Ariannu a Chymorth
Llywodraeth Cymru
Bydd modd i Gymru Greadigol gynnig Cymorth ariannol. Bydd yn parhau i gynnig cyllid pan fo tystiolaeth bod y farchnad yn methu neu os oes angen cymorth strategol gan y Llywodraeth a bydd ganddo gyllideb flynyddol benodedig i fuddsoddi mewn cyfleoedd economaidd pellach.
Rydym yn cydnabod bod rhan helaeth o sector y diwydiannau creadigol yn llawrydd/hunangyflogedig a bydd twf parhaus y sector yn dibynnu ar amrywiaeth o fodelau ariannu gwahanol. Rydym yn awyddus i gyllid y dyfodol fod yn hyblyg ac y bydd penderfyniadau’n ystwyth, gan ddangos mwy o awch am risg ac y bydd yn sicrhau y gellir datblygu a chadw eiddo deallusol yn y sector yng Nghymru. Mae’n rhaid i’r amser a dreulir yn gwneud penderfyniadau cyllid fod yn gymesur i lefel y cyllid y gwneir cais amdano a’r risgiau cysylltiedig.
Bydd cymorth yn parhau i gynnwys ymyrraeth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru drwy amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys grantiau a nawdd. Fodd bynnag, byddwn yn ystyried hefyd ffrydiau cyllid eraill sydd ar gael i’r sector fel Banc Datblygu Cymru, cyllid y sector preifat a’r trydydd sector a bydd rôl Cymru Greadigol yn helpu i hwyluso’r partneriaethau ariannol hyn.
Pan fo busnesau’n chwilio am gymorth ariannol uniongyrchol gan Gymru Greadigol, bydd gofyn iddynt ymrwymo i Gontract Economaidd gyda’r nod o ysgogi twf, cynyddu cynhyrchiant a gwneud Cymru’n decach a mwy cystadleuol. Un prif ystyriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru drwy Gymru Greadigol fydd gweld unigolion yn cael cyflogaeth deg ac amodau a thelerau teg.
Gellir dod o hyd i ragor o fanylion am fecanweithiau cyllido, fel a phryd y cânt eu cyhoeddi, ar wefan Creative Wales.
SEFYDLIADAU ALLANOL
Ffilm Cymru Wales -
Nod Ffilm Cymru Wales yw helpu datblygu’r sector ffilm yng Nghymru ac uchafu elw economaidd, addysgol a ddiwylliannol ffilm.
Maent yn cefnogi ysgrifenwyr Cymreig neu rhai wedi ymgartrefi’n Gymru, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr trwy ariannu cynhyrchu, a thrwy gymorth gan y diwydiant a chyfleoedd mentora. Maent hefyd yn cefnogi’r defnydd o ffilm mewn addysg ac adfywiant cymunedol.
Ewch i wefan Ffilm Cymru Wales am fwy o wybodaeth.
Cymorth Treth y DU
Uned ardystio'r Sefydliad Ffilm Brydeinig (BFI) yw’r cyswllt gyntaf i ymgeiswyr sy’n disgwyl ardystio’i ffilm, rhaglen teledu proffil uchel, rhaglenni animeiddio a gemau fideo yn Brydeinig i gael mynediad i gymorth trethi sector creadigol y DU.
Edrychwch ar wefan y Sefydliad Ffilm Brydeinig (BFI) am fwy o wybodaeth.
Dilynwch ddolen y Sefydliad Ffilm Brydeinig (BFI) am fanylion pellach ynghylch Cymorth Treth y DU