Sgiliau a Recriwtio

Mae'r sector Twristiaeth, Lletygarwch a Digwyddiadau yn un amrywiol. Mae'n cwmpasu llawer o elfennau is-sectorau gwahanol, gan gynnwys gweithgareddau ym maes llety a gwasanaethau bwyd, fel

  • gwestai a mathau eraill o lety
  • bwytai
  • gwasanaethau diodydd ac arlwyo ar gyfer digwyddiadau
  • gweithgareddau antur awyr agored 
  • atyniadau i ymwelwyr.

 

Ym mis Awst 2021, lansiodd Croeso Cymru ymgyrch i annog pobl i weithio yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch. 

Mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar y swyddi gwag sydd yn y sector, sy’n ymwteb i’r cynnydd yn y galw gan gwsmeriaid a bod mwy o bobl yn dewis aros yn y wlad hon am eu gwyliau eleni. 

Mae’n ymdrin â chyfleoedd datblygu personol a llwybrau gyrfaol posibl mewn swyddi fel

  • blaen y tŷ 
  • coginio 
  • cadw tŷ 
  • goruchwylio a rheoli 

Mae’r ymgyrch yn cael ei chynnal ar y cyd â Cymru’n Gweithio – porth cyflogaeth Llywodraeth Cymru, i bobl 16 oed a throsodd. Mae’n cynnig cyngor a chymorth diduedd, cynhwysol a phenodedig i helpu pobl i gael gwaith a hyfforddiant iddynt allu datblygu eu gyrfaoedd a gwella’u lles. 

I weld y manylion llawn, ewch i wefan Cymru’n Gweithio. Bydd mwy o astudiaethau achos a ffilmiau ar gael yn y misoedd i ddod. 

 

Fel rhan o'r ymgyrch, mae asedau a phecyn cymorth newydd ar gael nawr. Mae'r pecyn cymorth ar gael i

  • helpu rhanddeiliaid i recriwtio staff
  • codi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd gyrfa gwych ym maes twristiaeth a lletygarwch

Cefnogwch yr ymgyrch trwy gadw llygad ar y cyfryngau cymdeithasol a defnyddio #LlunwyrProfiadau. I gael manylion llawn yr ymgyrch, ewch i wefan Cymru’n Gweithio.

 

Colegau/darparwyr hyfforddiant

  • Mae Grwp Llandrillo Menai yn cynnwys Coleg LLandrillo, Coleg Menai a Choleg Meirion Dwyfor ac yn cyflwyno cyrsiau ar draws Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych a Gwynedd. Gall busnesau sydd â swyddi gwag lenwi'r Ffurflen Swyddi Gwag i Gyflogwyr a'i chyflwyno i employerjobs@gllm.ac.uk - bydd y swyddi gwag yn cael eu rhoi ar wefan y coleg a'u hamlygu i fyfyrwyr.
  • Mae gan Goleg y Cymoedd gampysau yn Aberdâr, Nantgarw, Rhondda (Llwynypia) ac Ystrad Mynach. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Coleg y Cymoedd. I drafod eich swyddi gwag, cysylltwch â thîm y Ganolfan Gyflogaeth ar 01443663229/07971341251 neu e-bostiwch Futures@Cymoedd.ac.uk 
  • Gall Coleg Pen-y-bont ar Ogwr drafod amrywiaeth o ddulliau ar gyfer cefnogi recriwtio ar gyfer busnesau o unrhyw faint ledled De Cymru. Gellir dod o hyd i ragor o cyfleoedd.co.uk a chysylltu â Steve Jones - Cyfleoedd@bridgend.ac.uk neu 01656 302302 est 184
  • Mae gan Goleg Cambria chwe safle ledled y Gogledd-ddwyrain sy’n cynnig cyrsiau. Gall busnesau ddarganfod sut i hysbysebu swyddi gwag ar y Siop Swyddi ar lein. Cewch wybodaeth hefyd am sut i gynnig profiad gwaith i fyfyrwyr.
  • Mae Coleg Sir Gâr sy’n cwmpasu ardaloedd Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn galluogi busnesau i hysbysebu swyddi ar draws pob campws. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Filipe Nunes, Filipe.Nunes@colegsirgar.ac.uk neu 07468 470 245.

  • Hysbysebu cyfleoedd ym Met Caerdydd - Gallwch hysbysebu swyddi’n uniongyrchol i fyfyrwyr ar safle swyddi mewnol Met Caerdydd, MetHub. I hysbesbu swydd, bydd angen cofrestru a chreu cyfrif. Caiff eich cyfrif ei gymeradwyo mewn 2-3 diwrnod gwaith ac wedyn, cewch lwytho swyddi’n syth i’r safle. Cofrestrwch gyda MetHub ar-lein. Am ragor o help, cysylltwch â careers@cardiffmet.ac.uk.

