpan Rygbi'r Byd, Cyfres y Lludw a Ras Hwylio Volvo oll wedi dewis cynnal eu digwyddiadau yng Nghymru.
Rydym hefyd wedi datblygu portffolio bywiog a deinamig o’n digwyddiadau ein hunain, gan gynnwys
- Gŵyl y Dyn Gwyrdd
- Gŵyl Gomedi Machynlleth
- Gŵyl Chwedleua 'Beyond the Border'
- FOCUS Cymru
- Cyfres triathlon Sandman, Snowman a Slateman.
Ynglŷn â Digwyddiadau yng Nghymru
7. Digwyddiadau Busnes
Adolygiad Cynnyrch a Sgiliau Digwyddiadau Busnes Cymru
Meet In Wales: Adolygiad Cyrchfan 2023
Helpwch ni i rannu dyfodol digwyddiadau busnes yng Nghymru.
Diweddaru eich gwybodaeth ar meetinwales.com
Ar gyfer rhestr epig, mae awgrymiadau da ar gael i’ch helpu i ddiweddaru gwybodaeth eich busnes
Mae fideos hefyd wedi'u paratoi i'ch helpu i ddiweddaru eich rhestrau:
- Diweddaru eich manylion ar gyfer B2B llety (enghraifft Diwydiant Teithio)
- Diweddaru eich manylion ar gyfer B2B gweithredwr (enghraifft Diwydiant Teithio)
- Diweddaru eich manylion ar gyfer B2B gweithgaredd (enghraifft Digwyddiadau Busnes)
Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Croeso Cymru.
Rhowch wybod i ni pan fydd gennych unrhyw newyddion amserol perthnasol ar gyfer y farchnad Digwyddiadau Busines, drwy e-bostio productnews@llyw.cymru. Yna gallwn:
- diweddaru ein tudalen newyddion gwefan (Saesneg yn unig)
- cynnwys yn ein diweddariadau cynnyrch a roddwn at ei gilydd ar gyfer digwyddiadau Masnach
- diweddaru cynnwys ar gyfer ein e-gylchlythyrau Digwyddiadau Busnes
- cynnwys yn ein cyflwyniadau a'n gweminarau
- rhannu gyda chydweithwyr mewn adrannau eraill, ein hasiantaethau a swyddfeydd VisitBritain.
Mae hwn yn gyfle da iawn i dynnu sylw'r gymuned Digwyddiadau Business
Digwyddiadau Busnes - #MeetInWales
Oes gennych ddiddordeb mewn denu cyfarfodydd, cynadleddau, cymhellion a digwyddiadau busnes?
Rôl tîm Digwyddiadau Busnes yw codi proffil ac enw da Cymru fel cyrchfan digwyddiadau busnes i’r farchnad Cyfarfodydd, Cymhellion, Cynhadledd, Digwyddiadau / Arddangosfeydd. Y nôd yw gwerthu Cymru i Gymdeithasau, cleientiaid corfforaethol, asiantaethau a phrynwyr cymhelliant, gan ddylanwadu prynwyr i ddod â'u digwyddiadau a’u cynnal yng Nghymru.
Mae Cymru wedi ymrwymo i fynychu cyfres o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd allweddol B2B i godi proffil Cymru o fewn y DU ac ar raddfa Ryngwladol gyda chyfleoedd i bartneriaid a rhanddeiliaid fod yn bartner.
Am ragor o wybodaeth am fynychu'r digwyddiadau hyn, e-bostiwch ni: cwrddyngnghymru@llyw.cymru.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Digwyddiadau Busnes – geirfa a chanllaw defnyddiol i’ch helpu
Gwefan Cyfarfod yng Nghymru (Saesneg yn unig)
E-bost: cwrddyngnghymru@llyw.cymru
8. Ffordd Cymru
Ffordd Cymru yw teulu o dair ffordd, yn unigryw ond yn cyd-fynd â’I gilydd, sy’n rhoi ffordd i bobl gyrraedd y gorau sydd gan ein cenedl i’w gynnig. Ar y cyd, maen nhw’n gwneud datganiad grymus am yr hyn rydym ni’n ei drysori am Gymru a sut yr hoffem gyflwyno ein hunain i’r byd.
9. Y Diwydiant Teithio
Diweddaru eich gwybodaeth ar traveltrade.visitwales.com
Ar gyfer rhestr epig, mae awgrymiadau da ar gael i’ch helpu i ddiweddaru gwybodaeth eich busnes
Mae fideos hefyd wedi'u paratoi i'ch helpu i ddiweddaru eich rhestrau:
- Diweddaru eich manylion ar gyfer B2B llety (enghraifft Diwydiant Teithio)
- Diweddaru eich manylion ar gyfer B2B gweithredwr (enghraifft Diwydiant Teithio)
- Diweddaru eich manylion ar gyfer B2B gweithgaredd (enghraifft Digwyddiadau Busnes)
Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Croeso Cymru.
