BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Datganiad hygyrchedd

Caiff y wefan hon ei rhedeg gan Busnes Cymru. Rydym ni’n awyddus i gymaint â phosibl o bobl allu defnyddio’r wefan hon. Mae hynny'n golygu y dylech chi allu:

  • newid lliwiau; lefelau cyferbynnedd a’r ffontiau
  • chwyddo i mewn hyd at 300% heb i’r ysgrifen gael ei gwthio oddi ar ymyl y sgrîn
  • symud o gwmpas y rhan fwyaf o’r wefan gyda dim ond y bysellfwrdd
  • symud o gwmpas o fewn y rhan fwyaf o’r wefan gyda meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gyda darllenydd sgrîn (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym ni hefyd wedi sicrhau bod iaith y wefan mor syml ac eglur i’w ddeall ag y bo modd.

Mae cyngor ar AbilityNet ynglŷn â gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn ymwybodol bod rhai rhannau o’r wefan hon nad ydynt yn gwbl hygyrch:

  • dim modd addasu uchder llinellau na llinelliad y testun
  • meddalwedd darllen sgrîn ddim yn gweithio’n llwyr gyda’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn
  • rhai o’n ffurflenni ar-lein yn anodd eu trin gyda bysellfwrdd yn unig
  • efallai na fyddwch yn gallu neidio dros y prif gynnwys wrth ddefnyddio rhai darllenwr sgrin

Os nad yw rhai rhannau o’r wefan yn hygyrch

Os oes arnoch chi angen gwybodaeth oddi ar y wefan hon ar wahanol ffurf megis PDF hygyrch, print mawr, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Byddwn yn ystyried eich cais a chysylltu gyda chi mewn 7 diwrnod.

Rhoi gwybod am broblemau wrth ddefnyddio’r wefan hon

Rydym ni’n awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon bob amser. Os byddwch yn gweld unrhyw broblemau nad ydynt wedi eu rhestru ar y dudalen hon neu os nad ydych yn teimlo ein bod yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni:                      

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os nad ydych chi’n fodlon â’r ffordd yr ymatebwn i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni dros y ffôn neu alw i’n gweld

Gofynnir Ofcom i bob cwmni llinell dir a ffôn symudol ddarparu nifer o wasanaethau ar gyfer cwsmeriaid ag anableddau.  Gallwch ddefnyddio'r gwasanaeth text relay o'ch dewis i gysylltu â Busnes Cymru.

Mae gan ein swyddfeydd ddolenni sain, neu os cysylltwch gyda ni cyn eich ymweliad, byddwn yn gwneud pob ymdrech i drefnu dehonglydd Iaith Arwyddo Brydeinig (BSL).

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Gwybodaeth dechnegol ynglŷn â hygyrchedd y wefan hon

Mae Busnes Cymru’n ymroddedig i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, oherwydd yr elfennau isod nad ydynt yn cydymffurfio.

Problemau cysylltiedig â thechnoleg

Mae’r dechnoleg anhygyrch wedi’i amlinellu isod:

  • dim modd i ddefnyddwyr addasu llinelliad y testun nac uchder llinellau.

Problemau gyda’r testun

Mae’r dechnoleg anhygyrch wedi’i amlinellu isod:

  • penawdau wedi eu trefnu’n anghywir ar rai tudalennau
  • disgrifiadau testun delweddau yn rhy hir / disgrifiadau testun delweddau ar goll ar rai tudalennau
  • testun dolen ar goll ar rai tudalennau 
  • tablau sydd angen capsiwn disgrifiadol ar rai tudalennau
  • tablau sydd angen enw a/neu ddisgrifiad ar rai tudalennau
  • tablau sydd â phenawdau colofnau gwag ar rai tudalennau
  • tablau sydd, mewn rhai achosion, yn or-gymhleth eu strwythur ar rai tudalennau
  • testun dolen wedi ei ddyblygu ar rai tudalennau
  • tablau cymhleth sydd angen celloedd pennawd a data wedi’u cysylltu’n glir ar rai tudalennau
  • dolenni cyfagos i’r un lleoliad ar rai tudalennau
  • angen i rywfaint o destun dolenni fod yn fwy disgrifiadol mewn mannau
  • rhai dolenni yn mynd i dudalennau nad ydynt yn bodoli mwyach, sydd â mynediad cyfyngedig iddynt neu’n mynd i dagiau angor nad ydynt yn bodoli
  • priodweddau HTML wedi dyddio ar dagiau paragraffau ar rai tudalennau

Problemau gyda dogfennau PDF a dogfennau eraill

Nid yw rhai o’n dogfennau PDF a dogfennau eraill hŷn yn bodloni safonau hygyrchedd.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni newid dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw gynlluniau i wneud y dogfennau PDF neu ddogfennau eraill hyn yn hygyrch.