  • Mae Cwmni Hyfforddiant Cambrian yn darparu hyfforddiant prentisiaeth sy’n seiliedig ar waith ledled Cymru ac mae'n arbenigo mewn cefnogi busnesau yn y sector Lletygarwch a Thwristiaeth.
    Bydd eu tîm yn trafod eich anghenion busnes a’r cyllid sydd ar gael i recriwtio a hyfforddi staff a gallent gefnogi eich busnes i wneud cais am leoliadau Kickstart (Saeneg yn unig), helpu i hysbysebu a recriwtio prentis yn rhad ac am ddim a darparu hyfforddiant prentisiaeth o ansawdd uchel: Hysbysebir eu swyddi prentisiaeth gwag ar eu gwefan, gwasanaeth cenedlaethol swyddi gwag prentisiaeth a'u cyfryngau cymdeithasol. I gael gwybod mwy, cysylltwch â thîm Hyfforddiant Cambrian.

Byddwn yn parhau i wirio a rhannu'r math hwn o wybodaeth, yn y cyfamser, cysylltwch â'ch coleg lleol i weld a allant helpu i hysbysebu eich swyddi gwag.


Mentrau/ymgyrchoedd recriwtio lleol

  • Mae Cyngor Bwrdeistref Conwy wedi creu ymgyrch recriwtio newydd ar gyfer y diwydiant twristiaeth a lletygarwch – Fy Ngyrfa yng Nghonwy. Bydd yr ymgyrch yn dangos sut beth ydi gweithio yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch, ac yn defnyddio enghreifftiau go iawn gan bobl sydd eisoes yn gweithio yn y sector. Os yw eich busnes wedi'i leoli yn sir Conwy ewch i Fy Ngyrfa Conwy i gael rhagor o fanylion. 
    I gael rhagor o wybodaeth am yr ymgyrch, neu os oes gennych unrhyw weithwyr a hoffai gael eu cynnwys mewn astudiaeth achos, e-bostiwch jasmin.koffler@conwy.gov.uk. Os oes gennych unrhyw swyddi gwag yr hoffech gefnogaeth recriwtio, e-bostiwch y Swyddog Ymgysylltu: communitiesforwork@conwy.gov.uk.
  • Mae Gwaith Gwynedd yn cefnogi pobl i gael gwaith ac mae hefyd yn cefnogi busnesau lleol gyda recriwtio. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Gwynedd - ffoniwch: 01286 674698 / 07980923934 neu e-bostiwch: GwaithGwynedd@gwynedd.llyw.cymru.
     

Ym mis Medi 2019, ar ôl trafod yn eang â rhanddeiliaid, ffurfiwyd partneriaeth sgiliau sy’n cael ei harwain gan y diwydiant. Penodwyd Cadeirydd annibynnol ym mis Rhagfyr, a threfnwyd bod Croeso Cymru yn darparu gwasanaethau ysgrifenyddol. 

Nod y Bartneriaeth yw 

  • casglu gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a cheisio barn y diwydiant 
  • nodi problemau a phryderon o ran prinder pobl a sgiliau
  • cynnig atebion i randdeiliaid yn y sector, er enghraifft, Llywodraeth Cymru, Partneriaethau Dysgu a Sgiliau Rhanbarthol 
  • lledaenu gwybodaeth i'r sector am recriwtio, darparu hyfforddiant, cyllid, arferion gorau etc.

Rôl y Bartneriaeth fydd: 

  • rhoi arweiniad a phennu chyfeiriad y diwydiant twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru mewn perthynas â materion sy’n gysylltiedig â sgiliau
  • annog rhannu gwybodaeth a chynnig atebion er mwyn mynd i'r afael â phryderon
  • ystyried blaenoriaethau strategol a nodwyd gan randdeiliaid 
  • cynghori ar y camau gweithredu a'r adnoddau sydd eu hangen er mwyn cyflawni canlyniadau strategol
  • rhoi arweiniad ar wella'r sylfaen sgiliau yn y sector, ac ar ddenu newydd-ddyfodiaid a chadw gweithwyr proffesiynol medrus.

Er i drafodaethau barhau yn ystod 2020, cyfarfu'r bartneriaeth lawn am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr 2020 oherwydd y cyfyngiadau a oedd yn ganlyniad i Covid-19. 