Rhowch wybod i ni pan fydd gennych unrhyw newyddion amserol perthnasol ar gyfer y Fasnach Deithio, drwy e-bostio productnews@llyw.cymru. Yna gallwn:
- diweddaru ein tudalen newyddion gwefan (Saesneg yn unig)
- cynnwys yn ein diweddariadau cynnyrch a roddwn at ei gilydd ar gyfer digwyddiadau Masnach
- diweddaru cynnwys ar gyfer ein e-gylchlythyrau Masnach Deithio
- cynnwys yn ein cyflwyniadau a'n gweminarau
- rhannu gyda chydweithwyr mewn adrannau eraill, ein hasiantaethau a swyddfeydd VisitBritain.
Mae hwn yn gyfle da iawn i dynnu sylw'r gymuned Masnach Deithio at eich cynnyrch newydd.
Y Diwydiant Teithio
Mae’r diwydiant teithio’n cynnwys sefydliadau amrywiol iawn sy’n gweithredu fel cyrff cyswllt o fewn y diwydiant teithio a thwristiaeth. Mae’r rhain yn cynnwys:
- gweithredwyr teithiau
- gweithredwyr coetsys
- cyfanwerthwyr
- cwmnïau rheoli cyrchfannau a gweithredwyr mewnol
- asiantaethau teithio
Ein rôl yw dylanwadu ar brynwyr yn y diwydiant teithio. Ein nod yw annog y prynwyr hyn i ddod â busnes i Gymru. Mae ein gwaith yn cynnwys sefydlu a chynnal cysylltiadau gydag unigolion a chwmnïau sydd ar hyn o bryd yn cynnwys Cymru yn eu rhaglenni neu sydd â’r potensial i gynnwys Cymru yn eu rhaglenni yn y dyfodol.
Os hoffech chi greu mwy o fusnes i gynyddu nifer eich ymwelwyr a llenwi lleoedd gwag, yna beth am weithio gyda’r sectorau teithiau hamdden. I gael blas o’n gwaith yn y maes hwn, ewch i Wefan y Diwydiant Teithio (saesneg yn unig).
- Gweithio gyda’r Diwydiant Teithio
- Cael y mwyaf allan o mynychu digwyddiadau Diwydiant Teithio
- Ydych chi â diddordeb i fynychu digwyddiadau Diwydiant Teithio?
- Marchnata eich cynnyrch i’r Diwydiant Teithio Rhyngwladol
I gael rhagor o wybodaeth:
Gwefan y Diwydiant Teithio
Twitter
Facebook
LinkedIn
Neu cysylltwch â'r tîm ar traveltradewales@llyw.cymru
10. Cyfnewidfa Twristiaeth Prydain Fawr (TXGB)
Marchnad ddigidol, ganolog yw TXGB sy’n galluogi cyflenwyr twristiaeth i gontractio a chyflwyno eu cynnwys, pryd maent ar gael a’u prisiau i ystod eang o ddosbarthwyr ar yr un pryd a’u rheoli mewn un man.
Mae TXGB yn ei gwneud hi’n bosibl archebu cyflenwyr ar ystod eang o sianeli dosbarthu (gan gynnwys gweithredwyr arbenigol, lleoliadau ac Asiantaethau Teithio Ar-lein). Nid oes tâl cysylltu, nid oes angen i chi drefnu archebion ar wwefannau eich hunain a mae modd i chireoli eich dosbarthiad i gyd mewn un man. Yn syml, maen nhw’n talu ffi archebu o 2.5% - dim ond ar gyfer yr archebion a gynhyrchir – gan gynnwys comisiwn y dosbarthwr a ddewisir.
Gall defnyddio’r Cyfnewidfa Twristaeth gynnig:
- ffordd hawdd o weithio gyda mwy o sianeli heb gynyddu’r gwaith gweinyddu er mwyn cyrraedd mwy o gwsmeriaid, cynyddu gwerthiant, lleihau dibyniaeth ar un sianel werthiant a lleihau costau comisiynu.
- mynediad at fwy o sianeli dosbarthu ac yn cynnig ffordd o archebu sgil-gynhyrchion mewn ymgyrchoedd marchnata cyrchfannau cenedlaethol a rhanbarthol.
Mae Croeso Cymru / Llywodraeth Cymru wedi trwyddedu TXGB fel bod y diwydiant twristiaeth yng Nghymru yn gallu manteisio arni. Mae platfform TXGB Cymru Wales yn awr yn weithredol a mae busnesau a rhanbarthau yng Nghymru yn cael eu cynnwys ar y platfform hwn.
Fideo Hyrwyddo TXGB (Cymraeg)
Gweminar Tourism Exchange Great Britain (TXGB) – Trafodaeth a chwestiynau
03 Mai 2023 05 Gorffennaf 2023
Os oes gennych ddiddordeb ac am gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges atom drwy e-bostio Twristiaeth Gogledd Cymru neu Twristiaeth Canolbath Cymru:
Twristiaeth Gogledd Cymru (gogledd) - Jim Jones/Eirlys Jones (visitwalesopps@northwalestourism.com)
Twristiaeth Canolbarth Cymru (canolbarth / de / gorllewin ) – Val Hawkins/Zoe Hawkins (visitwales@mwtcymru.co.uk)
Mae Day Out With The Kids yn gweithio mewn partneriaeth â TXGB er mwyn integreiddio profiad prynu tocynnau ar ei wefan.