Dylai unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau newydd a gyhoeddwyd gennym ers 23 Medi 2018 fodloni safonau hygyrchedd.
Mae rhai o’n dogfennau PDF a dogfennau eraill yn hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ni: 

  • ddogfennau PDF sy’n darparu gwybodaeth i ddefnyddwyr am sut i ddefnyddio ein gwasanaethau
  • ffurflenni a gyhoeddir ar ffurf dogfennau Word. 

O fis Mawrth 2022, ein bwriad yw un ai diwygio’r dogfennau’r PDF a’r dogfennau hanfodol hyn neu greu tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.
 

Problemau gyda delweddau, fideo a sain

Mae’r delweddau, fideo a sain anhygyrch wedi’u hamilnellu isod:

  • mae’r tagiau alt (testun amgen) ar goll ar rai delweddau
  • mae angen i’r tagiau alt fod yn fwy disgrifiadol ar rai delweddau 
  • dyblygu tagiau alt ar ddelwedd
  • nid oes capsiynau ar gyfer fideos sy’n cael eu ffrydio’n fyw

Problemau gydag elfennau a thrafodiadau rhyngweithiol 

Mae’r elfennau a’r trafodiadau rhyngweithiol anhygyrch wedi’u hamlinellu isod:

  • Mae rhai o’n ffurflenni rhyngweithiol yn anodd eu trin gyda bysellfwrdd. Er enghraifft
  • mae ein ffurflenni yn cael eu creu a’u lletya drwy feddalwedd trydydd parti a’u ‘hailddylunio’ i edrych fel ein gwefan.

Rydym ni wedi asesu cost cyweirio’r problemau cysylltiedig â defnyddio’r ffurflenni gyda bysellfwrdd a chredwn y byddai gwneud hynny ar hyn o bryd yn faich afresymol o fewn ystyr y rheoliadau hygyrchedd. Byddwn yn cynnal asesiad arall yn Mehefin 2023.
 

Sut y profwyd y wefan hon

Profwyd y wefan hon am hygyrchedd dros y 2 flynedd ddiwethaf. Cynhaliwyd y profion hyn gan S8080.

  • Profwyd templedi ein gwefan sy’n gwneud y gwahanol fathau o dudalennau gwe a ddefnyddir ar Busnes Cymru trwy ddefnyddio Axe ar 28 Hydref 2021
  • Aethom ati i gynnal gwiriad gwefan hyfyrchedd llawn trwy ddefnyddio SortSite ym mis Ionawr 2022.

Yn ystod gwiriad SortSite ym mis Ionawr wnaethom gynnal sganiau wedi'u hatomeiddio ar gyfer bob gwall AA WCAG2.1.

Rydym wedi profi prif blatfform ein gwefan, ar gael ar businesswales.gov.wales a busnescymru.llyw.cymru a’n his-wefannau, ar gael ar:

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Mae newidiadau sylweddol sy’n cael eu gwneud neu is-wefannau newydd sy’n cael eu hychwanegu’n cael eu sganio cyn cael eu rhyddhau i’r cyhoedd.

Rydym wedi mynd i'r afael a gwirio’r holl faterion hygyrchedd technegol hysbys.

Rydym yn mynd i'r afael â materion sy’n codi a'u gwirio, mae hon yn broses barhaus wrth i gynnwys newydd gael ei ychwanegu’n ddyddiol.

Rydym yn gweithio gyda’r cyflenwr i fonitro a rhoi sylw parhaus i unrhyw broblem gysylltiedig â hygyrchedd a gyfyd yn ystod y gwaith parhaus o ddatblygu a diweddaru’r wefan.

Paratowyd y datganiad hwn ar 27 Hydref 2022.