Dyddiad y Cyfarfod: 3 Rhagfyr 2020.
Yn y cyfarfod hwn, aeth y bartneriaeth ati i:

  • Drafod y sefyllfa sydd ohoni o ran sgiliau yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch 
  • Lansio'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg ym maes Twristiaeth a Lletygarwch
  • Lansio adolygiad Cymwysterau Cymru o gymwysterau ym maes Teithio, Twristiaeth, Lletygarwch ac Arlwyo.
  • Trafod canfyddiadau allweddol adroddiadau diweddaraf y Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol ar effaith Covid-19 ar sgiliau a chyflogaeth ym maes Twristiaeth a Lletygarwch.  
  • Trafod canfyddiadau'r Partneriaethau Sgiliau Rhanbarthol
  • Trafod materion sy'n effeithio ar brentisiaid.

Dyddiad y Cyfarfod: 28 Ionawr 2021
Bu’r bartneriaeth yn trafod:

  • Y cymorth sydd ar gael i unigolion a busnesau yng Nghymru sgiliau a recriwtio, gan gynnwys:
  • Y Rhaglen Sgiliau Hyblyg
  • Cyfrifon Dysgu Personol
  • Rhaglen Kickstart
  • Cymru'n Gweithio

Wrth edrych i'r dyfodol, bydd y grŵp yn

  • parhau i gasglu a lledaenu gwybodaeth am anghenion y diwydiant o ran sgiliau, hyfforddiant a recriwtio
  • parhau i ymgysylltu â'r diwydiant drwy'r bartneriaeth
  • gweld pa ddata sydd gennym – nodi beth arall sydd angen inni ei wybod
  • ystyried sut i helpu busnesau i ddechrau arni’n gyflym unwaith y byddant yn cael dyddiad agor
  • ystyried sut i fynd i'r afael â chanfyddiadau am yrfaoedd ym maes Twristiaeth a Lletygarwch
  • nodi problemau ac atebion posibl ym maes sgiliau a recriwtio yn y tymor canolig a’r hirdymor

I gael rhagor o wybodaeth am y bartneriaeth, cysylltwch â Kerry.Thatcher@llyw.cymru.
 

Ganolfan Byd Gwaith

Gall y Ganolfan Byd Gwaith gynnig cymorth a chefnogaeth i fusnesau wrth recriwtio a chyflogi pobl. Mae rhagor o wybodaeth am sut y gallant helpu eich busnes ar gael ar wefan Cymorth i recriwtwyr gan y Ganolfan Byd Gwaith - GOV.UK (www.gov.uk).


Recriwtio Prentis

I gael gwybod sut y gall recriwtio prentis fod yn dda i'ch busnes, a pha gymorth sydd ar gael gyda chostau, ewch yma


Y Porth Sgiliau

Mae ymgyrch newydd wedi lansio i hyrwyddo'r cymorth pwysig sydd ar gael i fusnesau i'w helpu i ddelio â phwysau parhaus coronafeirws, a chynllunio ar gyfer dyfodol mwy llewyrchus.

Bydd yr ymgyrch 'Yn Gefn i Chi' yn annog cwmnïau ar hyd a lled Cymru i fanteisio ar y cyngor a'r arweiniad sgiliau a chyflogaeth sydd ar gael drwy’r Porth Sgiliau i Fusnes ar-lein.

Mae amrediad o gymorth ar gael, fel:

  • cymorth i ddatblygu galluoedd staff 
  • cyngor gyda rhaglenni recriwtio a hyfforddi
  • llyfryn i esbonio'r holl sgiliau a chymorth recriwtio sydd ar gael i gyflogwyr

Gwasanaeth pwrpasol AM DDIM i gyflogwyr: Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl

Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi rhwydwaith o Hyrwyddwyr Cyflogaeth Pobl Anabl, gyda chefnogaeth Cynghorwyr Cyflogaeth Pobl Anabl Busnes Cymru, i roi cyngor, gwybodaeth a chymorth i gyflogwyr ledled Cymru.

Gall unrhyw fusnes yng Nghymru sydd â diddordeb mewn cynyddu amrywiaeth eu gweithlu – gan gynnwys gwybod mwy am yr holl fanteision a'r gefnogaeth sydd ar gael i gyflogi pobl anabl – gysylltu â'r Hyrwyddwyr yn DPEC@llyw.cymru.

Ewch i wefan Busnes Cymru am fwy o fanylion.


Y Rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol

Helpwch eich staff presennol i gael y cymwysterau a'r sgiliau sydd eu hangen ar eich busnesau drwy gwrs coleg sy’n hyblyg ac am ddim. 

Cyflwynir Cyfrifon Dysgu Personol gan golegau ledled Cymru a fydd yn hapus i drafod eich anghenion hyfforddi penodol. Dysgwch fwy a chofrestrwch eich diddordeb drwy'r Porth Sgiliau.


Y Gwasanaeth Cymorth Busnes Ar-lein (BOSS)

Mae BOSS yma i'ch helpu chi a'ch gweithwyr i ddatblygu’ch sgiliau er budd eich busnes. Mae’n ffordd syml o ddysgu ar-lein sydd ar gael yn rhad ac am ddim. Mae cyrsiau ar gael ar:

  • Gyllid
  • TG 
  • Marchnata
  • Syniadau Busnes a Chynllunio Busnes − a llawer mwy.

Mae'r cyrsiau'n ddwyieithog, yn gyfoes, ac mae mynediad ar gael iddynt 24/7 mewn ffordd sy’n addas ar eich cyfer chi. Gallwch sgwrsio’n fyw ac mae llinell gymorth ar gael dros y ffôn i'ch cefnogi. I gael gwybod mwy ac i wylio fideo byr sy’n esbonio beth sydd ar gael a sut y gall eich helpu, ewch i https://businesswales.gov.wales/boss/cy.


Y Rhaglen Sgiliau Hyblyg ar gyfer Twristiaeth a Lletygarwch

Mae cyllid ar gael i helpu gweithwyr sy’n cael eu cyflogi gan fusnesau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru i fynd ar gyrsiau hyfforddi sy'n berthnasol i'r sector. Gall hyn gynnwys hyfforddiant wyneb yn wyneb, neu ar-lein.  

Yr uchafswm y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gyfrannu fydd £25,000, a bydd Llywodraeth Cymru yn cyfrannu 50% o gost yr hyfforddiant.

Nid oes gofyn defnyddio unrhyw gwmni hyfforddi penodol – caiff yr ymgeisydd ddewis unrhyw ddarparwr hyfforddiant ardystiedig. Rhaid i'r hyfforddiant a gefnogir ar y rhaglen hon gael ei achredu yn unol ag un o safonau cydnabyddedig y diwydiant.

Mae’r hyfforddiant y gellir ei gefnogi o dan y rhaglen hon yn cynnwys

  • Gweithgareddau sy'n gysylltiedig â Covid, gan gynnwys hyfforddiant iechyd a diogelwch
  • Hyfforddiant arbenigol e.e. Coginio Proffesiynol, bwyd a diod, cadw tŷ, hyfforddwr awyr agored/rhaffau uchel
  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth
  • Gwasanaethau i Gwsmeriaid
  • TGCh a Sgiliau Digidol
  • Twristiaeth Gynaliadwy

I weld a yw’ch busnes chi’n gymwys ac i gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Sgiliau Hyblyg.

Llesiant

Mae cyflogwyr yng Nghymru wedi cydnabod ers tro byd bod angen hybu a chefnogi iechyd a llesiant gweithwyr, gan gynnwys cydbwysedd da rhwng bywyd a gwaith a ffordd iach o fyw.

Gall manteision mynd i'r afael â llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol gweithwyr arwain at:

  • lefelau is o salwch ac absenoldeb 
  • gwell cynhyrchiant
  • gwaith o ansawdd uwch
  • mwy o ddiddordeb gan staff yn eu gwaith
  • llai o drosiant staff  

Mae gan weithwyr sy'n cael cymorth i berchenogi eu llesiant eu hunain:

  • lefelau is o straen
  • mwy o gymhelliant
  • gwell morâl 
  • mwy o foddhad yn eu swyddi
  • ymwybyddiaeth uwch o lesiant cydweithwyr

Mae'r wybodaeth a gyflwynir yma yn cynnig arweiniad, dulliau a chefnogaeth ichi sefydlu a datblygu diwylliant llesiant yn eich busnes, ac i gynnwys gweithwyr yn y sgwrs ar iechyd yn y gweithle. 


Cymru'n Gweithio – cymorth i unigolion

Dyma raglen Llywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad diduedd i unigolion ar gyflogadwyedd a gyrfaoedd, yn rhad ac am ddim.

Gall helpu pobl  

  • y mae angen cymorth arnynt i gael swydd gyflogedig neu i chwilio am waith
  • sydd wedi colli’u swyddi, yn ogystal â phobl sy'n cael eu cyflogi ar hyn o bryd a hoffai wella’u sgiliau.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cymru'n Gweithio.